Mae menyw o Sir Benfro wedi llwyddo i gwblhau ras lethol o 236 milltir sydd wedi'i disgrifio fel un o rasys mynydd anoddaf y byd. 

Cymerodd Sanna Duthie, menyw 35 oed o Aberdaugleddau ran yn Ras Cefn y Ddraig, lle mae cystadleuwyr o bob cwr o'r byd yn rhedeg pellter cyfatebol 1.5 marathon bob dydd am chwe diwrnod, dros dirwedd fynyddig wyllt, di-lwybr ac anghysbell Cymru.

Cafodd y rhedwraig uwchfarathonau ei dewis i gynrychioli Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl creu argraff dda ar y panel beirniadu â'i hangerdd a'i hymroddiad.

Dechreuodd y ras yng Nghastell Conwy ar 4 Medi ac roedd y rhedwyr yn rasio i lawr meingefn Cymru mewn tymereddau tanbaid gan orffen yng Nghastell Caerdydd. Roedd 298 o bobl o 28 gwlad ar ddechrau'r ras, ond dim ond 87 person a lwyddodd i gyrraedd y terfyn. Sanna oedd y pumed fenyw i groesi'r llinell derfyn gan orffen yn y 19eg safle yn gyffredinol gydag amser gwych o 68 awr a phedwar munud.

Disgrifiodd y profiad fel "breuddwyd wedi'i gwireddu" ac roedd hi'n dal yn methu credu ei bod hi wedi cymryd rhan yn y ras, heb sôn am ei gorffen.

Dywedodd Sanna: “Roedd yr awyrgylch yng Nghaerdydd yn wych, gyda phobl yn galw fy enw ac roedd ymdeimlad da o ddathlu yno. Rydych yn teimlo fel person gorau'r byd wrth groesi'r llinell derfyn.

"Rhoddwyd draig i mi ar ddiwedd y ras, ac mae'n draddodiad i enwi eich draig. Galwais fy un i yn Hope oherwydd ni waeth beth fydd yn digwydd ar hyd y ffordd, bydd gobaith yn eich helpu i ddod drwyddi. Roeddwn i'n meddwl am hynny drwy gydol y ras gan edrych ymlaen at gael y ddraig.

"Rwy'n dal yn methu credu fy mod i wedi cwblhau Cefn y Ddraig gan fod llawer o redwyr yn methu gorffen hyd yn oed. Roeddwn i mor falch o gwblhau'r ras, heb sôn am orffen fel y pumed fenyw ac yn y 19eg safle yn gyffredinol. Rwy'n newydd i redeg mynydd ac felly mae gen i lawer i ddysgu o hyd.

"Mae'r cyfan yn teimlo mor swreal, a bron fel breuddwyd!”

Dywedodd Sanna, sy'n gweithio fel gweinyddydd swyddfa ei bod wedi dyheu am gofrestru i gymryd rhan yn Ras Cefn y Ddraig Montane, ond roedd y ffi o £1,599 wedi ei dal yn ôl yn ariannol.

Dywedodd: "Fel rhedwraig Gymreig falch, rwyf wedi bod eisiau gwneud y ras ers bron i ddeng mlynedd. Rwy'n adnabod sawl person sydd wedi cymryd rhan ynddi ac mae hynny wedi cynyddu fy awydd i'w rhedeg.

"Roedd gwybod fy mod i'n rhedeg ar gyfer yr Elusen yn fy helpu i ddal ati, ac er bod adegau lle y gallwn i fod wedi rhoi'r ffidil y y to oherwydd blinder, roeddwn i'n gwybod na allwn i fyth ffonio Ambiwlans Awyr Cymru i ddweud fy mod i wedi methu.

Nid dyma'r tro cyntaf i Sanna godi arian ar gyfer yr Elusen Cymru-gyfan, a chododd bron i £5,000 yn 2021 drwy redeg Llwybr Arfordir Sir Benfro cyfan mewn un tro.

Er mwyn cael y cyfle i redeg ar ran yr Elusen, addawodd y rhedwraig uwchfarathonau godi £2,000 o bunnoedd ar gyfer yr Elusen, a gwnaeth yn well na hynny drwy godi dros £2,700.

Dywedodd Sanna bod ganddi atgof hyfryd o fod ar y llinell gychwyn er gwaethaf y ffaith ei bod yn gwybod bod ganddi 32 milltir i'w redeg a 3,800m (12,467 troedfedd) o ddringfeydd y diwrnod hwnnw.

Dywedodd: "Roedd yn wych, roedd pawb mor gynhyrfus, roedd côr meibion yn canu a hwn oedd un o'r profiadau gorau rwyf wedi'i gael erioed ar ddechrau ras.

"Y diwrnod cyntaf oedd yr anoddaf oherwydd roeddwn i'n poeni gymaint am Grib Goch am nad wyf wedi arfer rhedeg ar y math hwnnw o dirwedd."

Ar ôl cwblhau diwrnod o redeg, byddai Sanna yn gwersylla am y noson gydag wyth rhedwr arall. 

Dywedodd: “Pan fyddwn i'n cyrraedd y gwersyll byddwn i'n gosod fy ngwely, yn cael popeth yn barod ar gyfer y diwrnod nesaf, yn cael fy mwyd, yn ymolchi yn yr afon, yn cael fy mhost y ddraig, yn cael mwy o fwyd ac yn trin fy nhraed drwy sicrhau eu bod nhw'n sych ac wedi eu codi'n uchel.  Byddwn yn anelu at fod yn fy ngwely erbyn 8.45-9pm ond nid oeddech yn gallu cysgu nes bod pawb wedi cyrraedd.

"Un o'r isafbwyntiau oedd peidio â chael cawod ac roeddwn i'n hiraethus, ond roedd yr uchafbwyntiau yn trechu popeth. Anaml y cewch chwe diwrnod yn y mynyddoedd heb law ac roedd y golygfeydd yn ysblennydd. Roeddech chi'n gallu gweld am filltiroedd, roedd hynny'n anhygoel.

"Ymhlith yr uchafbwyntiau eraill oedd y bobl y cwrddais â nhw a phost y Ddraig a gan deulu a ffrindiau - cefais neges o gefnogaeth gan Ambiwlans Awyr Cymru hefyd. Daeth hynny'n uchafbwynt bob dydd."

Dywedodd Sanna ei bod hi'n falch o redeg fel menyw a byddai hi'n annog mwy o fenywod i gymryd rhan yn yr her.

Dywedodd: ""Mae angen mwy o fenywod arnom i redeg uwchfarathonau.Mae menywod mor gryf yn feddyliol. Rwy'n gweld menywod o bob oedran yn ei chwblhau. Dim ond credu ynddoch chi eich hun a chyrraedd y llinell gychwyn sy'n rhaid i chi ei wneud. Diolch i Ambiwlans Awyr Cymru am gredu ynof fi ac am roi'r cyfle i mi gymryd rhan yng Nghefn y Ddraig."

Mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £11.2 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Dywedodd Tracey Ann Breese, Swyddog Codi Arian Digwyddiadau a Phartneriaethau Ambiwlans Awyr Cymru: "Llongyfarchiadau enfawr i Sanna am gwblhau Ras Cefn y Ddraig Montane. Fel llawer o'm cydweithwyr, dilynais ei thaith o'r dechrau i'r diwedd draw ac roedd hi'n anhygoel. Am gyflawniad arbennig gan fenyw arbennig.

"Roedd yn amlwg o weld cais Sanna ar gyfer lle'r Elusen ei bod hi'n hynod ymroddedig a phenderfynol o'r dechrau, ac rydym mor falch ei bod hi wedi gallu cwblhau'r ras, fel nod personol a hefyd i godi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru." 

I gefnogi Sanna ewch i'w thudalen Just Giving, https://www.justgiving.com/fundraising/sanna-duthie3