Mae swyddog achub gwylwyr y glannau gwirfoddol wedi codi mwy na £1,500 drwy gwblhau'r marathon eithafol ‘Race To The Stones’.

Fis diwethaf, ymunodd Nigel Williams, sy'n 39 oed, o Aberdaugleddau, â mwy na 3,400 o redwyr a cherddwyr i gymryd rhan yn un o ddigwyddiadau gwytnwch mwyaf poblogaidd y DU.

Roedd y digwyddiad, a enwyd yn Ddigwyddiad Gwytnwch Gorau’r DU am y tair blynedd diwethaf, yn 100km o hyd ar hyd Rideway yn Swydd Rhydychen i Avebury yn Wiltshire. Cwblhaodd Nigel y marathon eithafol am 4am, mewn 20 awr 32 munud.

Mae wedi codi £1,574, a gaiff ei rannu rhwng Ambiwlans Awyr Cymru a Chymdeithas Gwylwyr y Glannau. Roedd yr arian yn cynnwys £250 i bob elusen gan gyflogwr Nigel, Valero Pembroke Refinery.

Dywedodd Nigel: “Roedd hon yn her enfawr a gymerodd lawer o amser i hyfforddi ar ei chyfer, felly rwy'n falch fy mod wedi ei chwblhau. Roedd yn brofiad anhygoel, a llwyddais i orffen mewn 20 awr 32 munud. Roeddwn yn bwriadu gwneud y daith rhedeg beth bynnag, felly penderfynais wneud hynny er budd elusennau teilwng.

“Rwyf wedi gweld Ambiwlans Awyr Cymru yn gweithredu yn yr ardal sawl gwaith ac mae'n wasanaeth mor anhygoel i'w gael.  Penderfynais redeg er budd Ambiwlans Awyr Cymru a Chymdeithas Gwylwyr y Glannau.”

Ym mis Rhagfyr 2020, cyflawnodd yr Elusen ei nod o weithredu fel gwasanaeth 24/7. Erbyn hyn, mae gofal critigol o safon Adran Achosion Brys y gwasanaeth ar gael yng Nghymru ddydd a nos, ac mae angen i'r Elusen godi £8 miliwn bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.       

Mae'r arolygydd yn Valero Pembroke Refinery yn ddiolchgar am y gefnogaeth a gafodd, gan ychwanegu: “Rwyf wedi cael cefnogaeth anhygoel gan fy nheulu a ffrindiau, a hoffwn ddiolch iddynt.

“Codais lawer mwy o arian na'r disgwyl. Caiff yr arian ei rannu'n gyfartal rhwng yr elusennau.”

Dywedodd Katie Macro, Gweithiwr Codi Arian Cymunedol yr Elusen yn y De-orllewin: “Llongyfarchiadau mawr i Nigel ar gwblhau ‘Race To The Stones’ mewn amser anhygoel o 20 awr a 32 munud. Mae'r gefnogaeth a'r rhoddion a gafodd gan ei deulu, ei ffrindiau a'i weithle – Valero Pembroke Refinery – yn dangos ei benderfyniad a'i ymrwymiad i'r digwyddiad. Diolch yn fawr iawn am ein cefnogi ac am godi mwy na £1,500 i ddwy elusen bwysig. Bydd pob ceiniog a godwyd yn helpu'r bobl sydd angen gwasanaethau Ambiwlans Awyr Cymru ledled Cymru.”

Mae dal cyfle i gefnogi Nigel drwy roi arian drwy ei dudalen codi arian – Nigel Williams

Race To The Stones 100km https://uk.virginmoneygiving.com/NigelRTTS

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.