Mae atyniad i dwristiaid poblogaidd yng Nghwm Tawe yn rhoi'r cyfle i bobl ennill deinosor o faint cwir.  

Mae Dan-yr-Ogof, Canolfan Ogofâu Arddangos Genedlaethol Cymru, yn arwerthu un o'i modelau deinosor anferth fel rhodd arbennig i rywun y Nadolig hwn.  

Bydd holl elw'r ocsiwn unigryw yn mynd i Ambiwlans Awyr Cymru, sef yr Elusen y mae'r Ogofau Arddangos wedi ymrwymo i'w chefnogi ers 5 mlynedd. 

Mae'r Apatosaurus (Brontosaurus gynt), yn ymestyn bron i 37 troedfedd mewn hyd (11.3 metr) ac yn sefyll dros 11 troedfedd o daldra (3.4 metr).

Tra bod y deinosor syfrdanol hwn werth £30,000 yn wreiddiol, bydd y broses gwneud cynnig tawel amdano yn gyfle cyffrous i bobl â diddordeb a bydd yn agored i bawb.

Mae'r cynigwyr yn cael eu hannog i gyflwyno cynnig dros e-bost i'r Ogofau Arddangos erbyn dydd Mercher 15 Tachwedd 2023, a bydd y deinosor copi yn mynd i'r cynnig uchaf. Dylai'r cynigwyr potensial anfon neges e-bost gyda'u cynigion ar unwaith i [email protected].

Dywedodd Ashford Price, Cadeirydd Ogofau Arddangos Dan-yr-Ogof: "Mae pob plentyn yn caru'r Nadolig, a bydd hosanau Nadolig llawer o blant yn cynnwys deinosoriaid fel anrheg bob blwyddyn. Dychmygwch gael deinosor o faint un gwir y Nadolig hwn. Mae hwn yn gyfle unigryw i fod perchen ag un o'n deinosoriaid, ac mae'n ffefryn ymhlith y plant sy'n ymweld â'r Ogofau Arddangos. 

"Bydd pob ceiniog o werthiant y deinosor yn cael ei roi i Ambiwlans Awyr Cymru, elusen sy'n arddangos ymrwymiad sy'n eithriadol gyson i achub bywydau drwy Gymru bob blwyddyn.

"Rydym yn anelu'n uchel at godi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru, gan geisio creu atgofion Nadoligaidd bythgofiadwy i deulu lwcus ar yr un pryd."

Wedi'i greu o wydr cyfnerthedig, gall y deinosor gael ei ddatod a'i roi yn ôl at ei gilydd.  Bydd cyfrifoldeb ar y prynwr terfynol i ddatod, cludo a rhoi'r ymlusgiad o faint gwir yn ôl at ei gilydd yn ei gartref newydd. Caiff gwybodaeth sylfaenol o weithio gyda gwydr a sut i'w gydosod ei argymell ar gyfer profiad di-dor.

Mae Dan-yr-Ogof yn cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru yn barod drwy'r Trên Elusennol dros dir, sy'n gwahodd pobl i wneud rhodd i'r gwasanaeth sy'n achub bywydau.  

Mae ganddo hefyd flychau casglu yn ei siop goffi ac yn un o'r llynnoedd tanddaearol yn yr ogofâu maent yn gwahodd pobl i daflu darnau arian i'r dŵr i'r elusen Cymru gyfan.

Wrth fyfyrio ar y rheswm dros ddewis Ambiwlans Awyr Cymru, dywedodd Ashford Price, Cadeirydd Canolfan Ogofâu Arddangos Genedlaethol Cymru yn Dan-yr-Ogof: “Roedd ymwelydd ifanc yn yr ogofâu pan aeth i goma diabetig. Cyrhaeddodd ambiwlans awyr y lleoliad a llwyddo i'w sefydlogi er rhyddhad i'w rhieni.

“Mae Ambiwlans Awyr Cymru wir yn achub bywydau ac mewn ardaloedd anghysbell mynyddig gall gyrraedd ardaloedd na all cerbydau eraill eu cyrraedd.”

Caiff gwasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru ei gyflwyno drwy bartneriaeth unigryw'r Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar roddion gan y cyhoedd i godi'r £11.2 miliwn sy'n ofynnol bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Mae’r Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.  

Dywedodd Siany Martin, Swyddog Codi Arian Corfforaethol Ambiwlans Awyr Cymru: "Mae'r ocsiwn yn syniad gwych arall i helpu i godi arian hanfodol ar gyfer ein Helusen, ac yn gyfle prin a chyffrous i rywun ennill deinosor o faint un gwir eu hunain erbyn y Nadolig.

"Rydym yn hynod ddiolchgar i Ogofâu Dan-yr-Ogof am eu cefnogaeth a'u rhoddion parhaus, sydd oll yn helpu Ambiwlans Awyr Cymru gyflawni ei galwadau sy'n achub bywydau ledled Cymru."