Mae un o wirfoddolwyr Ambiwlans Awyr Cymru wedi herio ei hun i lanhau 20 o draethau fel rhan o'i gweithgarwch codi arian Fy20 ar gyfer yr Elusen.

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dathlu ei phen-blwydd yn 20 oed ac i gydnabod y garreg filltir, mae'r Elusen wedi creu digwyddiad codi arian newydd o'r enw Fy20. Mae Fy20 yn galluogi cyfranogwyr i ddewis gweithgaredd, her neu dasg sy'n ymwneud â'r rhif ‘20’.

Bydd Rosie Hemsley, o Landysul, yn glanhau'r 20 o draethau mewn lleoliadau sy'n agos at ei chartref yn ystod mis Mawrth, ac mae'n ystyried yr her yn ‘ffactor cymhellol personol yn ystod y cyfyngiadau symud hyn’.

Gan fyfyrio ar y rhesymau dros ddewis yr her hon, dywedodd Rosie: “Penderfynais wneud y gweithgarwch hwn oherwydd mae'n gwneud rhywbeth cadarnhaol i'r amgylchedd lleol, yn ogystal â chodi arian sydd mor angenrheidiol i Ambiwlans Awyr Cymru, gobeithio. Rwyf wedi bod yn frwdfrydig am amgylchedd y môr erioed, rwyf wedi bod yn sgwba-blymiwr, ac rwy'n gwirfoddoli gyda Chanolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion yng Ngheinewydd.

“Mae ein rôl fel gwirfoddolwyr yn un amrywiol, gan gynnwys cynnal arolygon o anifeiliaid y môr (dolffin trwynbwl yn bennaf) ac ymgysylltu â'r cyhoedd. Cyn i gyfyngiadau symud COVID-19 ddod i rym, gwnaethom drefnu llawer o ddigwyddiadau cyhoeddus i lanhau traethau.

“Yn ystod y cyfyngiadau symud, mae llawer ohonom ni, y gwirfoddolwyr, yn dal i lanhau'r traethau a'r lonydd ger ein cartrefi, ac mae wedi bod mor ysbrydoledig i weld pobl allan gyda'u plant ac yn cerdded eu cŵn yn gwneud yr un peth. Mae'r swm o blastig sydd yn ein moroedd, a'r niwed mae hynny'n ei wneud i fywyd gwyllt, yn ofnadwy.”

Mae Rosie wedi codi £155 ar gyfer y digwyddiad codi arian yn barod. Gan fyfyrio ar bwysigrwydd yr Elusen, meddai: “Yn fy marn i, mae Ambiwlans Awyr Cymru yn darparu gwasanaeth hanfodol i boblogaeth Cymru. O'i phedair canolfan, gall yr elusen ymateb yn gyflym i alwad o unrhyw ran o'r wlad a chyrraedd mannau na all ambiwlansys tir eu cyrraedd, megis mynyddoedd, clogwyni a damweiniau drwg ar draffyrdd.

“Yn bersonol, rwy'n teimlo'n fwy diogel o lawer yn gwybod bod y gwasanaeth ar gael.”

Dywedodd Helen Pruett, Swyddog Codi Arian Cymunedol yr Elusen yng Ngogledd Powys: “Pob lwc i Rosie yn ei Her Fy20. Nid yn unig mae'n codi arian ar gyfer ein Helusen, ond mae hefyd wedi dewis gweithgaredd a fydd o fudd i'r cyhoedd a bywyd y môr. Diolch i bawb sydd wedi noddi Rosie hyd yma. Rydym yn gwerthfawrogi eich nawdd yn fawr ac mae'n helpu i gadw ein gwasanaeth 24/7 yn weithredol.”

Os bydd unrhyw un yn ystyried glanhau traethau fel rhan o'r her hon, neu'n gyffredinol, hoffai Rosie nodi'r canlynol:

  • Defnyddiwch ffon codi sbwriel, dylech osgoi cyffwrdd ag eitemau, yn enwedig masgiau a chyfarpar diogelu personol sydd wedi'u gwaredu.
  • Gwisgwch fenig a defnyddiwch lanweithydd dwylo.
  • Os dewch ar draws unrhyw eitemau miniog, dilynwch gyngor lleol ar sut i'w gwaredu.

Nid yw Rosie wedi pennu targed codi arian iddi ei hun, ond mae'n gobeithio codi cymaint o arian â phosibl. Gallwch ei noddi drwy ei thudalen Just Giving, sef Rosie Hemsley Fy20 / My20.