Ar y diwrnod y mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dathlu ei phen-blwydd yn 21, mae adroddiad a gyhoeddwyd heddiw (01/03/22) wedi datgelu bod gan gleifion trawma sydd wedi'u hanafu'n ddifrifol sy'n cael eu trin gan y gwasanaeth siawns sylweddol uwch o oroesi.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru, sy'n ymateb i argyfyngau sy'n peryglu bywydau neu'n achosi anafiadau difrifol, wedi dod yn rhan bwysig o'r ddarpariaeth gofal critigol yng Nghymru. Mae'n trin cleifion sydd wedi dioddef problem feddygol ddifrifol ynghyd â'r rhai sydd wedi cael trawma i'r corff.

Dengys canfyddiadau gwerthusiad pum mlynedd manwl o'r gwasanaeth fod gostyngiad sylweddol o 37% mewn marwolaethau o fewn 30 diwrnod ymhlith cleifion a gafodd ofal o safon adran achosion brys gan feddygon y gwasanaeth ar safle'r digwyddiad.

Mae'r gwasanaeth hefyd wedi gweld gostyngiad o 41% yn nifer y cleifion sy'n gorfod cael eu trosglwyddo i ail leoliad, sy'n llawer gwell na'r targed gwreiddiol sef 30%. Mae hyn yn cyfeirio at achosion pan gaiff claf ei gludo i gyfleuster gofal iechyd ar frys, y cyfleuster agosaf at y digwyddiad fel arfer, ac yna bydd angen ei drosglwyddo i ysbyty arall sy'n gallu cynnig y gofal arbenigol sydd ei angen arno. O ganlyniad i'r penderfyniadau cyflym a wneir ar safle digwyddiad, gall meddygon y gwasanaeth wneud diagnosis mewn perthynas ag anghenion penodol claf a mynd ag ef yn syth i'r cyfleuster gofal iechyd priodol. Mae hyn yn lleihau'r amser y mae'n ei gymryd i glaf gael y gofal arbenigol sydd ei angen arno ymhellach ac mae'n arbed amser ac arian i'r GIG drwy osgoi gorfod trosglwyddo claf i ail leoliad.

Mae cyflwyno gwasanaeth uwch hefyd wedi denu mwy o feddygon i weithio yng Nghymru. Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mae deuddeg meddyg ymgynghorol wedi ymgymryd â rolau mewn ysbytai yng Nghymru oherwydd y cyfle i weithio gydag Ambiwlans Awyr Cymru.

Mae Prifysgol Abertawe wedi craffu'n annibynnol ar y gwerthusiad,gyda chymorth Health Data Research UK a Phrifysgol Monash yn Awstralia. Roedd yn cynnwys defnyddio banc data dienw o safon ryngwladol Prifysgol Abertawe, a elwir yn SAIL, i gymharu ffigurau gweithredol y gwasanaeth a'i ffigurau am wellhad cleifion â data o 9 biliwn o gofnodion cleifion ym mhedwar ban byd.

Fel rhan o'r adroddiad, archwiliwyd y 9,952 o alwadau y mae'r gwasanaeth wedi ymateb iddynt rhwng 2015 a 2020, a datgelwyd bod 63% (6,018) o gleifion wedi cael triniaethau uwch a achubodd eu bywydau. Roedd hyn yn cynnwys 313 o bobl yr oedd angen trallwysiad gwaed arnynt a 790 o bobl a gafodd anesthesia.

Mae'r gwerthusiad yn cwmpasu cyfnod o bum mlynedd gan ddechrau yn 2015, sef y flwyddyn pan gafodd ymgyrch feddygol uwch ei chyflwyno i Ambiwlans Awyr Cymru. Mewn partneriaeth unigryw rhwng y trydydd sector a'r sector cyhoeddus, creodd Elusen Ambiwlans Awyr Cymru a GIG Cymru y Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru). O ganlyniad, daeth y gwasanaeth yn un a arweinir gan feddygon ymgynghorol ac fe'i trawsnewidiwyd yn ‘adran achosion brys sy'n hedfan’, gan fynd â thriniaethau o safon ysbyty i'r claf ar safle'r digwyddiad.

Gall meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol y gwasanaeth roi triniaethau brys arloesol ledled Cymru, gan gynnwys llawdriniaethau bach, trallwysiadau gwaed ac anesthesia. Nid oedd y rhain ar gael y tu allan i amgylchedd ysbyty yn flaenorol.

Fodd bynnag, nid dim ond mewn hofrennydd y darperir y gwasanaeth. Gall y meddygon hefyd ddarparu eu triniaethau sy'n achub bywydau ar y ffordd yn fflyd yr Elusen o gerbydau ymateb cyflym.

Er bod GIG Cymru yn cyflenwi'r meddygon, mae angen i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru godi £8 miliwn y flwyddyn i ariannu'r hofrenyddion a'r cerbydau ymateb cyflym.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru bellach yn gweithredu 24/7 ar ôl cyflwyno gwasanaeth dros nos yn 2020.

Dywedodd Dr Sue Barnes, Prif Weithredwr Elusen Ambiwlans Awyr Cymru: “Dros y ddau ddegawd ers lansio Elusen Ambiwlans Awyr Cymru ar y diwrnod hwn yn 2001, rydym wedi datblygu yn ymgyrch gofal critigol hanfodol. Nod ein cenhadaeth a'n gweledigaeth yw darparu ein gwasanaeth meddygol sy'n achub bywydau pryd bynnag a ble bynnag y bydd ei angen, ynghyd â gwella bywydau'r rhai rydym yn eu gwasanaethu drwy arwain y byd yn ein maes. Mae'r adroddiad hwn yn cynnig tystiolaeth wirioneddol o'r ffordd rydym yn cyflawni ein nodau.

“Gallwn wneud hyn o ganlyniad i'n timau elusennol, meddygol a hedfan ymroddedig, ond ni fyddai'n bosibl heb y gefnogaeth arbennig gan drigolion Cymru. Eu haelioni nhw yw'r rheswm bod gennym un o'r ymgyrchoedd ambiwlans awyr mwyaf datblygedig yn y byd ac nid oes geiriau a all gyfleu pa mor ddiolchgar rydym.

“Y nod i ni nawr yw sicrhau y gall cynifer o bobl â phosibl yng Nghymru gael budd gan ein gofal sy'n achub bywydau. Gyda'n partneriaid meddygol, rydym yn monitro ac yn gwerthuso ein data o alwadau ac anghenion nas diwallwyd yn gyson er mwyn nodi unrhyw welliannau y gellir eu gwneud i'r gwasanaeth.”

Dywedodd yr Athro David Lockey, Cyfarwyddwr Cenedlaethol EMRTS Cymru: “Y gwerthusiad hwn yw un o'r rhai mwyaf helaeth a gynhaliwyd gan unrhyw ymgyrch ambiwlans awyr unrhyw le yn y byd. Mae'n dangos yn glir bod y ddarpariaeth feddygol uwch rydym yn ei chynnig yn arwain at fanteision i bobl Cymru a'r GIG. Rhaid i ni dalu teyrnged i'r rhai yn yr Elusen, GIG Cymru a Llywodraeth Cymru a oedd yn gyfrifol am sefydlu a chefnogi ein gwasanaeth a arweinir gan feddygon ymgynghorol. Rydym hefyd yn cydnabod brwdfrydedd ac ymrwymiad yr holl bobl hynny, yn y gorffennol a heddiw, sydd wedi gweithio'n galed i ddarparu'r gwasanaeth hwn, yn ogystal â chefnogwyr yr Elusen; ni fyddai ein gwasanaeth yn bodoli hebddynt.

“Rydym hefyd yn hynod falch ac yn ddiolchgar o gael gweithio ochr yn ochr â'n cydweithwyr yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru ac mewn byrddau iechyd ledled Cymru. Gyda'n gilydd, gallwn gynnig y gofal gorau posibl i bobl ym mhob cwr o'r wlad.”