Mae gwirfoddolwr Ambiwlans Awyr Cymru a'i ffrindiau wedi codi swm anhygoel o £580 yn ystod prynhawn coffi i'r elusen sy'n achub bywydau.

Mae Jen Harris, sy'n wirfoddolwr o Dywyn, wedi bod yn gwirfoddoli i siop elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn Nhywyn ers 2014 a hi feddyliodd am y syniad codi arian.

Roedd yr haul yn disgleirio yn ystod y prynhawn coffi a chacennau llwyddiannus, a gynhaliwyd ar laswellt cymunedol rhwng Ffordd Dyfrig ac Awel Dyfi yn Nhywyn.

Daeth tua 90 o bobl i'r digwyddiad dwy awr, a chawsant ddewis o blith amrywiaeth o gacennau blasus a baratowyd gan Jen a'i ffrindiau.

Rhoddwyd y cyfle i'r sawl a oedd yn bresennol ennill sbwnj Fictoria eisin â thair haen, 6" x 12" o faint, ynghyd ag amrywiaeth o wobrau raffl.

Hon yw'r flwyddyn gyntaf i'r prynhawn coffi gael ei gynnal ac, yn sgil ei lwyddiant, mae Jen a'i ffrindiau yn gobeithio cynnal un arall y flwyddyn nesaf.

Ym mis Rhagfyr 2020, cyflawnodd yr Elusen ei nod o weithredu fel gwasanaeth 24/7. Erbyn hyn, mae gofal critigol o safon Adran Achosion Brys y gwasanaeth ar gael yng Nghymru ddydd a nos, ac mae angen i'r Elusen godi £8 miliwn bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.         

Dywedodd Abigail Severn, rheolwr siop elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn Nhywyn: “Diolch i bawb a wnaeth bobi cacen, y rhai a roddodd wobr ar gyfer y raffl a phawb a ddaeth i'r digwyddiad. Rydyn wrth ein bodd bod y prynhawn coffi a chacennau wedi codi cymaint o arian.

“Rwy'n falch iawn o Jen a'i ffrindiau am godi'r swm rhyfeddol hwn i'n Helusen mewn cyn lleied o amser, ac edrychaf ymlaen at weld yr hyn y gallant ei gyflawni y flwyddyn nesaf. Mae pob un ohonoch a gymerodd ran, neu a ddaeth i'r digwyddiad, yn helpu i achub bywydau ledled y wlad.”

Mae'r siop, sydd ar Stryd Fawr, yn chwilio am wirfoddolwyr. Os gallech chi neilltuo rhywfaint o'ch amser rhydd, byddem yn gwerthfawrogi hynny'n fawr. Mae croeso i chi alw heibio i gael sgwrs am wirfoddoli.

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Elusen Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am ffyrdd arloesol o godi arian. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i  www.ambiwlansawyrcymru.com.  

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI  i 70711 i roi £5.