Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn galw am noddwyr i ymuno ag un o'r teithiau celf gyhoeddus mwyaf cyffrous a welwyd erioed yn ninas Abertawe. Ydych chi erioed wedi dychmygu bod yn berchen ar eich castell eich hun? Wel, gallwch chi wneud hynny nawr.

Anogir busnesau, ysgolion a grwpiau cymunedol i gefnogi'r digwyddiad teuluol am ddim, a fydd yn cael ei gynnal fis Gorffennaf nesaf, drwy noddi castell a fydd yn helpu i godi arian hanfodol i Ambiwlans Awyr Cymru.

Bydd taith Castles in the Sky Wild in Art yn ymweld â thros 40 o gestyll mawr a 30 o rai bach sydd wedi'u gwasgaru ledled Abertawe yr haf nesaf, ac yn anelu at ddenu pobl leol ac ymwelwyr i'r ddinas. Bydd pob castell enfawr, sy'n mesur dros 2 fedr o uchder, yn cael ei ddylunio gan arlunydd Cymraeg a bydd ganddo ei hanes ei hun i'w adrodd, gan ddathlu'r bwrlwm, y diwylliant a'r creadigrwydd sydd gan Abertawe i'w cynnig.

Nod y daith 10 wythnos yw cysylltu busnesau, artistiaid, y cyhoedd a phartneriaid cymunedol ledled y ddinas, gan gynnig cyfle creadigol newydd, arloesol ac unigryw i gydweithio. 

Ambiwlans Awyr Cymru, unig elusen ambiwlans awyr ddynodedig Cymru, sy'n arwain prosiect Wild in Art, menter sydd wedi dod yn stori lwyddiant rhyngwladol wrth godi arian elusennol drwy ei chelf gyhoeddus greadigol a chymunedol.

Mae'r daith gelf unigryw yn rhoi'r cyfle i noddwyr fod yn rhan o rywbeth cwbl wahanol, gan hybu a chodi eu proffil busnes yn y ddinas a hwyluso cydberthnasau newydd â rhanddeiliaid.

Yn gyfnewid am hynny, bydd noddwyr yn cael amrywiaeth o gyfleoedd cysylltiadau cyhoeddus cadarnhaol a chyffrous, proffil a safle i'w brand, a bydd eu logos yn cael eu harddangos ar gerfluniau ac amrywiaeth o ddeunyddiau hyrwyddo, gan gynnwys ap a gwefan y daith. Bydd busnesau hefyd yn cael eu gwahodd i ddigwyddiadau unigryw ynghyd â noddwyr eraill Castles in the Sky a byddant yn helpu i godi arian hanfodol i Ambiwlans Awyr Cymru.  

Yn ôl yn 2018, manteisiodd Bragdy Woodforde ar y cyfle i gymryd rhan yn ei daith Wild in Art leol, GoGoHares.

Dywedodd Judi-mare Alderton, Pennaeth Marchnata, Woodforde’s Brewery: “Roedd GoGoHares yn ddigwyddiad hyfryd i fod yn rhan ohono, gan godi arian i elusen leol a helpu i ddod â chymunedau a busnesau ynghyd.

“Mae llawer o bobl wedi ymweld â ni er mwyn gweld ein cerflun o'r Ysgyfarnog. Daeth rhai er mwyn tynnu lluniau yn unig, ond cafodd nifer o ymwelwyr â'r dafarn ddiod neu bryd o fwyd yno hefyd a oedd, yn amlwg, yn wych i'r busnes.

“Yn gyffredinol, roeddem yn falch iawn ein bod wedi gallu cymryd rhan yn nigwyddiad cerfluniau celf Norwich, sydd bellach yn enwog, ac yn teimlo'n ffodus bod y daith wedi cynnwys rhannau o'r wlad brydferth hon.”

Mae'r Elusen yn dibynnu ar roddion elusennol i godi £8 miliwn bob blwyddyn er mwyn cadw'r hofrenyddion yn yr awyr yng Nghymru. Nid yw'r elusen yn cael arian gan y Loteri Genedlaethol na chyllid uniongyrchol gan y llywodraeth.

Mae'n darparu gwasanaeth awyr brys a hanfodol 24/7 i'r rhai hynny sy'n wynebu salwch neu anafiadau sy'n peryglu bywyd a dyma'r unig elusen ambiwlans awyr sydd wedi'i lleoli yng Nghymru ac sy'n benodol ar gyfer Cymru.

Cynhelir taith Castles in the Sky o ddydd Sadwrn, 8 Gorffennaf tan ddydd Sadwrn 16 Medi 2023, mewn partneriaeth â'r cynhyrchwyr creadigol, Wild in Art, a chaiff ei chefnogi gan y Prif Bartner, Ardal Gwella Busnes Abertawe.

Dywedodd Russell Greenslade, Prif Weithredwr Ardal Gwella Busnes Abertawe, ei fod yn teimlo bod cymryd rhan yn y prosiect yn cynnig nifer o gymhellion a buddion.

Dywedodd: “Rwy'n credu mai Castles in the Sky fydd un o'r prosiectau celf mwyaf uchelgeisiol a llawn hwyl y mae'r ddinas erioed wedi ei weld. Mae'n gyfle gwych i ddod â'r ddinas ynghyd a chysylltu busnesau, artistiaid a phreswylwyr drwy bŵer creadigrwydd ac arloesedd.

“Bydd y prosiect yn gadael gwaddol hirdymor a fydd yn ysbrydoli balchder dinesig ar draws cenedlaethau, yn dod â mwynhad i'r holl ardal ac yn hwb i'r ddinas. Mae Ardal Gwella Busnes Abertawe yn falch o fod yn Brif Bartner Castles in the Sky ac yn gobeithio y gallwch ein cefnogi.”

Os hoffech wybod mwy am noddi castell, e-bostiwch [email protected] neu ewch i wefan Castles in the Sky (www.swanseacastles.co.uk).  Am ragor o ddiweddariadau ewch i FacebookInstagram, Twitter.