Mae nain o bentref Abertyswg wedi codi £1,150 i elusen Ambiwlans Awyr Cymru drwy grosio 230 o dedis.

Penderfynodd Rosemarie McDuff grosio'r tedis fel ffordd o ddiolch i feddygon Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl iddynt gynorthwyo pobl roedd yn eu hadnabod a oedd angen y gwasanaeth hwn sy'n achub bywydau.

I ddechrau gwnaeth naw tedi, yr oedd yn gobeithio eu gwerthu er mwyn codi arian i'r elusen, ond ar ôl iddi eu hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol cafodd 96 o archebion ymhen awr!

Treuliodd chwe mis, yn ystod y cyfnod clo, yn eu gwneud yn yr ardd gyda chymorth ei hwyres saith oed, Abigail Davies. Roedd hyd yn oed y tedis yn gwisgo PPE llawn yn ystod pandemig y coronafeirws.

Meddai Rosemarie, sydd bellach yn mwynhau gwneud dillad babanod: “Roeddem ni'n ffodus yn ystod y cyfnod clo, oherwydd fe dreuliais i lawer o amser yn yr ardd gyda fy wyres. Roeddwn i'n gwneud gwahanol rannau o'r eirth ac yna'n eu rhoi at ei gilydd, a oedd yn bidlyn o waith, ond ym mhen hir a hwyr dyma ni'n cwblhau'r cyfan. Rwy'n falch o sawl un a wnaed, ac mae fy wyres yn falch iawn hefyd. Roedd ar gyfer achos da.”

Yn ogystal â bod yn boblogaidd yn ei phentref, roedd pobl yn prynu ac yn dod i gasglu eirth Rosemarie o ardaloedd mor bell â Llanelli a Threcelyn. 

Mae Rosemarie yn ddiolchgar i'w ffrind Paula Williams a wnaeth y ffedogau a'r masgiau ar gyfer y tedis. Hefyd, gwnaeth cymdogion roi ambell belen o wlân iddi, a oedd o gymorth mawr yn ystod y cyfnod clo pan na allai fynd allan i brynu mwy o wlân.

Dywedodd Wendy McManus, Gweithiwr Codi Arian Cymunedol yr Elusen yn y De-ddwyrain,: “Diolch yn fawr iawn i Rosemarie a wnaeth dreulio misoedd yn gwneud y tedis i Ambiwlans Awyr Cymru. Llwyddodd i godi'r swm anhygoel o £1,150 i'r elusen drwy ei thedis arbennig. Diolch i bawb a wnaeth helpu Rosemarie, yn enwedig Abigail, a oedd gyda'i nain bob cam o'r ffordd. Mae pob un ohonoch yn helpu i achub bywydau ledled Cymru.”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref.  I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com. 

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 i roi £5  .