14/05/2020

Gwnaeth y ferch ysgol, Olivia Davies, sy'n saith oed, gofrestru ar gyfer her Cerdded Cymru a dewisodd y pellter 52 o filltiroedd sy'n gyfwerth â thaith gerdded o'r Gelli Gandryll i Gastell Powis – mewn gwisg uncorn llawn aer.

Boed law neu hindda, mae Olivia a'i mam Gemma yn treulio pob diwrnod yn cerdded er mwyn cwblhau'r milltiroedd. Mae Olivia eisoes wedi cwblhau ei 52 o filltiroedd.

Mae Her Cerdded Cymru yn galluogi'r sawl sy'n cymryd rhan i ddewis o blith pedwar pellter gwahanol, a fyddai'n gyfwerth â thaith gerdded rhwng lleoliadau eiconig yng Nghymru.

Mae Olivia, sy'n dod o Lanelli, yn byw gerllaw canolfan yr Elusen yn Nafen, ac mae'n mwynhau gweld yr hofrenyddion pan mae allan yn chwarae yn ei gardd. Roedd yn benderfynol o gwblhau her y Gelli Gandryll i Gastell Powis mewn mis yn unig.

Wrth esbonio pam roedd Olivia am wneud yr her, meddai ei mam falch, Gemma Davies: "Yn ddiweddar, roedd Olivia wedi dod yn gynyddol ymwybodol o bwysigrwydd y GIG oherwydd y cyfryngau a chymunedau'n dod at ei gilydd i geisio codi arian i helpu i fynd i'r afael â COVID-19. Cynyddodd chwilfrydedd Olivia am wasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru, a dechreuodd ofyn cwestiynau am y rôl y mae'n ei chwarae a phwy sy'n talu amdano.

"Eglurais i Olivia mai Elusen ydyw sy'n dibynnu ar bobl yn rhoi eu harian fel y gall barhau i weithredu ac achub bywydau. Eglurais hefyd nad yw'r hofrennydd yn gallu hedfan os nad yw'r elusen yn codi arian. Ymatebodd Olivia ar unwaith gan ddweud yr hoffai helpu Ambiwlans Awyr Cymru drwy godi arian a helpu'r elusen i helpu eraill."

Mae Olivia, sy'n ddisgybl yn Ysgol Stebonheath, yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth y mae wedi'i chael gan y cyhoedd, sy'n cynnwys pobl yn codi llaw, canu corn ac yn stopio i ofyn pam ei bod mewn gwisg ffansi, ac yna'n rhoi arian.

Dywedodd Gemma bod Olivia yn mwynhau'r her ac wrth ei bodd â'r swm y mae wedi'i godi hyd yn hyn, yn enwedig yn ystod ei theithiau cerdded.

Dywedodd: "Mae wedi codi £60 wrth i bobl stopio a rhoi arian. Mae'n gwneud iddi deimlo'n falch iawn, ac mae'n wên o glust i glust o hyd. Roedd Olivia wrth ei bodd pan gyrhaeddodd ei tharged. Mae'n falch iawn o'r hyn y mae wedi'i gyflawni, ac mae'n benderfynol o orffen ei thaith gerdded ac yn gobeithio parhau i godi arian ar gyfer yr Elusen."

Dywedodd Mark Stevens, Rheolwr Codi Arian yr Elusen ar gyfer De Cymru: "Dylai Olivia fod yn falch iawn o'i chyflawniad. Mae'n hyfryd bod ganddi gymaint o ymwybyddiaeth o'r sefyllfa bresennol ac empathi tuag eraill, a hithau mor ifanc. Bydd yr holl arian y mae Olivia yn ei godi yn ein helpu i gefnogi pobl ledled Cymru pan fo angen help arnynt.

"Ar ran ein Helusen a phobl Cymru, hoffwn ddiolch i Olivia a Gemma. Diolch am godi arian a diolch am roi gwên ar wynebau nifer o bobl."

Gallwch roi arian i dudalen Just Giving Olivia – Tudalen 'Smiles for Miles' Olivia a Gemma.

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref – fel Olivia. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.