Bydd beiciwr modur y cafodd ei fywyd ei achub gan Ambiwlans Awyr Cymru yn dringo'r Wyddfa flwyddyn i'r diwrnod ers ei ddamwain er budd yr Elusen.

Dioddefodd Mark Kempsell anafiadau difrifol ar ôl damwain penben yng Ngogledd Cymru, ger pentref Groes, pan oedd allan ar ei feic modur ar ôl gwaith.

Cafodd Mark, a ddaw o Newton-le-Willows, ei drin gan feddygon yr Elusen ar ochr y ffordd cyn cael ei hedfan i Ysbyty Brenhinol Prifysgol Stoke.

Dywedodd: “Clywais ar radio'r heddlu y byddai'n rhaid aros tua 5 awr am ambiwlans ffordd. Ond, oherwydd difrifoldeb fy anafiadau a'r lleoliad, roedd angen triniaeth frys arna i. Llwyddodd tîm meddygon Ambiwlans Awyr Cymru i ddod â'r ysbyty ataf i.

“Cefais driniaeth a chefais fy nghludo i'r ysbyty cyn pen dim. Heb yr ambiwlans awyr, dydw i ddim yn meddwl y byddwn wedi goroesi neu o leiaf byddai’r risg o anaf pellach wedi cynyddu’n aruthrol.”

Torrodd Mark saith asgwrn yn ei wddf, ei belfis, ei fraich, a'i arddwrn a thorrodd fertebra C2 yn ei gefn – anaf sydd fel arfer yn angheuol neu'n achosi parlys, a olygai fod angen i Mark gael triniaeth ar fyrder.

Cafodd Mark, sy'n 29 oed, lawdriniaeth ar y dydd Sul, ond yn anffodus roedd cymhlethdodau gan fod un o'r rhydwelïau yn ei wddf wedi torri.

Diolch byth, llwyddwyd i ddatrys hyn a threuliodd Mark ddau ddiwrnod mewn gofal critigol, a chafodd fynd adref o'r ysbyty ar ôl dim ond 13 diwrnod.

Cafodd Mark ei ryddhau o'r ysbyty ar ei ben-blwydd i gartref ei dad a'i lysfam, lle bu'n gwella am y ddau fis nesaf. Ychwanegodd: “Roedd yn ben-blwydd ychydig bach yn wahanol, ond dyna'r anrheg gorau a gefais.”

Bydd y Rheolwr Manwerthu Amaethyddol i Co-op yn rhoi ei esgidiau cerdded ymlaen ar 23 Gorffennaf yn y gobaith o godi £1,500 ar gyfer yr Elusen sy'n achub bywydau. Mae eisoes wedi codi swm anhygoel o £1,230.

Gan fyfyrio ar y rhesymau pam roedd am godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru, dywedodd Mark: “Ni fyddaf byth yn anghofio deffro ar y bore Sul hwnnw, diwrnod ar ôl y ddamwain. Gorweddais yno a cheisio cofio beth oedd wedi digwydd. Nid oeddwn yn gwybod lle oeddwn i am ychydig eiliadau. Yna, pan sylweddolais, dechreuais roi'r darnau at ei gilydd, ac rwy'n cofio dweud wrthaf fy hun “ni fyddaf yn cael fy niffinio gan y digwyddiad hwn. Mae gennyf daith hir o'm blaen, ond byddaf yn dod drwyddi”.

“Dechreuais feddwl am yr holl bobl a achubodd fy mywyd, ac a wnaeth fy nhrin a'm helpu. Dros y dyddiau nesaf, dechreuais ganolbwyntio ar sut y gallwn ddiolch i'r bobl wych hyn. Un bore clywais ambiwlans awyr yn glanio yn yr ysbyty a gwnaeth rhywbeth glicio. Roedd yn ddewis perffaith.”

Siaradodd Mark â'i deulu am godi arian ac awgrymodd ei frawd y gallai ddringo'r Wyddfa.

Ychwanegodd Mark: “Nid oeddwn yn gallu symud fy nghorff rhyw lawer ar y pryd ac roeddwn yn y poen gwaethaf yr oeddwn erioed wedi'i brofi, ond rhoddodd rywbeth i mi ganolbwyntio arno. Ers hynny, rwyf wedi bod yn paratoi am yr her. Bydd yn garreg filltir wych i mi, ond hefyd yn amser perffaith i geisio ddiolch i Ambiwlans Awyr Cymru.”

Mae angen i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion brys yn yr awyr a'i cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd.  

Mae'r gwasanaeth 24/7 yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.   

Ychwanegodd Mark, sydd wedi cofrestru fel gwirfoddolwr ar gyfer Elusen Ambiwlans Awyr Cymru: “Rwyf am geisio codi cymaint â phosibl. Ni allaf byth ddiolch i'r ambiwlans awyr am yr hyn a wnaethant, ond rwy'n gobeithio y bydd yr arian rwy'n llwyddo i'w godi yn helpu'r gwasanaeth i barhau i hedfan ac achub bywydau ledled Cymru.”

11 mis yn ddiweddarach ac mae adferiad Mark yn mynd yn dda. Mae'r esgyrn a dorrodd wedi gwella, ac er bod ganddo ‘ffordd bell i fynd’ gyda'i fraich, mae'r meddygon yn hapus â'i gynnydd. Ychwanegodd: “Rwy'n dal i ddioddef lefelau uchel o boen ac yn cael trafferth cysgu, ond pan rwy'n meddwl am ba mor bell rwyf wedi dod, mae'n rhaid i mi fod yn ddiolchgar.”

Dywedodd Debra Sima, swyddog codi arian cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae Mark yn ysbrydoliaeth – er yr hyn y mae wedi ei brofi, rhoddodd her enfawr i'w hun i ddringo'r Wyddfa flwyddyn i'r diwrnod ers ei ddamwain. Mae anafiadau Mark a'i ganlyniadau yn dangos pa mor allweddol ydyw bod cleifion yn cyrraedd yr ysbyty cyn gynted â phosibl. Heb ddigwyddiadau codi arian, ni fyddem yn gallu parhau i wasanaethu pobl Cymru pan fydd ein hangen arnynt fwyaf. Rwy'n gobeithio y bydd pawb yn cefnogi Mark i godi arian ac rydym yn dymuno'n dda iddo â'i her fis nesaf. Pob lwc Mark.”

Bydd Mark yn cael ei gefnogi ar y diwrnod gan ei ffrindiau a'i deulu. Gallwch ddangos eich cefnogaeth i Mark drwy gyfrannu at ei dudalen Just Giving - Mark's Snowdon Climb for Wales Air Ambulance.