O ganlyniad i weithgareddau codi arian drwy gydol y flwyddyn gan staff Menter a Busnes Cymru, llwyddwyd i godi swm anhygoel o £5,000 i Ambiwlans Awyr Cymru.

Bob blwyddyn, mae Menter a Busnes Cymru yn anfon holiadur at bob aelod o staff er mwyn enwebu elusennau i'w cefnogi yn ystod y flwyddyn. Yr elusen achub bywydau a gafodd y nifer mwyaf o bleidleisiau ac fe'i dewiswyd fel elusen y flwyddyn ar gyfer 2021/22.

Mae Menter a Busnes yn gwmni sy'n helpu unigolion, busnesau a sefydliadau yng Nghymru i ddechrau a datblygu eu busnes. Drwy gydol y flwyddyn, aeth aelodau ymroddedig o'r staff ati i godi arian drwy amrywiaeth o weithgareddau codi arian mewnol, gan gynnwys eu hymgyrch i gerdded pellter a oedd yn cyfateb i'r pellter o Gaerdydd i Qatar er mwyn annog tîm pêl-droed Cymru yn ei ymdrechion i gyrraedd Cwpan y Byd.

Dywedodd Nia Griffith o Fenter a Busnes Cymru: “Mae llawer o'r gweithgareddau rydym yn eu cynnal i godi arian hefyd yn cynnig cyfle i gymdeithasu fel staff, ac yn ogystal â chodi arian i Ambiwlans Awyr Cymru, rhoddodd y Cinio Mawr y gwnaethom gymryd rhan ynddo y llynedd gyfle i ni gyfarfod â chydweithwyr nad oeddem o bosibl wedi'u gweld ers cryn amser oherwydd cyfyngiadau'r coronafeirws ar y pryd.”

Mae gwasanaeth brys Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.   

Aeth un o Swyddogion Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru, Alwyn Jones, i swyddfa Menter a Busnes Cymru ym Mangor, Gwynedd yn ddiweddar a chyflwynwyd siec iddo.

Dywedodd Alwyn, yn llawn balchder: “Mae staff Menter a Busnes Cymru wedi llwyddo i godi swm anhygoel o £5,000 i Ambiwlans Awyr Cymru mewn blwyddyn. Rydym wrth ein boddau eu bod wedi dewis ein helusen fel elusen y flwyddyn o fis Ionawr 2021/22. Cafodd y staff syniadau gwych ar gyfer gweithgareddau codi arian ac mae'r cyfanswm a godwyd yn dangos pa mor galed y gwnaeth pawb weithio. Diolch i bob un ohonoch a gymerodd ran neu a roddodd arian i'n helusen. Rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth yn fawr. Mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £8 miliwn y flwyddyn i barhau â'i wasanaeth achub bywydau ar gyfer pobl Cymru. Bydd rhoddion, fel y swm hwn, yn ein helpu i achub mwy o fywydau. Diolch yn fawr, bawb.”