Piano cyngerdd a roddwyd i Ambiwlans Awyr Cymru yn codi £500 Mae piano cyngerdd a gafodd ei gynhyrchu dros gan mlynedd yn ôl ac a roddwyd i Ambiwlans Awyr Cymru wedi codi £500 i'r elusen sy'n achub bywydau. Ar ddechrau'r flwyddyn, rhoddodd Mrs Gwen Gibby o Sir Benfro biano cyngerdd Bluthner i'r elusen, sydd â 12 siop elusen. Roedd y piano, mewn cabinet rhosbren ac wedi'i gynhyrchu tua 1910, wedi cael gofal da ac roedd mewn cyflwr gwych am ei oedran. Gan mai dyna oedd y tro cyntaf i offeryn o'r math hwn gael ei roi i'r elusen, cysylltodd yr elusen â chwmni Coach House Pianos i ofyn am gyngor o ran ei werth ac i ofyn p'un a fyddai'n barod i helpu i'w werthu ar ran Ambiwlans Awyr Cymru. Roedd Coach House Pianos yn hapus i fod o gymorth ac wedyn aeth ati i gludo a storio'r piano hyd nes y gellid dod o hyd i brynwr. Dywedodd Rhys Richards, cyd-bennaeth adwerthu Ambiwlans Awyr Cymru: "Roeddem wrth ein bodd pan glywsom fod yr elusen wedi cael piano cyngerdd Bluthner gan Mrs Gibby. Roedd y piano hardd mewn cyflwr gwych ac roeddem yn hapus dros ben fod Coach House Pianos wedi cytuno i'n helpu ni gyda'i arbenigedd i brisio'r piano yn ogystal â'i gludo a'i werthu ar ran yr elusen." Mae gan Ambiwlans Awyr Cymru bedwar hofrennydd wedi'u lleoli ledled Cymru, yn Nafen, Caernarfon, Y Trallwng a Chaerdydd. Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr. Dywedodd llefarydd ar ran Coach House Pianos: "Roeddem yn fwy na pharod i helpu Ambiwlans Awyr Cymru pan ddaeth Rhys atom yn y lle cyntaf. Maent yn gwneud gwaith gwych ac fel arwydd bach o'n gwerthfawrogiad, gwnaethom drefnu i'n tîm cludiant proffesiynol gasglu'r piano a dod ag ef i'n hystafell arddangos yn Abertawe hyd nes i ni ddod o hyd i brynwr. Ar ôl rhyw ddeufis yn yr ystafell arddangos, gwerthwyd y piano a chodwyd £500 i Ambiwlans Awyr Cymru. Hoffai tîm Coach House Pianos ddiolch i Ambiwlans Awyr Cymru am bopeth maen nhw'n ei wneud." Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol. Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com. Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5. Manage Cookie Preferences