04/08/2020

Ychydig iawn o brofiad beicio oedd gan Mandy Lane ddwy flynedd yn ôl - y penwythnos hwn bydd yn rhoi cynnig ar ddringo 'Everest' Trimsaran ar ei beic!

Mae Mandy yn cymryd rhan mewn her i godi arian i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru ac mae eisoes wedi codi £370 o'i tharged o £1,200.

Ymunodd Mandy â Chlwb Beicio Bynea ychydig dros ddwy flynedd yn ôl a chafodd groeso mawr ac annogaeth o'r cychwyn cyntaf gan bawb yn y clwb.

Mae'r ddringfa bron i filltir o hyd gyda graddiant cyfartalog o 9.2%. Bydd yn rhaid i Mandy feicio i fynu'r bryn 77 o weithiau i gyrraedd uchder o 29,029 troedfedd / 8,848 metr.

Mae'r ddringfa yn arbennig o berthnasol i Mandy, nid yn unig am mai hwn yw cwrs treialon amser dringo bryn Clwb Beicio Bynea, ond hefyd am ei bod wedi osgoi beicio ar ei hyd am gyhyd.

Eleni, mae wedi bod yn arbennig o anodd i'r clwb gan eu bod wedi colli aelodau annwyl iawn.

Wrth feddwl pam ei bod wedi gosod yr her iddi ei hun i feicio 'Mynydd Everest', dywedodd Mandy o Lanelli: "Rwyf wedi bod eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i'r clwb fel diolch am yr arweiniad, y cyngor, yr help a'r cyfeillgarwch rwyf wedi'i dderbyn dros y blynyddoedd. Fydden ni byth wedi gallu rhoi cynnig ar her Everest heb gefnogaeth fy nghlwb.

"Un o'r aelodau sydd wedi cadw cwmni i mi yn aml yn ystod teithiau'r clwb ar y dringfeydd yn y dyddiau cynnar a gyflwynodd elusen y clwb, sef Ambiwlans Awyr Cymru, ar ôl i'w wyres 6 wythnos oed gael ei chludo mewn hofrenydd i'r ysbyty. Roedd ei angerdd tuag at yr ambiwlans awyr a'r gwaith maent yn ei wneud yn ddiymwad.

"Rwyf nawr mewn sefyllfa, nid yn unig i ddweud diolch i'm clwb beicio am eu rhan ddylanwadol a chanolog ar fy nhaith beicio drwy gefnogi elusen enwebedig y clwb, ond hefyd i godi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer achos ardderchog. Un sydd wedi cael effaith ar nifer o'n haelodau."

Dywedodd Mark Stevens, Rheolwr Codi Arian yr Elusen ar gyfer De Cymru: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Mandy a Chlwb Beicio Bynea am eu cefnogaeth.

"Bydd y digwyddiad codi arian, a'n dewis ni fel eu helusen am y flwyddyn yn ein helpu i gadw ein meddygon sy'n hedfan yn yr awyr, a heb gefnogaeth fel hyn, ni fyddem yn gallu parhau â'n gwaith ar hyd a lled Gymru. Pob lwc Mandy!”

Cynhelir yr her ddydd Sadwrn 25 Gorffennaf ar gwrs dringo bryn Clwb Beicio Bynea yn Nhrimsaran.

Gallwch noddi Mandy drwy ei thudalen Just Giving - Mandy May’s Climbing Everest in Trimsaran not Nepal - yma.