Mae staff Menter a Busnes (MaB) yn defnyddio eu talentau codi arian i gefnogi gwasanaethau achub bywyd Elusen Ambiwlans Awyr Cymru. 

Bob blwyddyn mae’r cwmni datblygu economaidd annibynnol yn dewis elusen i’w chefnogi am 12 mis. Hosbisau plant Tŷ Gobaith a Tŷ Hafan oedd yr elusen yn 2020. 

Er gwaethaf y cyfyngiadau Covid-19, llwyddodd tîm MaB i godi £8,169.35 (gan gynnwys Rhodd Cymorth) a gyflawnwyd trwy gerdded pellter cronnol Llwybr Arfordir Cymru (870 milltir) erbyn Noswyl Nadolig, ymysg pethau eraill.

Yn 2021, bydd MaB yn codi arian ar gyfer Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, sy’n dathlu ei phen-blwydd yn 20 eleni.

Dywedodd Prif Weithredwr MaB, Alun Jones, “Ein tîm sydd wrth wraidd y broses o ddewis pa Elusen y mae MaB yn ei chefnogi, ac yn aml mae’n ddewis sy’n cael ei ysgogi gan brofiad personol. Fel cwmni gydag aelodau o staff ledled Cymru - gyda llawer ohonynt wedi’u lleoli mewn ardaloedd gwledig - mae pob un ohonom yn gwybod pa mor hanfodol yw’r gwasanaeth y mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn ei ddarparu. Rydym ni’n falch o gefnogi gwaith achub bywyd yr Elusen.”

Ers iddi lansio ar Ddydd Gŵyl Dewi 2001, mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru wedi ymgymryd â bron i 38,000 taith yn ogystal â dechrau gweithredu gwasanaeth 24 awr ar 1 Rhagfyr, 2020.

Ar gyfartaledd, gall unrhyw daith gostio rhwng £1,500 a £3,000, ac mae costau gweithredu blynyddol yr Elusen wedi cynyddu o £6.5 miliwn i £8.5 miliwn. 

Yr elusen yw’r un mwyaf o’i math yn y DU. Mae pedwar Ambiwlans Awyr yng Nghymru ac mae timau Gofal Critigol yn gweithredu ym mhob un ohonynt. Mae tri ohonynt wedi’u lleoli yn y Trallwng, Caernarfon a Llanelli, ac mae’r Ambiwlans Awyr i Blant wedi’i leoli yn Hofrenfa Caerdydd.

Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn falch o fod yn ‘Elusen yng Nghymru i bobl Cymru’.

Mae’r ‘ysbyty’n dod at y claf’ drwy Wasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys ei thîm arbenigol (EMRTS Cymru). Gall y gweithwyr meddygol ar yr hofrennydd berfformio gwaith hollbwysig ar y safle yn dilyn damweiniau ac achosion o drawma cyn trosglwyddo’r claf i’r ysbyty.

Dywedodd Alwyn Jones, Cydlynydd Codi Arian Cymunedol ar gyfer Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, “Ar ran Ambiwlans Awyr Cymru, hoffwn ddiolch o galon i Menter a Busnes am ddewis ein cefnogi ni fel Elusen y Flwyddyn eleni. Hefyd, hoffwn ddymuno pob lwc i chi gyda’ch ymdrechion codi arian yn ystod y cyfnod hwn.”