Mae milfeddyg o Sir Gaerfyrddin wedi codi dros £8,000 drwy ymgymryd â her anferthol o feicio o Land's End i John O'Groats er budd Ambiwlans Awyr Cymru a Sefydliad DPJ.

Gosododd Cath Tudor, milfeddyg fferm yn ProStock Vets, Caerfyrddin, dasg iddi ei hun o feicio bron i 1,000 o filltiroedd cyn ei phen-blwydd yn 50 oed ac i nodi dengmlwyddiant ProStock Vets.

Mae Cath, sy'n 50 oed ac yn dod o Langynog, wedi mwynhau beicio erioed a chododd £5,076 i Ambiwlans Awyr Cymru a £3,000 i'r elusen iechyd meddwl ffermio – Sefydliad DPJ.

Gan fyfyrio ar y rhesymau pam y penderfynodd godi arian i'r elusennau, dywedodd: “Dewisais Ambiwlans Awyr Cymru gan ei fod yn wasanaeth hanfodol i'r rheini ohonom sy'n byw ac yn gweithio mewn cymunedau gwledig, ac fel teulu, daeth Ambiwlans Awyr Cymru allan at fy mrawd, Richard Tudor, pan fu farw mewn damwain â thractor ar fferm y teulu yn y Canolbarth ym mis Ebrill 2020. Cafodd fy mrawd ei ladd pan roliodd y tractor i lawr llethr serth wrth wasgaru gwrtaith.

“Dewisais Sefydliad DPJ hefyd gan mai elusen leol ydyw sy'n helpu ffermwyr sy'n cael trafferth â'u hiechyd meddwl.”

Nid yw mynd ar gefn ei beic i elusen yn rhywbeth dieithr i'r milfeddyg. Yn 2016, beiciodd Cath o un pen o Gymru i'r llall dros y Gymdeithas Strôc ac yn 2018, cwblhaodd daith elusennol o gwmpas Sir Drefaldwyn i Sioe Frenhinol Cymru ac i elusen canser y coluddyn.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.

Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.

Mae Cath wrth ei bodd ac yn hynod ddiolchgar i bawb a gyfrannodd i'r digwyddiad codi arian, dywedodd: “Diolch enfawr i bawb sydd wedi fy noddi ac a wnaeth fy annog i wneud yr her. Mae'r gefnogaeth a'r ymateb gan bawb wedi bod yn anhygoel.”

Er gwaethaf ambell ddiwrnod heriol ar y daith, daeth sawl uchafbwynt i ran Cath hefyd, gan gynnwys gweld pob rhan o'r wlad a gwneud ffrindiau oes.

Ychwanegodd: “Roedd yn grŵp gwych o bobl, a phawb yn helpu ei gilydd a gwnes i ffrindiau oes.”

Dywedodd Katie Macro, Rheolwr Ymgyrchoedd Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae Cath wedi codi swm anhygoel o £8,000 i'r ddwy elusen hanfodol. Mae'n galonogol clywed pam yr aeth Cath ati i godi arian. Yn anffodus, mae hi'n gwybod o brofiad pa mor bwysig yw Ambiwlans Awyr Cymru, yn enwedig yng Nghymru wledig.

“Gosododd Cath yr her o seiclo bron i 1,000 o filltiroedd iddi ei hun ac mae ei phenderfyniad i godi arian i'r ddwy elusen yn amlwg. Diolch i bawb sydd wedi cefnogi Cath ac a roddodd i Ambiwlans Awyr Cymru; mae pob un ohonoch yn ein helpu i fod yno i bobl Cymru pan fydd ein hangen arnynt fwyaf.”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.