Mae rhingyll yr heddlu o Aberdâr wedi ennill y cyfle i gymryd rhan yn ras mynydd anoddaf y byd er budd Elusen Ambiwlans Awyr Cymru.

Roedd yn gystadleuaeth anodd i Richard Gardiner ennill lle elusennol yn Ras Cefn y Ddraig Montane, a gafodd ei feirniadu gan Huw Brassignton, Lowri Morgan, Dean Thomas, Sanna Duthie a'r cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Shane Williams.

Gwnaeth Ambiwlans Awyr Cymru ymuno â threfnwyr Ras Cefn y Ddraig Montane i gynnig mynediad am ddim i un athletwr lwcus gystadlu yn y ras pellter eithafol ar hyd asgwrn cefn Cymru.

Roedd yn rhaid i enillydd y lle elusennol am ddim addo i godi o leiaf £2,000 i Ambiwlans Awyr Cymru. Bydd Ras Cefn y Ddraig Montane 2022 yn cael ei chynnal rhwng 5 a 10 Medi. Bydd croeso i wylwyr ddod i Gastell Caerdydd ar gyfer y diweddglo mawr.

Nid her i'r gwangalon mohoni – bydd Richard yn rhedeg o Gastell Conwy i Gastell Caerdydd, sef pellter o 380km neu 1.5 marathon y dydd, mewn dim ond chwe diwrnod!

Nid yw gwthio ei gorff i'r eithaf yn rhywbeth dieithr i Richard, sydd â dau blentyn – gorffennodd Farathon Llundain Flora 2007 yn y 13eg safle. Dechreuodd redeg yn naw oed pan ymunodd â Chlwb Athletau Amatur Cwm Aberdâr ac mae wedi cystadlu bob blwyddyn ers hynny.

Yn 13 oed enillodd ei Anrhydedd Ysgolion Cymru ryngwladol gyntaf, ac yna ymunodd â Chlwb Harriers Abertawe pan oedd yn 16 oed, lle bu'n cystadlu dros Ieuenctid Cymru.

Gwnaeth barhau i gael gyrfa rhedeg lwyddiannus ac mae rhai o'i gyflawniadau yn cynnwys: ennill dwy fedal efydd ym Mhencampwriaethau Marathon Prydain.

Yn 37 oed, ymunodd Richard, sy'n briod â Rhianydd, â chlwb rhedeg Aberdâr unwaith eto. Dywedodd: “Fel uwch-athletwr rwyf wedi ennill sawl ras gan gynnwys pob teitl rhedeg pellter yng Nghymru, gan ennill mwy o fedalau aur yng Nghymru ar y cyd nag unrhyw redwr arall. Rwyf wedi cynrychioli Prydain Fawr mewn marathon a hanner marathon. Yn 2011, enillais Deitl Pellter Eithafol y Gymanwlad.”

Yna yn 40 oed, dechreuodd Richard gymryd rhan mewn rasys triathlon ac Ironman, a chynrychiolodd Brydain Fawr mewn triathlon. Roedd hyn cyn iddo ymddeol i fod yn hyfforddwr athletau yng Nghlwb Athletau Aberdâr.

Dathlodd Ambiwlans Awyr Cymru ei ben-blwydd yn 21 oed ar Ddydd Gŵyl Dewi. Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.

Wrth feddwl am y rheswm pam roedd am roi cynnig ar gystadleuaeth yr Elusen, dywedodd Richard: “Dyma'r tro cyntaf ers amser hir i ddigwyddiad fy ysbrydoli i adael fy ymddeoliad yn 48 oed. Pan ddes i'n ymwybodol o'r cyfle i gystadlu dros Ambiwlans Awyr Cymru, roedd yn rhaid i mi roi cynnig arni. Fel gweithiwr brys gyda theulu sy'n gweithio i'r GIG, mae'n anrhydedd gwneud y digwyddiad hwn dros achos mor arbennig.

“Mae bod mewn sefyllfaoedd hanesyddol yn broffesiynol ac wrth redeg cyn bod y gwasanaeth hwn ar gael, a gweld ers hynny yr hyn y gall ei gyflawni, wedi dangos i mi yn bersonol pa mor bwysig yw'r gwasanaeth hwn a pha mor lwcus rydym yng Nghymru ei fod ar gael.”

Ers darganfod ei fod wedi cael ei ddewis i gynrychioli'r elusen sy'n achub bywydau, mae Richard wedi dechrau rhedeg eto.

Ychwanegodd: “Rwyf wedi bod yn rhedeg tua 70 milltir yr wythnos. Rwy'n teimlo'n iawn ar hyn o bryd, ac rwyf wedi colli ychydig o bwysau ymddeoliad, ond bydd angen i'r milltiroedd wythnosol gynyddu'n sylweddol wrth i fisoedd yr haf agosáu.”

Dywedodd Elin Wyn Murphy, Swyddog Codi Arian Digwyddiadau a Phartneriaethau Ambiwlans Awyr Cymru: “Rydym wrth ein bodd bod Richard wedi cael ei ddewis gan ein beirniaid i ennill ein lle am ddim yn Ras Cefn y Ddraig Montane. Mae Richard yn gobeithio codi £3,000 i'n helusen sy'n anhygoel. Drwy godi arian i'r Elusen, bydd Richard yn ein helpu i fod yno i bobl Cymru pan fydd ein hangen fwyaf.

“Mae Richard wedi gadael ei ymddeoliad i gymryd rhan yn Ras Cefn y Ddraig Montane er budd Ambiwlans Awyr Cymru. Mae ei brofiad fel athletwr yn rhyfeddol ac rydym yn ffyddiog y bydd yn cwblhau ras fynydd anoddaf y byd.

“Diolch i bawb a gymerodd ran yn y gystadleuaeth; roedd yn bleser gweld eich fideos.

“Edrychwn ymlaen at gadw mewn cysylltiad â Richard dros y misoedd nesaf, yn ystod ei hyfforddiant, a byddwn yn olrhain ei ddatblygiad yn ystod mis Medi. Pob lwc Richard gan bawb yn Ambiwlans Awyr Cymru.”

Gallwch ddangos eich cefnogaeth i Richard drwy roi arian drwy ei dudalen Go Fund Me: Help me raise funds to help save lives in Wales