Mae athrawes ddawns wedi codi £700 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl cynnal rafflau poblogaidd yn ystod gwyliau dawnsio y mae'n eu trefnu.

Mae Wendy Thomas-Parkes a'r cerddor Tony Roberts yn trefnu tua phump o wyliau ar gyfer dawnsio neuadd/dilynol pob blwyddyn, ac yn codi arian i achosion da drwy werthu raffl yn ystod y gwyliau.

Mae'r gwyliau dawnsio wedi codi arian i nifer o achosion da yng Nghymru a Swydd Amwythig dros y blynyddoedd, gan gynnwys elusennau ambiwlans awyr, Hosbis Hafren ac Apêl Canser Lingen Davies.

Mae Wendy, sy'n byw yn Aber-miwl ac yn gweithio i'r GIG yn Swydd Amwythig, yn cynnal dosbarthiadau dawnsio neuadd/dilynol pob dydd Mawrth rhwng 1pm-3pm yn Neuadd y Pentref Church Aston. Bydd Tony ac Wendy hefyd yn cychwyn gwersi dawnsio dilynol Dysgu Jeif ym mis Mawrth.

Yn ogystal â'r swm a godwyd gan rafflau'r gwyliau dawnsio, rhoddwyd £300 er cof am dad Wendy, Richard - a alwyd hefyd yn “Gonga”, a fu farw ym mis Gorffennaf.

Ychwanegodd: “Penderfynais gyfuno'r rhoddion a gawsom yn dilyn marwolaeth fy nhad â'r arian raffl i'w roi i Ambiwlans Awyr Cymru.Mae Tony a minnau yn trefnu'r gwyliau dawnsio a byddwn yn codi tua £600 i elusennau gwahanol fel arfer.

“Rydym yn rhoi arian i'r ambiwlans awyr gan ein bod yn meddwl ei bod yn un o'r elusennau gorau ac yn helpu nifer o bobl sy'n byw yng nghefn gwlad.”

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.

Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.

Dywedodd Dougie Bancroft, swyddog codi arian cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi rhoi arian tuag at y raffl lwyddiannus yn ystod y gwyliau dawnsio. Dros y blynyddoedd mae'r rafflau wedi codi arian i amrywiaeth o elusennau, sy'n wych. Rydym wrth ein bodd bod ein Helusen sy'n achub bywydau wedi ei dewis i elwa o'r rafflau.  Gwerthfawrogir eich cefnogaeth yn fawr.

“Roedd yn garedig iawn o Wendy i ofyn i'r rhodd i Ambiwlans Awyr Cymru gael ei wneud er cof am ei thad, Richard. Mae Ambiwlans Awyr Cymru bellach yn gweithredu 24/7, saith diwrnod yr wythnos ac mae rhoddion fel hyn yn hanfodol. Drwy gadw ein hofrenyddion yn yr awyr, gallwn barhau i fynd â'r adran achosion brys at y claf, gan arbed amser ac achub bywydau.”