21/09/2020

Gwnaeth Huw a Sheila Jones, sy'n nain a thaid, ddathlu 40 mlynedd o briodas drwy dderbyn rhoddion ar gyfer Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn hytrach nag anrhegion.

Cafodd yr elusen sy'n achub bywydau ei dewis i dderbyn y swm hael o £1,000 a godwyd yn ystod dathliadau'r briodas ruddem, gan blant y cwpwl, Sonya ac Aled.

Wrth drafod pwysigrwydd yr Elusen, dywedodd Sonya, sy'n fam i ddau o blant: “Mae'r teulu cyfan yn byw ym mhentref Gwynfe. Mae'n ardal wledig iawn yn Sir Gaerfyrddin ac mae'r ambiwlans awyr wedi bod yma sawl gwaith.

“Mae fy rhieni'n ffermio ac yn cadw defaid a gwartheg. Gan fod yr ardal mor wledig, mae rhai rhannau na allai ambiwlans eu cyrraedd ar y ffordd, yn enwedig os byddai ffermwr ar y tir neu ar y bryn. Mae'n adnodd hollbwysig yn fy marn i.’’

I ddathlu'r garreg filltir, trefnodd y teulu barti syrpreis iddynt cyn y cyfyngiadau symud.

Ar ddiwrnod pen-blwydd y briodas, ar Ddydd Gŵyl Dewi, aeth Sonya, ei gŵr, Emyr, a'u dau o blant, Rhodri a Llyr â Huw a Sheila allan am de prynhawn. Tra roedden nhw'n mwynhau'r te prynhawn, dechreuodd eu mab Aled a'i ŵr, Gareth, baratoi'r bwyd yn barod ar gyfer y dathliadau.

Yn hytrach na'r pryd gyda'r nos roeddent yn ei ddisgwyl, cafodd Huw a Sheila barti gyda 135 o westeion a chacen hyfryd gyda thair haen a wnaed gan eu mab yng nghyfraith, Gareth.

Yn dilyn profedigaeth ddiweddar yn y teulu, roedd Sonya yn falch iawn bod y parti wedi mynd yn ei flaen. Ychwanegodd: “Cawsom de prynhawn hyfryd, ac wrth adael, roedd fy rhieni yn cymryd bod fy mrawd a'i ŵr fwy na thebyg yn mynd â nhw allan am bryd gyda'r nos. Yn hytrach, aethom yn ôl i'r neuadd yng Ngwynfe. Roedd wyneb fy mam yn bictiwr, ac nid yw'n gallu stopio siarad fel arfer.’’

Ar ran y cwpwl hapus, dywedodd Sheila: “Rydym yn ddiolchgar iawn am yr holl roddion gan bawb. Cawsom noson wych gyda theulu, ffrindiau a chymdogion.’’

Dywedodd Mark Stevens, Rheolwr Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru: “Llongyfarchiadau i Huw a Sheila Jones ar 40 mlynedd o briodas. Diolch i'r teulu am ddewis ein helusen sy'n achub bywydau i dderbyn y rhodd. Fel y soniodd Sonya, mae ein meddygon yn mynychu digwyddiadau gwledig yn aml, filltiroedd i ffwrdd o ofal arbenigol. Pobl fel y Jones' sy'n sicrhau y gall y gwasanaeth hwn barhau i gael ei redeg. Diolch i bawb a roddodd arian”