Mae mam-gu ddewr wedi hedfan ar ei thraed, rhywbeth y mae wedi bod eisiau ei wneud ers sawl blwyddyn.

Gwnaeth un o weithwyr cyflogedig Ambiwlans Awyr Cymru, Dougie Bancroft, ymuno â Janice Jackson, sy'n 74 oed o'r Trallwng, ar gyfer yr ymgyrch codi arian. Hyd yma, mae'r pâr wedi codi £2,000 ar gyfer elusen Ambiwlans Awyr Cymru.

Mae Janice wedi gwirfoddoli i'r Elusen ers dros bum mlynedd ac mae'n frwd dros gefnogi'r gwaith y mae'n ei wneud. Mae eisoes wedi codi dros £6,000 drwy gynnal digwyddiadau lleol. 

Dywedodd: “Roedd ychydig yn frawychus, ond gwnes i lwyddo i'w wneud a gwnes i fwynhau. Roeddwn i am hedfan ar fy nhraed i wneud rhywbeth gwahanol a dewr ar gyfer yr elusen. Rydw i bob amser wedi bod eisiau ei wneud, ond rydw i wedi gorfod aros nes fy mod i yn fy saithdegau cyn ei wneud!

“Roedd fy nheulu gyda mi ar y diwrnod, maen nhw'n meddwl fy mod i'n wallgof ond maen nhw'n falch ohona i. Mae bechgyn ifanc hefyd wedi dweud wrtha i fy mod i'n wallgof am ei wneud.

“Rydw i am hedfan ar fy nhraed a gwneud dolen flwyddyn nesaf, fydda i ddim mor nerfus tro nesaf, nawr fy mod i'n gwybod beth i'w ddisgwyl.”

Ychwanegodd Dougie hedfan ar ei draed at yr heriau difyr y mae wedi'u gwneud. Mae eisoes wedi cwblhau naid parasiwt, naid bungee, sleidiau gollwng, marathonau a hyd yn oed wedi eistedd mewn bath o gwstard am ddiwrnod a gosod record byd newydd!

Ym mis Rhagfyr 2020, cyflawnodd yr Elusen ei nod o weithredu fel gwasanaeth 24/7. Erbyn hyn, mae gofal critigol o safon Adran Achosion Brys y gwasanaeth ar gael yng Nghymru ddydd a nos, ac mae angen i'r Elusen godi £8 miliwn bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.       

Roedd yn rhaid i Dougie golli 2 stôn 11 pwys i hedfan ar ei draed, a chafodd ei gefnogi ar y diwrnod gan ei deulu. Dywedodd: “Am ddiwrnod i'r ddau ohonom ni, roedd y diwrnod cyfan yn brofiad anhygoel. Dechreuodd y diwrnod gan yrru i ganolfan awyr ‘Aero Super Batics’ ac yna gwelsom yr awyren yn hedfan wrth i ni agosáu.

“Yna gwenodd y ddau ohonom a dweud ‘byddwn ni'n gwneud hynny mewn awr’, ac am ddiwrnod, un y byddwn yn ei gofio am byth! Byddem yn awgrymu y dylai pawb ei wneud am hwyl ac i godi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru.”

Wrth wylio ei mam-gu a Dougie yn hedfan ar eu traed, penderfynodd Sabrina Tomich, o Telford, yn y fan a'r lle, i hedfan ar ei thraed hefyd, ac roedd Janice wrth ei bodd.

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.