Mae mam-gu o Fynwy wedi gosod yr her iddi'i hun o greu 20 o hetiau i fabanod a gafodd eu geni'n gynnar iawn fel rhan o'i hymgyrch codi arian ar gyfer Elusen Ambiwlans Awyr Cymru.

Mae Olwen Davis yn cymryd rhan yn her Fy20 er mwyn dathlu pen-blwydd yr Elusen.  Dathlodd elusen Ambiwlans Awyr Cymru ei phen-blwydd yn 20 oed ar 1 Mawrth ac, i gydnabod y garreg filltir, mae wedi creu digwyddiad codi arian newydd o'r enw Fy20.

Mae Fy20 yn galluogi cyfranogwyr i gymryd rhan drwy osod her, tasg neu weithgaredd iddynt eu hunain sy'n ymwneud â'r rhif ‘20’ y byddant yn eu cwblhau yn ystod mis Mawrth.

Bydd Olwen, sydd wrth ei bodd yn gwau, yn cwblhau ei her y mis hwn ac mae wedi gwau 13 o hetiau hyd yma.

Cafodd Olwen y syniad ar ôl gwau eitemau ar gyfer ei hŵyr bach. Dywedodd: “​Rwyf wrth fy modd yn gwau. Cafodd fy merch fabi chwe mis yn ôl ac rydw i'n gwau llawer o bethau ar ei gyfer. Fe yw'r babi mwyaf trwsiadus yn y wlad, mae'n drueni bod COVID-19 yn golygu na all fynd i unman i ddangos ei ddillad hyfryd! Un canlyniad o wau llawer yw bod gen i lwyth o wlân dros ben, sy'n ddefnyddiol ar gyfer yr hetiau babanod a gaiff eu geni'n gynnar iawn. Rwy'n mwynhau'r her.

Hon yw ymgyrch codi arian gyntaf Olwen, a hoffai godi £500, ond mae'n dweud bod pob rhodd yn werthfawr. Mae wrth ei bodd â'r swm o £210 y mae wedi'i godi yn barod.

Wrth drafod y rheswm pam ei bod am gymryd rhan, dywedodd: “​Mae cynifer o bobl wedi gwneud cymaint o bethau anhygoel i helpu eraill yn ystod y 12 mis diwethaf. Nid wyf wedi gwneud llawer, ar wahân i wneud ychydig o fasgiau ar y dechrau. Felly, pan welais yr hyn roedd Ambiwlans Awyr Cymru yn bwriadu ei wneud, cefais fy ysbrydoli i helpu. Ni fyddaf byth yn rhedeg marathon, na 10k hyd yn oed, ond rydw i'n eithaf da am wau!

“​Ambiwlans Awyr Cymru yw'r math o wasanaeth rydych chi'n gobeithio na fydd ei angen arnoch byth, ond mae'n wasanaeth y byddwch yn hynod ddiolchgar iddo pe bai ei angen arnoch. Mae'n hanfodol. Sut arall y gellir rhoi cymorth cyflym i bobl sy'n ddifrifol wael neu wedi'u hanafu.”

Mae gan Olwen ffrind da iawn sydd hefyd yn gwau hetiau i fabanod a gaiff eu geni'n gynnar iawn. Mae ei merch yn feddyg mewn uned newyddenedigol ym Mryste, felly mae Olwen yn bwriadu rhoi’r hetiau i Ysbyty Southmead, Bryste. Fodd bynnag, os bydd angen hetiau ar fabanod a gaiff eu geni'n gynnar iawn ar ysbyty yng Nghymru, mae wedi dweud bod modd eu rhannu rhwng y ddau ysbyty.

Dywedodd Wendy McManus, Gweithiwr Codi Arian Cymunedol yr Elusen yn y De-ddwyrain:“Mae’n wych clywed straeon hyfryd fel un Olwen. Yn ogystal â chymryd rhan yn Fy20 drwy godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru, mae'n creu hetiau sydd mor angenrheidiol i fabanod a gaiff eu geni'n gynnar iawn. Gobeithio y bydd pobl yn cydnabod gwaith caled ac ymrwymiad Olwen i'r ddau achos da ac yn cyfrannu at ei hymgyrch codi arian, ac mae nifer wedi gwneud hynny'n barod. Diolch yn fawr iawn am ein cefnogi ni, Olwen. Mae'r hetiau'n edrych yn hyfryd a gobeithio y byddwch yn mwynhau eich ymgyrch codi arian cyntaf.”

Gallwch ddangos eich cefnogaeth i Olwen drwy gyfrannu drwy ei thudalen Just Giving, Olwen Davis Fy20 / My20