Ni fydd Jorgie Faith Griffin fach yn nodi ei phen-blwydd cyntaf drwy agor llu o anrhegion fel y rhan fwyaf o fabanod, gan ei bod hi ‘wedi cael yr anrheg orau bosibl – ei bywyd’!

Mae'r teulu o Abercarn wedi gofyn am roddion i'r elusen a helpodd Jorgie ar ôl iddi gael ei geni'n gynnar y llynedd, yn lle anrhegion i nodi ei phen-blwydd.

Dywedodd ei mam ddiolchgar, Lucy: “Eleni, fyddwn ni ddim yn rhoi anrhegion i Jorgie ar gyfer ei phen-blwydd cyntaf. Yn hytrach, byddwn ni'n rhoi arian i'r elusen, ac rydyn ni'n gofyn yn garedig i'n teulu a'n ffrindiau wneud hynny hefyd. Mae'n benderfyniad mawr peidio â rhoi anrhegion iddi ar ei phen-blwydd, ond mae'n werth chweil.

“Mae Jorgie wedi cael yr anrheg orau bosibl, sef bywyd, diolch i gyfraniad y bobl wych hyn. Rydyn ni'n gwneud hyn am fod Jorgie wedi cael yr anrheg orau bosibl, sef bywyd, diolch i gyfraniad Ambiwlans Awyr Cymru; does dim angen pethau materol arni hi er mwyn profi a dangos ein bod ni'n ei charu.”

Bydd Jorgie, a gafodd yr enw canol Faith am fod Ambiwlans Awyr Cymru wedi rhoi ffydd i'w theulu, drwy ei hedfan yn ôl adref o Gernyw ar ôl yr enedigaeth annisgwyl, yn dathlu ei phen-blwydd ar 8 Gorffennaf.

Cafodd ei geni chwe wythnos yn gynnar pan oedd ei theulu ar wyliau gwersylla yng Nghernyw. Roedd tad Jorgie, Andy, yn gweithio yng Nghernyw ar y pryd a theithiodd y teulu, yn cynnwys ei brawd, Riley, 7 a'i chwaer, Millie, 4, o'u cartref i gwrdd ag ef. Ar ôl ei genedigaeth anodd, treuliodd 11 diwrnod yn yr ysbyty.

Yn ystod ei bywyd byr mae Jorgie wedi cael profiadau anodd yn cynnwys brwydro sepsis, y clefyd melyn a datblygu anoddefiad bwyd. Er gwaethaf y dechrau anodd a gafodd i'w bywyd, mae Jorgie fach yn ffynnu ac mae wedi cyrraedd ei holl gerrig milltir.

Mae Jorgie bron yn flwydd ac mae newydd ddechrau sefyll ar ben ei hun ac mae'r teulu'n siŵr y bydd hi'n cymryd ei chamau cyntaf cyn hir.

Dywedodd mam falch Jorgie: “Er nad yw Jorgie yn cysgu rhyw lawer – mae hi'n torri dannedd ar hyn o bryd – rwy'n dal i ddeffro bron bob noson, ac yn edrych arni yn ei chrud i sicrhau bod ei bol bach hi'n mynd i fyny ac i lawr. Roedden ni mor agos at ei cholli hi ac rwy'n dal i feddwl ein bod ni wedi bod mor lwcus! A fydd rhywbeth yn mynd o'i le? Fydda i byth yn gallu rhoi digon na chael digon o roddion i ddangos fy ngwerthfawrogiad i Ambiwlans Awyr Cymru.”

Dywedodd Kelly Griffin, modryb Jorgie: “Rydyn ni'n meddwl ei bod yn wych gallu rhoi'n ôl i Ambiwlans Awyr Cymru. Byddwn yn ddiolchgar am byth am bopeth a wnaethant i Jorgie ac efallai na fyddai wedi gallu dathlu ei phen-blwydd cyntaf hebddyn nhw. Dim ond pethau materol yw anrhegion - y cyfan sydd ei angen arni hi yw cariad, ac mae gennym ni ddigonedd o hwnnw i'w roi iddi hi. Mae hi'n rhodd werthfawr.”

Er gwaethaf yr enedigaeth annisgwyl pan oedden nhw ar wyliau gwersylla, mae'r teulu yn dal i hoffi gwersylla. Aeth Jorgie ar ei gwyliau gwersylla cyntaf pan oedd yn 7 wythnos oed ac maen nhw'n gobeithio mynd eto ar ben-blwydd cyntaf Jorgie.

Mae brawd a chwaer hŷn Jorgie yn ei haddoli. Riley yw ffrind gorau Jorgie ac mae hi ‘wedi dwlu arno’, ac mae Millie fel ‘iâr a chyw’ gyda hi.

Mae ffrindiau a pherthnasau'r teulu Griffin wedi bod yn gefnogol iawn a chyrhaeddodd yr ymgyrch codi arian y targed o £200 mewn cyn lleied â phum diwrnod. Cododd teulu Jorgie y targed i £300 a bydd yn rhoi'r £100 y bydden nhw fel arfer wedi'i wario ar ei hanrhegion pen-blwydd cyntaf i'r Elusen. Mae'r ymgyrch codi arian wedi codi £220 hyd yma.

Mae Lucy hefyd yn gwerthu eitemau i godi mwy o arian i'r elusen sy'n achub bywydau.

Dywedodd Mark Stevens, un o reolwyr codi arian Ambiwlans Awyr Cymru: “Pen-blwydd cyntaf hapus i Jorgie. Mae'n hyfryd clywed bod ei theulu wedi dewis gofyn am roddion ariannol yn lle anrhegion ar gyfer ei phen-blwydd arbennig. Mae'n hyfryd clywed bod y babi bach a gludodd Ambiwlans Awyr Cymru i Blant yn ôl i Gymru bellach yn ffynnu a'i bod bron yn flwydd ac ar fin dechrau cerdded. Rydyn ni'n dymuno dyfodol hapus ac iach iddi hi.”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.