Mae dyn o Geredigion wedi cwblhau sialens ffitrwydd eithafol – triathalon 24-awr – am yr ail waith!

Ar ddechrau'r cyfnod clo cyntaf yn 2020, gosododd Russell Williams her anferthol iddo'i hun i gwblhau Ironman yn ei heuldy, gan godi £4,400 i dri achos da.

Dywedodd y tad i ddau o blant: “Rwyf wrth fy modd â sialens, a gan ei bod yn teimlo fel amser maith ers i mi gwblhau'r ironman yn fy heuldy, roedd yn bryd i mi fynd gam ymhellach a rhoi cynnig ar rywbeth arall.”

Gwnaeth Russell ymgymryd â thriathalon 24-awr a oedd yn cynnwys nofio 9km (hyd pwll 360 o weithiau), taith feic 170 milltir a rhedeg 27 milltir er budd Ambiwlans Awyr Cymru, Pwll Nofio Aberteifi a Nathan Ford, y pencampwr triathalon a ddioddefodd anafiadau newid bywyd ar ôl damwain beic modur y llynedd.

Mae Russell yn falch iawn o fod wedi codi £3,500 i'r achosion da hyd yma. Ychwanegodd: “Yn yr amser heriol sydd ohoni, rwy'n ddiolchgar iawn ac yn teimlo'n ostyngedig fod pobl yn barod i roi ac i fy nghefnogi i godi arian i'r achosion teilwng yma.”

Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.

Wrth adlewyrchu ar y sialens 24-awr, dywedodd Russell: “Aeth y sialens yn dda iawn, er y tywydd gwael, y gwynt cryf a'r glaw, roedd pobl gyda mi yn fy nghefnogi y rhan fwyaf o'r amser. Gwnaeth ffrind nofio gyda mi, a gwnaeth amryw o bobl eraill ymuno â mi ar adegau gwahanol o'r daith feicio. Daeth grŵp o ffrindiau hefyd i ymuno â mi yn oriau mân y bore i redeg y pellter gyda mi, a gwnaeth llawer iawn mwy ymuno tuag at y diwedd, felly roedd gen i ddigon o gefnogaeth ac ysgogiad.

Nid yw Russell o Benparc, bob amser wedi gwneud ymarfer corff ond, ar ôl trawiad ar y galon yn 28 oed yn 2008, roedd yn fwy penderfynol o fyw bywyd i'r eithaf.Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, dechreuodd wneud ymarfer corff.

Dywedodd: “Newidiodd cael trawiad ar y galon mor ifanc newid fy agwedd tuag at fywyd – mae angen i chi gredu i gyflawni. Mae gen i ffrind ysgol a oroesodd ganser, a dywedodd wrthyf, pan oeddwn i'n sâl, i ddal i fyw, anadlu a chredu.”

Dywedodd Dougie Bancroft, un o swyddogion codi arian cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Fel y gwyddom, mae Russell wedi hen arfer gwthio ei gorff i'r eithaf er budd elusennau. Unwaith eto, mae wedi ymgymryd â her enfawr, y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn cilio ohoni, a'i chwblhau'n llwyddiannus. Diolch yn fawr Russell am ddewis Ambiwlans Awyr Cymru fel un o'r elusennau a fydd yn cael budd o'r sialens codi arian. Caiff y cymorth parhaus i'r elusen sy'n achub bywydau ei werthfawrogi'n fawr iawn. Rydych yn ein helpu i sicrhau y gallwn barhau i wasanaethu pobl Cymru pan fydd ein hangen arnynt fwyaf.” 

Mae cyfle o hyd i gefnogi Russell drwy roi arian drwy ei dudalen Just Giving https://www.justgiving.com/crowdfunding/24hourtri

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.