Dringodd beiciwr modur y cafodd ei fywyd ei achub gan Ambiwlans Awyr Cymru yr Wyddfa fel diolch i'r meddygon a helpodd i achub ei fywyd.

Ymgymerodd Mark Kempsell, 30, o Newton-le-Willows, â'r her flwyddyn i'r diwrnod y cafodd ei ddamwain a chodi swm anhygoel o £5,479.

Ymwelodd â Gorsaf Awyr Caernarfon yn ddiweddar lle cyflwynodd ei siec codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru.

Llynedd bu Mark mewn damwain ffordd difrifol, a oedd yn cynnwys trỳc agored. Taflwyd tua 25 llath o leoliad y ddamwain a chafodd ei daro'n anymwybodol ar unwaith.

Rhoddodd Ambiwlans Awyr Cymru driniaeth i Mark ar ochr y ffordd cyn ei hedfan i'r ganolfan trawma yn Ysbyty Brenhinol Prifysgol Stoke.

Torrodd Mark saith asgwrn yn ei wddf, ei belfis, ei fraich, a'i arddwrn a thorrodd fertebra C2 yn ei gefn – anaf sydd fel arfer yn angheuol neu'n achosi parlys, a olygai fod angen i Mark gael triniaeth ar fyrder. Dioddefodd gleisiau difrifol hefyd.

Yn ystod ei gyfnod yn yr ysbyty, cafodd lawdriniaeth, ond yn anffodus roedd cymhlethdodau gan fod un o'r rhydwelïau yn ei wddf wedi torri. Treuliodd 13 diwrnod yn yr ysbyty – dau ohonynt mewn gofal critigol.

Fel diolch gosododd Mark her iddo'i hun i ddringo'r Wyddfa flwyddyn i'r diwrnod ers ei ddamwain.

Ymunodd ei ffrindiau a'i deulu ag ef yn ystod yr her, ac roedd yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth a gadodd ar y diwrnod. Ychwanegodd: “Roedd hi'n her anodd ac yn hynod wlyb a gwyntog ond, gwnaethom lwyddo!Diolch yn fawr iawn i bawb a gefnogodd y ddringfa. Bydd yr arian y gwnaethant, yn garedig iawn, ei roi yn gwneud gwahaniaeth mawr.

“Roedd yn ddringfa heriol, ac roedd y lefelau poen yn uchel iawn, ond diolch i'r gefnogaeth gan ffrindiau a theulu ar y diwrnod, cyrhaeddom y copa! Roedd y tywydd yn ofnadwy – glaw a gwynt cryf dibaid – ond dyna beth i'w ddisgwyl ym Mhrydain!”

Mae gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch ledled Cymru. Caiff ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y trydydd sector a'r sector cyhoeddus, rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, a'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru). O ganlyniad, mae'r gwasanaeth yn un a arweinir gan feddygon ymgynghorol a chaiff ei adnabod fel ‘adran achosion brys sy'n hedfan’, gan fynd â thriniaethau o safon ysbyty i'r claf ar safle'r digwyddiad. Mae hyn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad.

Mae angen i'r Elusen godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Dywedodd Debra Sima, Swyddog Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae penderfyniad Mark yn anhygoel, er yr hyn y mae wedi ei brofi, gosododd her iddo'i hun i ddringo'r Wyddfa flwyddyn i'r diwrnod ers ei ddamwain. Bydd digwyddiadau codi arian, fel digwyddiad Mark, yn ein helpu i gadw ein pedwar hofrenydd yn yr awyr a chadw ein cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Mae gan Mark brofiad uniongyrchol o'r gwaith ardderchog mae ein meddygon yn ei wneud. Mark, diolch am godi arian i'r Elusen a'n helpu i barhau i wasanaethu pobl Cymru pan fydd arnynt ein hangen. Mae diolch enfawr i ffrindiau a theulu Mark am ei gefnogi yn ystod yr her ac am roi arian i'w ddigwyddiad codi arian. Rydych i gyd yn achub bywydau.”