Cyhoeddwyd: 05 Mawrth 2024

Mae parciau gwyliau Haven yng Nghymru wedi llwyddo i godi swm anhygoel o £38,000 i Ambiwlans Awyr Cymru.

Y parciau; Cymerodd parciau gwyliau Haven sef Greenacres, Hafan y Mor, Presthaven, Parc Kiln, Traeth Lydstep, Llys Penalun a Quay West ran yn y fenter arbennig lle rhoddwyd cyfran o'r gwerthiant o bob bag siopa a werthwyd ym marchnadoedd bach y safleoedd i'r ochr yn barod i'w rhoi ar ddiwedd y flwyddyn.

Mae'r rhodd hon wedi dangos ymrwymiad Haven i les y gymuned a'r gwasanaethau brys.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar roddion y cyhoedd i godi'r £11.2 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd. 

Dywedodd Colin Archibald, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Haven yn y Gorllewin:"Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn chwarae rôl hanfodol mewn ymatebion brys, ac rydym yn falch o gael cyfrannu at eu hymdrechion parhaus i achub bywydau."

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol.

Darperir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus gan y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.  

Dywedodd Hannah Bartlett, Rheolwr Ymgysylltu â Chefnogwyr Ambiwlans Awyr Cymru: “Rydym wrth ein bodd bod parciau gwyliau Haven yng Nghymru wedi codi swm anhygoel o £38,178 i'n helusen sy'n achub bywydau. Bydd yr arian yn mynd tuag at sicrhau bod ein gwasanaeth 24/7 yn parhau i fod yno i bobl Cymru pan fydd ein hangen arnynt fwyaf. Mae pawb a brynodd fag siopa drwy gydol y flwyddyn wedi chwarae eu rhan yn helpu i achub bywydau ledled y wlad. Diolch yn fawr iawn.”