Cyhoeddwyd: 18 Mawrth 2024

Cyn i chi gael y cyfle feddwl na allwch edmygu ein harwyr yn Ambiwlans Awyr Cymru yn fwy - unwaith eto, maent wedi mynd gam ymhellach (neu 140.6 o filltiroedd i fod yn fanwl gywir).

Bydd pedwar meddyg yn wynebu her Ironman Cymru i godi arian hanfodol ar gyfer yr elusen sy'n achub bywydau. Bydd tîm Ironman yn cynnwys Caroline Arter, Ruby Thomas, Simon Cartwright a Mike Palmer, yr Ymarferwyr Gofal Critigol (CCPs), ac maent yn gobeithio codi £1,500 yr un.

Caiff y gwasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus gan y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen. 

Syniad Caroline yn wreiddiol oedd ymgymryd â'r her eithaf - Ironman Cymru, sef triathlon hirbell llethol sy'n cynnwys nofio 2.4 milltir yn y môr, cwrs beicio bryniog 112 milltir a marathon drwy strydoedd Dinbych-y-pysgod.

Mae Ruby a Caroline wrth eu bodd yn rhedeg marathonau gyda'i gilydd ac yn edrych ymlaen at gael Simon a Mike ochr yn ochr â nhw ar 'Dîm Ironman Ambiwlans Awyr Cymru’. 

Dywedodd Caroline: "Mae gennym lawer o bobl heini iawn yn ein carfan o Ymarferwyr Gofal Critigol. Penderfynais y byddai'n syniad da dod â phawb â diddordeb ynghyd i ffurfio tîm, ac yn fy marn i, roeddwn yn meddwl y byddai ond yn iawn i wynebu Ironman Cymru. 

"Roeddwn yn gwybod y byddai pawb yn awyddus i wneud hynny. Mae pob un ohonom mor brysur ar ddyletswydd, felly mae'n ffordd braf o ddod â'r tîm at ei gilydd ar ein diwrnodau i ffwrdd, ac yn ffordd wych o godi arian." 

Bydd y tîm yn cwblhau eu hyfforddiant ochr yn ochr â'u bywyd gwaith prysur a'u sifftiau 12 awr.

Dywedodd Caroline, sy'n ymbaratoi gymaint â phosibl: "Rwyf wedi gwneud dau Ironman, maent yn anhygoel. Rwy'n gwybod ei fod yn her eithafol, ond mae'r ymdeimlad o'i gyflawni yn anhygoel felly meddyliais pam lai? Ac rwy'n gwybod y bydd y criw yn ei fwynhau'n fawr. Bydd yn teimlo hyd yn oed yn fwy arbennig cael codi arian ar gyfer yr achos gorau erioed drwy ei gwblhau.” 

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu ei anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol.

Ychwanegodd Ruby: "'Dw i wedi cwblhau ambell farathon yn barod, ac rwyf wrth fy modd yn rhedeg. 'Dw i erioed wedi nofio na beicio, felly bydd yn her fawr i mi. Rwy'n caru'r rasio gyda Caroline gan ein bod yn cymell ein gilydd yng ngwres y foment. Rwyf am gwblhau Ironman Cymru gan fy mod eisiau codi arian ar gyfer ein Helusen, ond hefyd am y bydd yn her bersonol i mi.” 

Dywedodd Sue Barnes, Prif Weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru: "Rydym yn llawn cynnwrf o wybod y bydd ein meddygon yn wynebu Ironman Cymru. Mae'r ffaith eu bod eisiau codi arian ar gyfer ein hachos, y tu allan i'w swydd sy'n achub bywydau yn barod, yn anhygoel. Dywedodd Caroline ei bod yn gobeithio gwneud yr Elusen yn falch, ond mae ein meddygon eisoes yn gwneud hynny bob dydd. Rydym yn dymuno'r gorau i Caroline, Mike, Ruby a Simon wrth iddynt ymgymryd â'r her enfawr hon, ac yn gobeithio y bydd ein cefnogwyr yn gefn i'r tîm ar y diwrnod."

Gallwch ddangos eich cefnogaeth i dîm Ironman Ambiwlans Awyr Cymru drwy roi arian drwy eu tudalen JustGiving yma.