Peilotiaid a Pheirianwyr Ambiwlans Awyr Cymru yn cael eu Cydnabod drwy Wobr Ryngwladol Mae'r peilotiaid a'r peirianwyr a gyflogir gan Babcock Mission Critical Services Onshore yn gweithio gyda phedwar hofrennydd yr elusen a leolir ledled Cymru. Cipiwyd Gwobr Ymgysylltu â Chwsmeriaid Iechyd a Diogelwch Hedfan Babcock ar ôl cael eu henwebu gan yr Elusen am eu hymrwymiad a'u hymroddiad anhygoel i weithrediadau diogel bob amser. Dywedodd yr Uwch-Beilot, Capten Grant Elgar: "Mae cael ein henwebu gan Ambiwlans Awyr Cymru am y wobr hon yn golygu llawer. Mae'n dangos ein bod yn darparu'r ansawdd a'r lefel o wasanaeth sydd eu hangen arnynt er mwyn eu helpu i achub bywydau a chefnogi cymunedau ledled Cymru. Roedd ennill y wobr yn coroni'r cyfan." Mae gan Ambiwlans Awyr Cymru bartneriaeth bwysig gyda chwmni hedfan Babcock sy'n cyflenwi'r hofrenyddion, y peilotiaid a'r peirianwyr i'r Elusen er mwyn ei alluogi i ymateb i alwadau achub bywyd ym mhob cwr o Gymru. Mae hofrenyddion H145 newydd sbon eisoes wedi cael eu cyflwyno o ganlyniad i'r bartneriaeth yn Nafen, y Trallwng a Chaernarfon, yn ogystal â lansiad pedwerydd hofrennydd yr Elusen ym Maes Hofrenyddion Caerdydd – Ambiwlans Awyr Cymru i Blant. Dywedodd Angela Hughes, Prif Swyddog Gweithredol Ambiwlans Awyr Cymru: "Rydym yn falch o'n peilotiaid a'n peirianwyr a'r ffordd y maent yn gweithio fel tîm gyda phawb yn yr Elusen, o'r meddygon hyd at y staff ar y tir. Gyda'n gilydd rydym yn dîm o'r radd flaenaf, ac mae'r wobr hon yn hynod haeddiannol." Ychwanegodd Grant: "Rydym yn cydweithio fel tîm yn dda iawn ac mae pob aelod o'r criw yn gwybod mai diogelwch yw'r brif flaenoriaeth bob amser." Image: (L-R – Cydbeilot, Jayson Curtis; Uwch-Beilot Cymru, Capten Grant Elgar; Rheolwr Gyfarwyddwr Babcock (Sbaen), Angel Rodero; Peilot, Capten James Grenfell.) Manage Cookie Preferences