Mae dyn o Warrington wedi codi £1,200 i Ambiwlans Awyr Cymru i ddiolch i'r elusen am achub bywyd ei dad yn 2017.

Aeth Scott Owen, 38 oed, ati i redeg ei farathon cyntaf yng Nghaer y mis hwn.

Cafodd tad Scott, Ashley Owen, 61 oed, drawiad mawr ar y galon ar draeth pellennig yng Nghymru - Porth Towyn, Tudweiliog - bedair blynedd yn ôl.

Dywedodd Scott, sy'n gweithio ym maes gweithrediadau ar gyfer Skills for Security: “Gwnaeth Ambiwlans Awyr Cymru achub fy nhad o draeth pellennig yn y gogledd yn 2017 ar ôl iddo gael trawiad mawr ar y galon, a chafodd ei hedfan i'r ysbyty ar gyfer llawdriniaeth frys. Pe na bai'r elusen wedi gallu helpu, ni fyddai wedi goroesi siŵr o fod felly wnes i redeg y marathon i geisio codi arian i ddweud diolch. Allwn ni byth ad-dalu gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru am ei hymdrechion y diwrnod hwnnw.”

Fe wnaeth mwynhau rhedeg Marathon Caer am y 21 milltir cyntaf ond roedd y pum milltir olaf yn ‘artaith bur’, ac amser gorffen y marathon i Scott oedd 3:59.02.

Cyflawnodd Scott, sy'n dad i blentyn bach, ei darged codi arian gwreiddiol o £500 yn rhwydd gan godi £1,200 ond dywedodd y byddai wedi hoffi codi mwy o arian i'r elusen.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.  

Dywedodd Debra Sima, un o Weithwyr Codi Arian Cymunedol yr Elusen: “Mae'n hyfryd clywed straeon am aelodau teulu yn codi arian i'n Helusen i ddiolch i ni am achub bywydau eu hanwyliaid. Llongyfarchiadau i Scott am gwblhau Marathon Caer. Fe gododd swm gwych i Ambiwlans Awyr Cymru. Hefyd, diolch yn fawr iawn i bawb a roddodd arian iddo ac a'i gefnogodd ar y diwrnod. Bydd pob rhodd yn helpu i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr fel y gallwn barhau i fynd â'r adran achosion brys at y claf, gan arbed amser ac achub bywydau – fel bywyd Ashley.”

Mae dal cyfle i gefnogi Scott drwy roi arian drwy ei dudalen Just Giving – Scott's Marathon – Wales Air Ambulance

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.