Cyhoeddwyd: 12 Rhagfyr 2023

Unwaith eto, mae plant bach o'r grŵp Enfysau wedi meddwl am syniad clyfar i godi arian i elusen Ambiwlans Awyr Cymru.

Daeth merched Enfysau 1af Bae Trearddur, sy'n cynnwys dalgylch Bae Trearddur, Ynys Môn a Chaergybi, i gyd ynghyd i feddwl am ffordd hwyliog a gwahanol o helpu pobl mewn angen.

Roedd yr Enfysau, sy'n 4-6 oed, eisiau codi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru sydd angen codi £11.2 miliwn pob blwyddyn i redeg y gwasanaeth sy'n achub bywydau.

Derbyniodd pob plentyn diwb o 'Smarties', a thasg i ofyn i ffrindiau a theulu os yr hoffent gyfrannu 20c at yr achlysur codi arian. Cafodd pob 20c a gasglwyd ei roi yn y tiwb, ac roedd pob tiwb 'Smarties' llawn tua £7.

Roedd yr Enfysau, sy'n cefnogi'r Elusen yn rheolaidd, yn falch iawn o fod wedi codi swm rhyfeddol o £162 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru a chyflwynwyd y siec i Alwyn Jones, swyddog codi arian cymunedol yr Elusen. Mwynhaodd yr Enfysau ofyn llawer o gwestiynau i Alwyn am yr elusen Gymreig.

Roedd yr achlysur codi arian 'Smarties' hefyd yn rhan o fathodyn 'Help Llaw' yr Enfysau. Roedd yn anrhydedd i Alwyn gyflwyno'r bathodyn yn llawn haeddiant i bob un o'r 16 o ferched.

Ychwanegodd Alwyn: “Diolch yn fawr, bawb. Am ffordd ryfeddol o godi arian i'r Elusen, a chafodd yr holl siocled ei fwynhau'n fawr gan y plant bach. Roedd yn hyfryd cael cyfarfod yr Enfysau a'r staff wrth dderbyn y siec, a gwnaethant godi swm anhygoel o £162. Mae pawb a helpodd i gasglu neu roi 20c at yr achlysur codi arian yn ein helpu i gadw ein pedwar hofrennydd yn yr awyr a'n cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd, sy'n anhygoel. Maent oll wedi gwneud eu rhan i helpu i achub bywydau ledled Cymru. Mwynheais fy ymweliad yn fawr a chefais ateb cwestiynau hyfryd."

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol, gan wella'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol.

Mae'r gofal critigol uwch hwn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad.

Fel gwasanaeth ledled Cymru, bydd y criwiau ymroddedig yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal sy'n achub bywyd mewn argyfwng.

Dywedodd Debbie Carmichael, o Enfysau 1af Bae Trearddur: "Roed yn achlysur codi arian llwyddiannus iawn. Mae'r hofrennydd i'w weld yn amlwg lle rydyn ni'n byw. Roeddent i gyd yn gwybod bod yr hofrennydd coch yn ambiwlans. Rydym yn lwcus iawn i gael y gwasanaeth hwn yng Nghymru. Mae nifer o dadau'r merched yn gweithio mewn swyddi 999, felly mae'n gyfarwydd iddyn nhw, ac maent yn deall beth mae'n ei olygu.

"Rwy'n gobeithio os byddwch chi'n eu hannog i gefnogi'r gymuned pan fyddant yn ifanc, y bydd yn parhau am byth. Roedd y merched yn deall eu bod yn helpu drwy gasglu'r 20c ac felly byddwn yn argymell yr her â'r Smarties. Roedd yr Enfysau wrth eu bodd bod Alwyn wedi dod i gyflwyno'r bathodynnau iddyn nhw."