Mae menyw sy'n dod o Abertawe, sydd bellach yn byw yn America, yn bwriadu rhedeg ei thrydydd hanner marathon flwyddyn nesaf er budd y 'dreigiau sy'n hedfan' yn ei gwlad enedigol.

Mae'r meddyg awyr Naomi Baksa, sydd o Landeilo Ferwallt yn wreiddiol, wrthi'n hyfforddi ar gyfer yr hanner marathon, a'i gobaith yw codi $2,500 (£1,906) i Ambiwlans Awyr Cymru. Cofrestrodd yn wreiddiol i gymryd rhan yn Hanner Marathon Rhyngwladol Detroit Free Press 2020, ond oherwydd y pandemig presennol, mae'r ras wedi cael ei gohirio tan 2021.

Dywedodd Naomi, 38 oed, o Michigan: “Eleni, roeddwn i fod i redeg fy ail hanner marathon. Y bwriad oedd rhedeg er budd elusen sy'n agos at fy nghalon, ond yna cafwyd pandemig byd-eang. Mae'n achos mor haeddiannol a theilwng. Y 'dreigiau sy'n hedfan' yn fy ngwlad enedigol oedd y dewis amlwg. Rwy'n falch fy mod yn gallu rhedeg a chodi arian i'r elusen.

“Pan gafodd y ras ei chanslo, penderfynais redeg yr hanner marathon rhithwir ta beth. Bellach, rwyf ar y trywydd cywir i redeg y ras yn 2021, a byddwn wrth fy modd petai'n bosibl i mi ariannu un daith ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru, yr elusen sy'n darparu gofal sy'n achub bywydau heb godi tâl ar eu cleifion.”

Ymfudodd y fam i ddau i America gyda'i rhieni a'i chwaer yn 1995, ac mae'r mwyafrif o'i theulu yn byw ym mro Gŵyr o hyd.

Yn wreiddiol, roedd y meddyg awyr yn bwriadu hyfforddi i fod yn athrawes ac ni ddychmygodd y byddai'n gweithio i'r Gwasanaeth Meddyginiaeth Brys. Yn ystod ei hail flwyddyn yn hyfforddi i fod yn athrawes, bu Naomi'n dyst i ddamwain car, a newidiodd ei chynlluniau gyrfa y foment honno.

Ychwanegodd Naomi, sy'n fam i Mikayla, 15 a Keiron, 12: “Stopiais yn reddfol, a dod o hyd i'm galwedigaeth.

Mae Naomi bellach yn Barafeddyg Awyr Gofal Critigol sy'n gweithio yn y diwydiant meddyginiaeth awyr. Dywedodd: “Rwyf wedi bod yn dilyn Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru ers i mi ddechrau hedfan. Rwy'n gwybod yn union beth mae'r hyn rydym yn ei wneud yn ei olygu, ac rwy'n gwybod ei fod yn anodd weithiau. Ni allwn ddychmygu gwneud yr hyn rwy'n ei wneud gan wybod yng nghefn fy meddwl fod fy swydd a'r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu yn dibynnu ar roddion yn unig.”

Dim ond tair blynedd yn ôl y gwnaeth y meddyg awyr ddechrau rhedeg, ac er iddi gael llawdriniaeth ar ei phen-glin ddwy flynedd yn ôl, rhedodd Naomi ei hanner marathon cyntaf yn 2019.

Dywedodd Mark Stevens, Rheolwr Codi Arian yr Elusen ar gyfer De Cymru: “Mae'n hyfryd clywed bod Naomi wedi dewis cefnogi ambiwlans awyr ei gwlad enedigol, er iddi ymfudo yn 1995. Hoffem ddymuno'n dda i Naomi gyda'i hanner marathon. Mae'n braf gwybod ei bod yn achub bywydau yn America, ac yn sicrhau bod gan bobl Cymru wasanaeth sy'n achub bywydau y gallant ddibynnu arno. Diolch yn fawr iawn.” 

Gallwch ddangos bod gan Naomi gefnogwyr yn ei gwlad enedigol drwy ei noddi drwy ei thudalen Just Giving: Naomi's Detroit Free Press International Half Marathon page.

Mae wedi codi $500 o'i tharged $2,500 hyd yma.