Mae disgyblion o Ysgol y Gelli yn barod i gamu ymlaen drwy gerdded wyth milltir i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru.

Creodd y disgyblion dosbarth meithrin a dosbarth derbyn eu fersiwn eu hunain o ddigwyddiad codi arian blynyddol elusen ‘Cerdded Cymru’, gan godi swm anhygoel o £1,925 i'r elusen sy'n achub bywydau.

Rhoddodd Cerdded Cymru gyfle i gerddwyr  osod targed iddyn nhw eu hunain yn seiliedig ar nifer y camau y gallent eu cyflawni dros gyfnod  o fis o gysur eu cartrefi. Mae pob targed cyfwerth â thaith gerdded rhwng cestyll enwog Cymru  a gellid cyflawni hyn gartref , yn yr ardd neu wrth wneud ymarfer corff, wrth fynd â'r ci am dro - a hyd yn oed mynd i fyny ac i lawr y grisiau!  

Ar ôl rhoi ystyriaeth lawn i'w traed bach, aeth yr ysgol ati i gynllunio llwybr byrrach rhwng cestyll i'r plant bach rhwng tair a phump oed.

Gwnaethant osod yr her iddynt eu hunain o gerdded y pellter rhwng Castell Caernarfon a Chastell Dolbadarn, sydd ym mhentref Llanberis wrth droed yr Wyddfa, yn rhithwir.

Cwblhaodd y plant yn ysgol Caernarfon yr her yn llawn balchder gydag amser dros ben drwy gerdded perimedr yr ysgol ac o amgylch ystâd dai gyfagos.

Ym mis Rhagfyr 2020, cyflawnodd yr Elusen ei nod o weithredu fel gwasanaeth 24/7. Erbyn hyn, mae gofal critigol o safon Adran Achosion Brys y gwasanaeth ar gael yng Nghymru ddydd a nos, ac mae angen i'r Elusen godi £8 miliwn bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.         

Dywedodd Alwyn Jones, cydlynydd codi arian cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae hwn yn gyflawniad anhygoel gan y plant ac yn ymdrech wych iawn ar ôl codi dros £1,900 i Ambiwlans Awyr Cymru.


“Yn ddiweddar, cafodd meddygon yr Elusen, a leolir ym Maes Awyr Caernarfon, eu galw i argyfwng meddygol yn yr ysgol - diolch byth, roedd popeth yn iawn ac roedd y claf wedi gwella'n llwyr. Mae'r fenyw ifanc wedi gwella'n llwyr a diolchodd i'r criw drwy anfon cerdyn yn cynnwys llun o'r hofrennydd roedd wedi'i dynnu gyda'i theimladau personol ei hun at y criw.”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Elusen Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am ffyrdd arloesol o godi arian. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.