Mae David Balint wedi cwblhau Marathon Llundain ac Ironman Abertawe 70.3 er mwyn codi arian i'r Elusen sy'n achub bywydau.

Mae David, o'r Rhondda yn hen gyfarwydd â heriau codi arian.

Ganed y dyn 45 oed ym Maesteg, ac mae wedi plymio o'r awyr a chwblhau heriau Ironman ledled Ewrop er mwyn codi arian i elusennau sy'n agos at ei galon.

Ar gyfer ei her ddiweddaraf, cwblhaodd David Farathon Llundain ac Ironman Abertawe 70.3, gan godi dros £1,000 i Ambiwlans Awyr Cymru.

Dyma'r tro cyntaf i'r tad i ddau gofrestru i gwblhau Marathon Llundain, ac roedd yn ffodus o gael lle drwy'r broses dewis ar hap.

Dywedodd: “Un diwrnod roeddwn i'n eistedd, a heb unrhyw reswm o gwbl fe wnes i gais ar gyfer y marathon drwy'r broses dewis ar hap. Roedd yn sicr yn sioc i fy mhartner o ystyried fy mod i'n bwriadu ymddeol o'r digwyddiadau hyn y llynedd.”

Cynhaliwyd marathon mwyaf y DU fis Ebrill eleni, a chwblhaodd David y ras 26.2 milltir mewn pedwar awr a 10 munud.

Dywedodd David: “Roeddwn am wynebu'r her o gwblhau marathon llawn ar ben ei hun i weld sut hwyl y byddwn i'n ei gael, oherwydd yr unig dro i mi redeg y pellter hwnnw oedd ar ôl taith feic hir. Roedd yn ddiwrnod ac yn brofiad anhygoel ac roedd y dorf yn wych a'm helpodd i drwy'r ras. Ar ôl milltir 14 roeddwn i mewn poen mawr a bu'n rhaid i mi ymdrechu'n galed fel rwyf wedi ei wneud mewn sawl digwyddiad.”

Yn dilyn llwyddiant y marathon, trodd David ei olygon at Ironman Abertawe 70.3 a oedd yn cynnwys nofio 1.2 milltir, beicio 56 milltir a hanner marathon i orffen.

Dyma'r ail dro i'r digwyddiad hwn gael ei gynnal yn ninas Abertawe, ac er gwaethaf yr amodau tywydd anodd, llwyddodd David i groesi'r llinell derfyn mewn llai na chwe awr, gan godi arian i'r Elusen sy'n achub bywydau.

Mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £8 miliwn y flwyddyn i sicrhau y gall barhau â'i waith achub bywyd.

Ers sefydlu'r Elusen ar 1 Mawrth, 2001, mae wedi ymateb i fwy na 45,000 o alwadau ac yn darparu gwasanaeth brys 24 awr y dydd i'r rheini sy'n wynebu salwch neu anafiadau sy'n peryglu bywyd.  

Mae David wedi gweld y gwaith anhygoel y mae'r Elusen ar gyfer Cymru gyfan yn ei wneud.

Dywedodd: “Porthor ysbyty a diffoddwr tân yn Ysbyty Athrofaol Cymru yw fy swydd ac rwy'n cefnogi'r ambiwlans awyr wrth iddynt gyrraedd, ac felly rwyf wedi gweld y gwaith arbennig y maent yn ei wneud. Roedd hwn yn gyfle gwych i mi roi rhywbeth yn ôl iddynt.”

Dywedodd Tracey Breese, Swyddog Codi Arian Digwyddiadau a Phartneriaethau Ambiwlans Awyr Cymru: “Rydym yn hynod ddiolchgar i David am wneud yr heriau hyn er budd ein Helusen. Mae wedi gwneud yn arbennig o dda yn y ddau ddigwyddiad ac wedi codi swm anhygoel o arian ar ein cyfer.

“Bydd ei haelioni yn ein galluogi i barhau i wasanaethu pobl Cymru ac achub bywydau. Pob lwc â gweddill dy hyfforddiant, David.”

Nid dyna'r unig ddigwyddiadau sydd gan David ar y gweill am ei fod eisoes wedi ymrwymo i redeg Hanner Marathon Caerdydd a Marathon Eryri ym mis Hydref.

Er mwyn cael y diweddaraf, neu er mwyn cyfrannu at her David, ewch i: https://www.justgiving.com/fundraising/David-Balint1