Mae gyrrwr bysiau o Lanelli, a gaiff ei adnabod fel ‘Mr Selfie’, eisoes wedi cyrraedd ei darged o godi £1,000 o fewn 79 diwrnod cyntaf ei weithgarwch codi arian flwyddyn o hyd.

Roedd Keith Thomas, o Abertawe yn wreiddiol, wedi gosod her iddo'i hun sef cymryd hunlun bob dydd am flwyddyn i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru. Cwblhaodd her debyg bedair blynedd yn ôl a chodi £3,700 i elusen Marie Curie. 

Yn ogystal â chymryd hunluniau, cymerodd y tad-cu i saith o wyrion ac wyresau ran yn nigwyddiad codi arian arbennig yr Elusen i ddathlu ei phen-blwydd yn 20 oed, ‘Fy20’, gyda'i wraig, Jane, athrawes ysgol sydd wedi ymddeol.

Dathlodd elusen Ambiwlans Awyr Cymru ei phen-blwydd yn 20 oed ar 1 Mawrth ac, i gydnabod y garreg filltir, creodd yr Elusen ddigwyddiad codi arian newydd o'r enw Fy20. Roedd Fy20 yn galluogi cyfranogwyr i osod her, tasg neu weithgaredd iddynt eu hunain yn ymwneud â'r rhif ‘20’ y byddant yn ei gwblhau yn ystod mis Mawrth.

Roedd Keith, sy'n gweithio i First Cymru, yn gobeithio cyrraedd ei darged codi arian erbyn ei ben-blwydd ef, a'i efell, Kevin, yn 60 oed ar 8 Gorffennaf.

Wrth siarad am ragori ar ei darged, ac ymgymryd â her arall ar yr un pryd, dywedodd Keith: “Roeddwn yn gobeithio cyrraedd fy nharged cyn i mi gyrraedd 60 oed ym mis Gorffennaf. Nid oeddwn erioed wedi dychmygu y byddwn yn codi £1,000 mewn 79 diwrnod. Mae'n deimlad gwych, a bydd pob ceiniog arall a godir yn ystod gweddill y flwyddyn yn fonws.

“Cefais fy rhoi ar ffyrlo am bythefnos, felly yn lle eistedd i lawr a gwneud dim byd, penderfynais i a'm gwraig gerdded dwy filltir bob dydd a cherdded 20 milltir mewn 10 diwrnod ar gyfer her Fy20. Gwnaethom ei gwblhau mewn naw diwrnod.”

O ganlyniad i gyfyngiadau'r llywodraeth, mae Keith wedi gorfod addasu'r ffordd y mae'n cymryd hunluniau er mwyn cynnwys y rheol dau fetr, ac mae hefyd wedi cysylltu â phobl yn gofyn iddynt anfon hunluniau ato, Mae rhai o'r enwogion a oedd yn hapus i gymryd rhan yn yr her wych hon yn cynnwys actorion rhaglen Coronation Street Will Mellor a Shobna Gulati, y cyflwynydd teledu Eamonn Holmes, arwyr rygbi Jonathan Davies a Scott Quinnell, Kelsey Redmore o ITV Cymru, Claire Summers o BBC Cymru, y cyflwynwyr tywydd Sue Charles, Derek Brockway a Behnaz Akhgar, yr actores a'r cyflwynydd radio Sarah Champion a'r digrifwr Mike Doyle.

Dywedodd Keith, sy'n mwynhau gwneud yr her hunluniau: “Fy ymgyrch i godi arian i Marie Curie fu’r ymgyrch unigol fwyaf llwyddiannus hyd yma, a ddatblygodd yn sgil fy niddordeb mewn cymryd lluniau. Mae’r her o gymryd hunluniau wedi fy ngalluogi i gynnwys llawer o bobl o gefndiroedd gwahanol; aelodau o fy nheulu, ffrindiau, cydweithwyr, aelodau o’r cyhoedd, sêr y byd chwaraeon ac enwogion eraill.  

“Roedd pawb wrth eu bodd gyda’r her ac roedd llawer iawn o bobl yn gyffrous iawn i gymryd rhan. Mae pobl yn dal i ofyn am hunlun gyda mi hyd heddiw – sy’n egluro fy enw anffurfiol – Mr Selfie!

“Er gwaethaf y cyfyngiadau ar hyn o bryd, rwy'n benderfynol o wneud fy her hunluniau 2021 yn llwyddiant ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r ambiwlans awyr yn achos gwych, ac rwy'n falch iawn i chwarae fy rhan. Diolch i bawb sydd wedi ateb i'm galw ac wedi cyflwyno hunlun i mi ei ddefnyddio.”

Roedd Mr Selfie wedi gosod targed iddo'i hun i godi £1,000 ac mae wedi codi £1,025 yn barod. Mae'n defnyddio'r hashnod #selfie365me.

Wrth sôn am y rheswm dros ddewis Ambiwlans Awyr Cymru, dywedodd:“Mae’r ambiwlansys awyr yn elfen hollbwysig o’r gwasanaethau brys yn fy marn i. Rwyf wedi’u gweld ar waith pan oedd fy llysfab yn chwarae rygbi. Gwnaethant roi sylw i aelodau o’i dîm ddwywaith ac roedd eu gwaith yn wych.  

“Caiff cymaint o fywydau eu hachub yn sgil camau gweithredu cyflym ein gwasanaethau meddygol, ac mae’r ambiwlans awyr yn hollbwysig i’w galluogi i gyflawni eu gwaith gwych.”

Cafodd Keith, a arferai fod yn blymer, ei orfodi i newid ei yrfa yn dilyn salwch a oedd yn ei atal rhag parhau yn y swydd honno. Cafodd ddiagnosis o golitis briwiol yn 2008, a bu'n rhaid iddo gael ei anfon i'r ysbyty ar frys bedair blynedd yn ôl a chael triniaeth fawr i dynnu ei goluddyn. 

Wrth drafod ei broblemau iechyd, dywedodd Keith: “Bûm yn ddifrifol sâl ac yn sgil y wybodaeth briodol a dderbyniais am y camau nesaf, penderfynais mai gwell fyddai i mi fyw gyda stoma am weddill fy mywyd. Dydw i ddim yn difaru o gwbl. Rwyf wedi gallu ailgydio yn fy mywyd ac wedi neilltuo fy amser i fod yn yrrwr o'r radd flaenaf, gan godi ymwybyddiaeth o bobl sy’n byw gydag anableddau cudd a chodi arian i wahanol elusennau ar hyd y daith.” 

Mae’r gyrrwr bws brwdfrydig wedi derbyn sawl gwobr, yn cynnwys y Gyrrwr Gorau yng Ngwobrau Trafnidiaeth Cymru a gwobr arian yng Ngwobrau Bysiau’r DU yn 2019. 

Dywedodd cydlynydd codi arian Ambiwlans Awyr Cymru, Jane Griffiths: “Llongyfarchiadau i Keith ar gyrraedd ei darged yn ystod ei drydydd mis o godi arian. Hefyd, diolch o galon iddo ef a Jane am gymryd rhan yn her Fy20 y mis hwn. Rydym yn gwerthfawrogi eu cymorth parhaus yn fawr, yn enwedig yn ystod y flwyddyn bwysig hon.

“Os gall unrhyw un gymryd hunlun y dydd, ‘Mr Selfie’ yw hwnnw. Mae wedi llwyddo i gymryd rhai hunluniau gwych gyda phobl adnabyddus yn barod.

“Mae Keith yn profi bod hon yn her llawn hwyl ac rwy’n edrych ymlaen at weld pwy arall fydd yn cyflwyno hunlun iddo. Dangoswch eich cefnogaeth barhaus i Keith a’i helpu i godi arian sydd mor angenrheidiol er mwyn parhau i redeg ein gwasanaeth 24/7 sy’n achub bywydau.” 

Gallwch ddangos eich cefnogaeth i Mr Selfie drwy gymryd hunlun a rhoi arian iddo ar dudalen Her Hunluniau Keith 2021 ar Just Giving

Gallwch ddilyn Mr Selfie ar ei dudalen Twitter @keiththom2014 neu ei dudalen Facebook, Keith's 2021 Selfie challenge.