Llwyddodd aelodau o Sefydliad y Merched Felinfoel i gwblhau eu ‘her 100’ i godi £715 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru.

Yn ystod yr wythnos codi arian, cymerodd y menywod ran mewn amrywiaeth o heriau a gweithgareddau gwahanol a oedd yn cynnwys y rhif ‘100’. Roeddent yn amrywio o ymarferion corfforol, megis dringo 100 o risiau, sgipio â rhaff 100 o weithiau, rhwyfo 100 o weithiau ar y peiriant rhwyfo a 100 munud o ymarfer corff, neu hyd yn oed cerdded o amgylch cae pêl-droed neu barc lleol 100 o weithiau.

Gwnaeth y rhai nad oeddent am wneud yr ymarfer corff feddwl am weithgareddau creadigol, a oedd yn cynnwys gwau 100 o resi, cerdd 100 o eiriau, dathlu 100 o gacennau bach, neu gwnaeth y rhai a oedd am fod yn fwy tawel beidio â siarad am 100 munud!

Cafodd Sefydliad y Merched Felinfoel y syniad o godi arian er cof am dair aelod a fu farw, ac aelodau y mae'r ambiwlans awyr wedi helpu eu perthnasau yn y gorffennol.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.

Roedd yr ymgyrch codi arian wedi'i hanelu at bawb, a gwnaeth rhai hyd yn oed ei chysylltu â'u diddordeb mewn garddio drwy blannu 100 o hadau neu fylbiau.

Yn ystod eu cyfarfod diweddar, gwnaeth un o wirfoddolwyr Ambiwlans Awyr Cymru, Graham Hirst, roi sgwrs a chyflwyniad diddorol iawn i'r merched am waith Ambiwlans Awyr Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Sefydliad y Merched Felinfoel: “Codwyd cyfanswm o £715, sy'n orchest anhygoel gan yr aelodau. Roedd yn bleser mawr rhoi'r arian hwn i Ambiwlans Awyr Cymru drwy law un o wirfoddolwyr yr Elusen, Graham Hirst.”

Mae gan Ambiwlans Awyr Cymru bedwar hofrennydd wedi'u lleoli ledled Cymru, yn Nafen, Caernarfon, Y Trallwng a Chaerdydd.

Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.

Dywedodd Katie Macro, cydlynydd codi arian cymunedol i Ambiwlans Awyr Cymru: “Diolch yn fawr iawn i Sefydliad y Merched Felinfoel. Cafodd y menywod y syniad gwych o gymryd rhan yn eu ‘her 100’. Gwnaeth yr ymgyrch codi arian eu galluogi i bersonoli eu her eu hunain i wneud rhywbeth unigryw er cof am dair aelod a fu farw. Diolch i bob un ohonoch a gymerodd ran neu a roddodd arian i'n gwasanaeth sy'n achub bywydau. Heb gefnogaeth y cyhoedd, ni fyddai ein Helusen yn gallu parhau i wasanaethu pobl Cymru pan fydd eu hangen arnynt fwyaf.”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.  

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.