12 Gorffennaf 2018


Roedd Christine Lloyd o Gaer yn teithio mewn cerbyd yn gyrru drwy’r sir yn Awst 2017.

Mae Christine yn olrhain y munudau a oedd wedi arwain at y ddamwain: “Roedd yn daith arferol yn y car un dydd Sul wedi i ni fod am dro hyfryd. Roeddem yn mynd tuag at ardal Bickley pan wnaeth ein cerbyd daro yn erbyn tractor.”

Roedd ochr Christine o’r car wedi ei daro yn y gwrthdrawiad, gan olygu  ei bod yn styc yn y cerbyd am fwy nag awr.

“Roeddwn yn styc yn y car am 60 munud, ac roedd fy ‘awr aur’ wedi mynd heibio. Cefais fy nghludo i’r ganolfan trawma agosaf am fod Ambiwlans Awyr Cymru yno  i’m helpu. Roedd criwiau meddygol Ambiwlans Awyr Cymru  wedi fy nhrin ar ochr yr heol cyn fy hedfan i Stoke.  Roedd Ambiwlans Awyr Cymru wedi hedfan o’r ddamwain un ar ddeg munud ar ôl glanio. Tra’n hedfan, roedd y criw wedi sylwi fy mod yn gwaedu yn fewnol ac roedd hyn wedi arbed amser hanfodol ar ôl i mi gyrraedd yr ysbyty.

“Ar ôl cyrraedd Stoke, fe’m cludwyd yn syth i’r adran brys a sylweddolwyd yno pa mor ddifrifol oedd fy anafiadau. Roeddwn wedi torri asgwrn yn fy mraich dde, wedi torri tair asen ac wedi torri fy nghefn mewn sawl lle. At hyn, roeddwn yn gwaedu’n fewnol  ac roedd yna waed ar fy ymennydd hefyd. Oni bai am ymateb cyflym Ambiwlans Awyr Cymru, ni fyddem yma heddiw yn sgil y fath anafiadau. 

“Bu’n rhaid i mi gael sawl llawdriniaeth ac roedd cryn ffordd i fynd  cyn gwella. Nid oedd y meddygon yn gwybod a fyddem yn cerdded eto ai peidio a phenderfynwyd gwneud llawdriniaeth ar asgwrn fy nghefn. Wyth mis yn ôl,  roeddwn wedi cael llawdriniaeth i ail-adeiladu asgwrn fy nghefn. Roedd y llawfeddygon wedi gweithio yn ddiflino er mwyn adeiladu ffrâm metel o gwmpas asgwrn fy nghefn gyda’r gobaith o’m galluogi i gerdded eto.”

Wedi misoedd o adsefydlu, roedd Christine wedi troi cornel. “Bydd y gorfoledd o gymryd ambell gam yn aros gyda mi am byth. Er fy mod mewn poen parhaol tra’n cerdded, rwyf yn gwneud yn dda.”

Nid yw dysgu cerdded eto yn dilyn damwain mor ddychrynllyd wedi lladd ysbryd  Christine sydd nawr yn paratoi i ddringo’r Wyddfa ym mis Awst. “Mae’n fraint i geisio dringo’r Wyddfa ar ran Ambiwlans Awyr Cymru. Nid oeddwn yn sylweddoli fod Ambiwlans Awyr Cymru  yn elusen, ac ar ôl profi pa mor bwysig ydynt, rwyf nawr am gynyddu ymwybyddiaeth o’r gwasanaeth achub bywyd hwn.”

“Mae gen i’r parch mwyaf tuag at staff meddygol Ambiwlans Awyr Cymru  a’r holl wasanaethau brys a helpodd ar y diwrnod. Roeddynt oll wedi gweithio mor galed er mwyn achub fy mywyd ac wedi fy nhrin gyda gofal a pharch. Nid wyf yn medru esbonio pa mor arwrol oeddynt.

“Mae fy adferiad llawn yn ddyledus i Griw Ambiwlans Awyr Cymru, yr holl staff meddygol a fu’n chwarae rhan, y tîm anhygoel yn Ysbyty Brenhinol Stoke a’m teulu anhygoel. Hoffwn ddiolch hefyd i’m cyflogwr  ‘Osprey of London’ sydd wedi bod yn hynod gefnogol yn ystod cyfnod anodd iawn.

“Rwy’n credu bod daioni yn deillio o’r cyfnodau anoddaf ac rwy’n gobeithio y bydd fy nhaith yn ysbrydoli eraill a’n dangos fod modd i chi  gyflawni llawer iawn mwy nag oeddech yn disgwyl. Un cam ar y tro.”