Mae meithrinfa yng Nghaernarfon wedi codi dros £2,000 i Ambiwlans Awyr Cymru.

Cymerodd plant, staff a rhieni Meithrinfa Plant Parciau, yn Griffiths Crossing, ran mewn cyfres o deithiau cerdded noddedig a diwrnodau hwyl er budd yr elusen sy'n achub bywydau.

Cwblhaodd y plant, sydd rhwng chwe mis a phum mlwydd oed, 20 o deithiau cerdded mewn 20 diwrnod drwy gerdded o amgylch y fferm sydd ar dir y feithrinfa. Gwnaethant hefyd wisgo mewn gwisgoedd ffansi gwahanol, yn amrywio o gymeriadau Disney i archarwyr.

Rhoddodd y feithrinfa, sydd â 96 o blant, £2,033 i Ambiwlans Awyr Cymru dros yr haf. Mewn pum mlynedd, mae Plant Parciau wedi codi bron £10,000 i'r Elusen.

Pwysleisiodd Sheila Jones, Cynorthwyydd Meithrin ym Meithrinfa Plant Parciau, fod Ambiwlans Awyr Cymru yn elusen sy'n agos at eu calonau.

Dywedodd: “Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn gwneud gwaith ardderchog ledled Cymru. Nid yw'r un ohonom yn gwybod pryd y gallai fod angen y gwasanaeth arnom ac mae'n bwysig ein bod yn parhau i godi arian i'w gefnogi.

“Mae gennym reswm personol dros gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru yma ym Meithrinfa Plant Parciau hefyd. Roedd angen yr ambiwlans awyr ar ddau blentyn a oedd yn arfer dod atom ond yna gwnaethant adael i fynd i'r ysgol. Mae pawb yn gwybod pa mor bwysig yw'r Elusen ac mae rhieni bob amser yn hynod hael a chefnogol wrth roi arian i'n helpu i barhau i godi arian.

“Nid ydym yn bell o gyflawni ein targed o £10,000 ac, er y byddem wedi hoffi ei gyflawni eleni, rydym wrthi'n cynllunio mwy o weithgareddau ar gyfer y dyfodol agos i sicrhau ein bod yn ei gyflawni y flwyddyn nesaf.”

Mae angen i wasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Mae'n darparu gwasanaeth awyr brys 24/7 hanfodol i'r rhai hynny sy'n wynebu salwch neu anafiadau sy'n peryglu bywyd.  

Mae'r Elusen yn cynnig gofal critigol uwch ledled Cymru. Caiff ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y trydydd sector a'r sector cyhoeddus, rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, a'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru).

O ganlyniad, mae'r gwasanaeth yn un a arweinir gan feddygon ymgynghorol a chaiff ei adnabod fel ‘adran achosion brys sy'n hedfan’, gan fynd â thriniaethau o safon ysbyty i'r claf ar safle'r digwyddiad. Mae hyn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad.

Dywedodd Alwyn Jones, un o Swyddogion Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Dyma gyflawniad anhygoel gan y staff, y plant a'r teuluoedd sy'n gysylltiedig â Meithrinfa Plant Parciau. Unwaith eto eleni, mae wedi llwyddo i godi dros £2,000 am y bedwaredd flwyddyn yn olynol. Roeddent wedi gobeithio cyrraedd eu targed o £10,000 yn ystod y cyfnod hwnnw ond gwnaethant fethu o ychydig gannoedd, ond mae'n waith ardderchog o hyd a bydd yn helpu'r Elusen yn sylweddol.

“Mae'r gefnogaeth a'r arian gan Feithrinfa Plant Parciau i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru dros y blynyddoedd wedi bod yn anhygoel ac rwyf am ddiolch o galon iddynt. Da iawn i chi gyd!”