Flwyddyn wedi marwolaeth beiciwr brwdfrydig a fu farw ar ben-blwydd ei ferch yn 21 oed, penderfynodd y ferch ddringo'r Wyddfa i godi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru.

Roedd Lauren Barltrop ar wyliau gyda'i mam Lisa yn Fenis, yr Eidal yn dathlu ei phen-blwydd, pan gafodd alwad ffôn yn dweud bod ei thad Peter wedi bod mewn damwain beic modur wrth gymryd rhan yn y Ras Ddeuddydd Enduro Cymru yng Nghanolbarth Cymru ar 23 Mehefin y llynedd.

Ar ddiwrnod cyntaf y ras, disgynnodd Peter, 56 oed, oddi ar ei feic ac aeth Ambiwlans Awyr Cymru ag ef i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd. Yn anffodus, bu farw ddeuddydd yn ddiweddarach. 

Dywedodd Lauren, 22 oed, bod ei thad wrth ei fodd yn beicio a byddai'n teithio o amgylch y wlad i gymryd rhan mewn digwyddiadau ac roedd yn aelod o sawl clwb beicio.

Dywedodd: "Byddai fy nhad yn mynd i Gymru pob blwyddyn i gymryd rhan yn Ras Ddeuddydd Enduro Cymru. Roedd wrth ei fodd â'r ras, a byddai'n edrych ymlaen ati bob blwyddyn. Y llynedd oedd y flwyddyn gyntaf yn ôl ers Covid-19, ac roedd wedi cyffroi'n fawr. Yn anffodus, disgynnodd oddi ar ei feic ac roedd angen cymorth Ambiwlans Awyr Cymru arno.

"Hedfanodd mam a fi ar yr awyren gyntaf yn ôl o'r Eidal i Faes Awyr Gatwick a gyrru'n syth yn ôl i Gaerdydd i fod gyda fy nhad yn yr ysbyty. Roedd fy mrawd Sam yno'n barod ond yn anffodus, bu farw fy nhad ar fy mhen-blwydd yn 21 oed ar 25 Mehefin. Rydyn ni'n ddiolchgar ein bod wedi cael bod gyda'n gilydd pan fu farw.

I nodi'r flwyddyn gyntaf ers marwolaeth Peter a phen-blwydd Lauren yn 22 oed, roedd Lauren am ddangos ei gwerthfawrogiad o Ambiwlans Awyr Cymru drwy ddringo mynydd uchaf Cymru i geisio helpu i droi diwrnod anodd ac emosiynol yn rhywbeth mwy cadarnhaol, gan ddiolch i'r Elusen a helpodd ei thad.   

Cafodd gwmni Sam ei brawd, 25 oed, a'i phartner Zen a llwyddwyd i godi cyfanswm anhygoel o £1,085 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru.

Dywedodd Lauren, sydd o Braintree, Essex: "Gwyddom y byddai'r diwrnod i nodi blwyddyn ers ei farwolaeth, a fy mhen-blwyddyn cyntaf hebddo, yn un anodd, felly dyna oedd y prif reswm y gwnaethom benderfynu dringo'r Wyddfa.

"Roedd dringo'r Wyddfa yn anhygoel, ac rydym wedi penderfynu gwneud hyn bob blwyddyn. Roedd y tywydd yn hyfryd, a'r golygfeydd yn anhygoel. Pan gyrhaeddom y copa, roedd ein meddyliau'n teimlo'n ysgafnach, ac roedd wedi troi diwrnod anodd ac emosiynol yn un llawer mwy cadarnhaol.

"Cymerodd tua dwy awr a hanner i gyrraedd y copa, a chawsom bicnic bach cyn dechrau ar y daith yn ôl i lawr."

Roedd Peter yn aelod o Glwb Beicio Modur Sudbury, a bu'n gyrru gyda TBEC yn ogystal â chystadlu yn Ras Ddeuddydd Enduro Cymru bob blwyddyn.

Dywedodd Lauren fod ganddi lu o atgofion melys o reidio ar gefn beic ei thad pan oedd hi'n iau, a byddai Sam yn arfer reidio gyda Peter ar un o'i feiciau.  

Dywedodd: "Roedd Dad yn caru bod ar ei feic, dyna oedd ei ddihangfa. Tyfom i fyny gyda beiciau o amgylch y tŷ. Roedden ni'n arfer cymryd rhan yn nhaith feicio Ambiwlans Awyr Essex bob blwyddyn hefyd a byddai fy nhad yn cyfrannu at yr Elusen, felly mae'n teimlo'n dda gallu cael cefnogi'r ambiwlans awyr yng Nghymru.

“Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn Elusen anhygoel yn fy marn i. Roedden ni am roi rhywbeth yn ôl a dweud diolch am helpu ein tad. Gall y sefyllfa fod wedi bod yn hollol wahanol. Pan ddaethpwyd o hyd i dad, cafodd ei gludo yn gyflym i'r ysbyty, a chawsom gyfle i fod gydag ef cyn iddo farw.

"Rydym yn ddiolchgar am bopeth a wnaeth y meddygon i helpu Dad. Hyd yn oed flwyddyn yn ddiweddarach, nid yw'n teimlo'n wir. Mae'n teimlo'n dda cyfrannu at achos da a chael helpu i barhau gwaith anhygoel Ambiwlans Awyr Cymru.