Mae'r Ymarferydd Gofal Critigol, Caroline Arter, wedi ennill Gwobr y Lluoedd Arfog yng Nghymru 2021.

Mae'r wobr yn cynnwys enwebeion o'r fyddin arferol a'r fyddin wrth gefn yng Nghymru - yr Awyrlu, y Llynges a'r Fyddin.

Ers 6 blynedd a hanner, mae Caroline wedi bod yn filwr wrth gefn ac wedi gwasanaethu gydag Ysbyty Maes Cymru 203 fel nyrs meddygaeth frys.  Ers dychwelyd o'i thaith ddyletswydd ddiweddar, mae wedi cael ei dyrchafu i fod yn Rhingyll.

Yn ogystal â'i hymrwymiadau milwrol, mae Caroline wedi gweithio fel Ymarferydd Trosglwyddo Hofrenyddion gydag EMRTS ers mis Tachwedd 2019. Yn ddiweddar, mae wedi dod yn Ymarferydd Gofal Critigol a bydd yn dechrau ar ei hyfforddiant ffurfiol ym mis Ionawr 2022.

Bu Caroline yn rhan o Ymgyrch Shader am chwe mis eleni. Ei rôl oedd darparu cymorth clinigol i'r tasglu a oedd ar waith a'r personél â hawl. Roedd yn rhan o dîm o 13 a oedd yn cynnwys dau glinigydd EMRTS arall, sef Dr Pete Williams a Dr Mark Knights. Eu prif ddiben oedd darparu cymorth dadebru a llawdriniaeth i'r lluoedd er mwyn rheoli niwed.

Dywedodd Caroline: “Cefais fy enwebu am y wobr yn bennaf oherwydd y gwaith addysgu clinigol (hyfforddiant trawma, gofal brys cyn-ysbyty a meddygaeth frys) a mentora meddygon lleol a gynhaliais tra oeddwn ar ddyletswydd filwrol. Gwelodd Pete Williams, Mark Knight a finnau gyfle i feithrin sgiliau clinigol a gwybodaeth y staff meddygol lleol. Roedd y rhain yn cynnwys clinigwyr ambiwlansys lleol a meddygon lleol y lluoedd arfog. Nid yw'r meddygon hyn wedi cael yr addysg a'r hyfforddiant ffurfiol yr wyf i wedi bod yn ddigon ffodus i'w cael.

“Fodd bynnag, maent yn mynd i gynorthwyo cleifion sydd wedi dioddef trawma mawr yn rheolaidd, fel ffrwydradau IED, digwyddiadau mawr a phobl sydd wedi cael eu saethu. Maent yn gwneud gwaith anhygoel wrth helpu eu cleifion er gwaethaf eu hyfforddiant clinigol cyfyngedig a'u cit clinigol sylfaenol iawn, heb unrhyw gymhorthion monitro electro-feddygol.”

Datblygodd Caroline, Pete a Mark raglen hyfforddiant trawma ffurfiol 10 wythnos, i'w chyflwyno i'r staff gofal iechyd lleol, wedi'i theilwra'n benodol i ddemograffeg eu cleifion a'u gallu clinigol.

Ychwanegodd: “Roedd yn anodd gwneud hyn oherwydd y rhwystr ieithyddol a chafodd yr hyfforddiant ei ddarparu drwy ddehonglydd. Mae'n anodd iawn cyfieithu jargon meddygol! Oherwydd diogelwch gweithredol, roedd ein mynediad i'r rhyngrwyd neu ddeunyddiau dysgu yn gyfyngedig, felly bu'n rhaid i ni fod yn eithaf creadigol wrth gyflwyno'r hyfforddiant. Cyfeiriais at hyfforddiant clinigol blaenorol rwyf wedi bod yn ffodus i'w gael wrth weithio gydag EMRTS ac Ambiwlans Awyr Cymru."

Ar ddiwedd y rhaglen 10 wythnos, rhoddodd Caroline brawf ar allu'r myfyrwyr gyda gorsafoedd yn arddull OSCR - gorsafoedd sgiliau ymarferol a oedd, yn ôl Caroline, yn debyg i efelychiadau EMRTS i weld faint oedd y myfyrwyr wedi dysgu. 

“Roeddem yn hapus iawn gyda chynnydd y myfyrwyr a chawsant dystysgrifau ar y diwedd. Cawsant hefyd gopi o'r rhaglen hyfforddiant, ynghyd â deunyddiau dysgu wedi'u cyfieithu, er mwyn iddyn nhw allu addysgu cydweithwyr yn y dyfodol."

Cafodd Caroline Wobr y Lluoedd Arfog yng Nghymru ar 25 Tachwedd yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Dywedodd Mark Winter, Cyfarwyddwr Gweithrediadau EMRTS: "Mae Caroline yn llawn haeddu'r wobr hon, a'i dyrchafiadau yn y fyddin ac yn EMRTS. Does dim amheuaeth na fydd ei syniad, a'i gwaith i gyflwyno hyfforddiant addysgol mewn rhannau o'r byd lle mae anafiadau difrifol yn rhan go iawn o fywyd, yn cael effaith gadarnhaol ar lawer o fywydau. Mae ein gwasanaeth wedi elwa'n fawr ar brofiadau milwrol ac mae'n bleser gweld sut y gallwn ad-dalu hynny drwy waith meddygon fel Caroline, Pete a Mark."

Roedd Caroline wrth ei bodd wrth ddweud: “Doeddwn i ddim yn gallu credu fy mod i wedi cael fy enwebu am wobr ac roedd yn syndod mawr i'w hennill hefyd!  Rwy'n credu'n gryf fod y wobr yn ganlyniad i ymdrech wych gan y tîm clinigol roeddwn yn rhan ohono. Mae'n fraint cael bod yn rhan o'r Lluoedd Arfog ac EMRTS, gan weithio ochr yn ochr ag Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r cyfle i drosglwyddo'r hyfforddiant clinigol gwych rwyf wedi'i gael yn EMRTS i feddygon lleol mewn gwlad ddatblygol wedi bod yn uchafbwynt yn fy ngyrfa.

“Rwy'n hynod ddiolchgar i EMRTS am gefnogi fy ngyrfa filwrol yn llawn ac am fy ngalluogi i drosglwyddo yn ôl yn ddidrafferth i gyflogaeth lawn amser yn y GIG ar ôl chwe mis i ffwrdd.”