Mae tad o Bwllheli wedi defnyddio ei sgiliau fel plygwr dur i dorri 18 record byd am blygu dur er budd tair elusen bwysig.

Mae Reuben Hughes, sef pencampwr ei gamp ar hyn o bryd, wedi codi £2,150 i Ambiwlans Awyr Cymru, Ward Alaw yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Plant Alder Hey, drwy dorri 18 record allan o 20 ymgais ar gyfer record ‘World of Grip’ y byd.

Mae World of Grip wedi cefnogi'r saer maen yn ei ymgais i dorri record y byd, a dechreuodd y dasg ym mis Rhagfyr a daeth i ben ar 1 Mawrth. Grŵp sy'n trefnu cystadlaethau plygu dur yw World of Grip ac mae'n dilyn sawl record byd.

Dywedodd Reuben: “Llwyddais i dorri 18 record byd mewn 20 ymgais wrth geisio torri sawl record byd gyda “World of grip”, ac rwy'n hapus iawn gyda hynny. Roeddwn i wedi cael trafferth fawr yn ceisio dod o hyd i'r dur/padin cywir ar gyfer fy ymgais i dorri Record Byd Guinness ac, yn y diwedd, roeddwn ond wedi dod o hyd i ddigon o ddur i roi dau gynnig arni. Yn anffodus, drwy drwch blewyn, ni lwyddais i dorri'r ddwy record honno, ond rydw i wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan y flwyddyn nesaf eto.”

Mae Reuben wedi codi £750 i Ambiwlans Awyr Cymru, £500 i Ward Alaw yn Ysbyty Gwynedd a £900 i Ysbyty Plant Alder Hey.

Wrth drafod y rhesymau dros ddewis y tair elusen hon, dywedodd Reuben: “Dewisais yr elusennau hyn oherwydd mae fy nheulu wedi ymwneud â phob un ohonynt yn y gorffennol. Mae fy merch yn dioddef o scoliosis, sef gwargrymedd. Mae'n cael llawdriniaeth yn Alder Hey ar ddiwedd y mis hwn.

“Mae'r rhan fwyaf o bobl yn yr ardal hon wedi dod i gysylltiad â'r ambiwlans awyr neu Ward Alaw.”

Dywedodd Alwyn Jones, Gweithiwr Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Diolch yn fawr iawn i Reuben am godi'r arian i'r tair elusen bwysig. Byddai'r rhan fwyaf o bobl wedi ei chael hi'n anodd gwneud yr hyn yr oedd e'n ei wneud, heb sôn am ychwanegu 20 record byd at hynny. Gwnaeth Reuben ymdrech wych, a dylai fod yn falch iawn o'r 18 record yr oedd wedi llwyddo i'w torri. Diolch Reuben am dy gymorth, bydd yr arian yn helpu ein hofrenyddion i barhau i hedfan 24/7.”

Gallwch ddangos eich cefnogaeth i Reuben drwy roi rhodd i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru drwy ei dudalen Just Giving sef, Reuben Hughes - The steel shredding dragon world records attempts.