Gwisgodd merch ysgol garedig o Bontardawe ei hesgidiau cerdded i gwblhau her 100km ym mis Mai ar gyfer elusen sy'n achub bywydau.

Gwnaeth Kara Richards, sy'n saith mlwydd oed ac yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Rhyd-y-Fro, ymgymryd â her Ambiwlans Awyr Cymru fis diwethaf a chodi dros £700.

Rhoddodd her rithwir Cerdded Cymru 2022 - 100km ym mis Mai gyfle i ‘gerddwyr’ naill ai fynd allan i grwydro Cymru neu wneud eu stepiau yn y cartref, wrth arddio, mynd â'r ci am dro neu gerdded i fyny ac i lawr y grisiau hyd yn oed!   

Natalie, mam Kara, gofrestrodd yn wreiddiol ar gyfer yr her mis o hyd, ond yn fuan roedd Kara eisiau cymryd rhan hefyd.

Dywedodd Natalie: “Cofrestrais ar gyfer Her Cerdded Cymru a daeth Kara i gerdded gyda mi. Gofynnodd a allai gymryd rhan a chodi arian hefyd.Dywedodd, ‘Mami, os wnawn ni'n dwy wneud yr her, mi gawn ni ddwywaith yr arian!”

Mae Kara wedi bod â diddordeb yn Ambiwlans Awyr Cymru ers y cyfnod clo pan welodd hofrenyddion yr Elusen yn hedfan uwch ei phen sawl gwaith, a dechreuodd ofyn cwestiynau i'w theulu am y sefydliad.

Aeth Natalie a Kara ar wefan Ambiwlans Awyr Cymru i ddysgu rhagor drwy wylio fideos cleifion a darllen am y gwaith sy'n achub bywydau.

Gwnaeth Kara, yn hael iawn, hefyd roi ei harian poced i'r achos, yn ogystal â chwblhau prosiect i greu poster ac ysgrifennu am y gwaith hanfodol a wneir gan yr Elusen i bobl Cymru, wrth iddi ddysgu o gartref.

Dyma'r tro cyntaf i Kara godi arian ar gyfer yr Elusen - ac mae Natalie'n sicr nad hwn fydd y tro olaf ychwaith.

Ychwanegodd: “Rwy'n hynod falch ohoni. Daeth gyda mi ym mhob tywydd, boed haul neu hindda, ac ni wnaeth gwyno wrth i mi ei thynnu ar deithiau cerdded hir. Byddai hyd yn oed yn cerdded o amgylch iard yr ysgol yn ystod ei hamser cinio er mwyn cynyddu ei chilomedrau.

“Dywedodd fod Cerdded Cymru wedi bod yn “llawer o hwyl” a'i bod wedi “mwynhau'r ymarfer corff a threulio amser gyda Mami’.

“Mae Kara yn ei gwneud hi'n hawdd iawn i ni fod yn falch ohoni, ac rydym hefyd yn falch iawn o'i phenderfyniad a'i hymroddiad i gwblhau Her Cerdded Cymru a'r holl arian mae wedi'i godi i'r Elusen.Hi yw ein seren fach ni!”

Dathlodd elusen Ambiwlans Awyr Cymru ei phen-blwydd yn 21 oed ar Ddydd Gŵyl Dewi 2022. Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion brys yn yr awyr a chadw ei Cherbydau Ymateb Cyflym ar y ffordd.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol. 

Ychwanegodd Elin Wyn Murphy, Swyddog Codi Arian Digwyddiadau a Phartneriaethau Ambiwlans Awyr Cymru: “Llongyfarchiadau i Kara a Natalie am gwblhau Her Cerdded Cymru. Mae 100km ym mis Mai yn sialens a hanner i unrhyw un heb son am blentyn saith oed. Roedd Kara mor ymroddedig gan hyd yn oed gynyddu ei chamau yn ystod amser cinio yn yr ysgol.

“Mae'n hyfryd bod Kara, a hithau mor ifanc, yn deall gwaith pwysig Ambiwlans Awyr Cymru. Kara – rwyt ti'n seren, a dylet ti fod yn falch iawn ohonot ti dy hun! Diolch yn fawr iawn am ein cefnogi ni. Bydd pob ceiniog a godwyd yn helpu'r bobl sydd ein hangen.”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion   ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i  www.ambiwlansawyrcymru.com.  

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.