Cymerodd mam o Sir Gaerfyrddin ran ym Marathon Llundain er cof am fabi ei chyfnither a fu farw yn y crud, yn bedwar mis oed.

Cymerodd Rhiannon Jones, 41, ran yn y digwyddiad 26.6 milltir am ei bod hi eisiau rhoi arian i'r Elusen a gafodd ei galw dŷ ei chyfnither, Sioned Jones, yng Ngorslas, fis Mehefin 2018. Yn anffodus, er ymdrechion Ambiwlans Awyr Cymru a'r gwasanaethau brys, yn drist iawn bu farw Steffan Morris.

Llwyddodd Rhiannon, sy'n dod o Frynaman, Rhydaman, a bellach yn byw yng Nghaerlŷr gyda'i merch Madison, sy'n 10 oed, ennill lle ym mhleidlais Marathon Llundain yn dilyn blynyddoedd o drio.

Prynodd y rheolwr dylunio beiriant rhedeg iddi ei hun a rhwng cydbwyso gwaith a bod yn fam sengl, byddai'n rhedeg yn ei chartref yn aml am rhwng tair a phedair awr ar y tro. Roedd wedi bwriadu cymryd rhan ddwy flynedd yn ôl ond oherwydd Covid ac yna anaf bu'n rhaid iddi ohirio'r ras tan fis Hydref.

Wrth hyfforddi ar gyfer y marathon, roedd gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru ar ei theulu am yr ail dro yn dilyn damwain nai Rhiannon, Ieuan, tra roedd allan yn seiclo. Daeth meddygon Ambiwlans Awyr Cymru i'w helpu ac roedd yn ffodus mai dim ond torri pont ei ysgwydd, asennau a bysedd traed yn unig a wnaeth.

Dywedodd Rhiannon: “Os na fyddai fy nai wedi gwisgo helmed mae'n siwr y byddai wedi marw am fod rhan o'i helmed wedi torri'n rhacs. Mae'n hynod lwcus o fod yma. Mae Ieuan bellach yn gwella, ond gallai'r sefyllfa fod wedi bod yn hollol wahanol.

“Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn agos iawn at galon fy nheulu. Mae fy nghyfnither, Sioned, hefyd yn gwirfoddoli i'r Elusen yn dilyn colli ei babi, Steffan. Mae straeon Sioned ac Ieuan yn ddwy allan o filoedd sy'n cyffwrdd calonau am y gwaith da mae'r Elusen yn ei wneud.

“Rydw i wedi cael y fraint o gael cwrdd â'r bobl anhygoel o Ambiwlans Awyr Cymru a chael gwybod mwy am y gwaith gwych maent yn ei wneud. Rwy'n cael fy synnu beth maen nhw'n ei wneud pob dydd. Maen nhw'n gweithio 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn. Dydyn nhw ddim yn stopio ac os gallaf godi digon o arian i ariannu un achos a helpu rhywun mewn angen fel Sioned ac Ieuan, yna byddaf yn hapus yn gwybod fy mod wedi gwneud fy nghyfraniad bach i.”

Dywedodd y fam i un fod y gefnogaeth a gafodd ym Marathon Llundain wedi bod yn ardderchog gyda'r teulu i gyd yn teithio o Sir Gaerfyrddin i'r Brif Ddinas i'w chefnogi. Cwblhaodd Rhiannon y digwyddiad mewn 6 awr a 42 munud a dywedodd fod yr awyrgylch ar hyd y daith yn anhygoel.

Dywedodd: “Dydw i ddim yn rhedwraig ac roedd hyfforddi ar gyfer y marathon yn anodd am fy mod i'n fam sengl a heb lawer o ofal plant. Roedd yn rhaid i mi hyfforddi pan oedd fy merch mewn clybiau ar ôl ysgol a Brownies a dibynnais ar ffrindiau i edrych ar ei hôl am fod fy nheulu i gyd yng Nghymru.

“Mae rhedeg ar beiriant rhedeg yn wahanol i redeg yn yr awyr agored. Rhedais bellteroedd bach y tu allan ac yna roedd yn rhaid i mi redeg pellteroedd hir yn fy nhŷ, a oedd yn hir iawn ac yn ddiflas yn aml. Fy nod oedd cwblhau'r ras a mwynhau'r awyrgylch, heb boeni am fy amser gorffen.

“Roedd y cefnogwyr ar hyd y daith yn ardderchog. Roedd bandiau yn chwarae ar roedd pawb mewn hwyliau da ac yn mwynhau'r awyrgylch. Bydd yr atgofion hyn gyda fi am byth, mae bob amser yn beth da cael her. Y rhan bwysicaf i mi oedd mwynhau a chodi arian i Ambiwlans Awyr Cymru.”

Llwyddodd Rhiannon godi £1,385.35, gan gynnwys Cymorth Rhodd, i Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r Elusen yn dibynnu ar roddion elusennol i godi £8 miliwn bob blwyddyn er mwyn cadw'r hofrenyddion yn yr awyr yng Nghymru. Nid yw'r Elusen yn cael arian gan y Loteri Genedlaethol na chyllid uniongyrchol gan y llywodraeth.

Mae gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch ledled Cymru. Caiff ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y trydydd sector a'r sector cyhoeddus, rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, a'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru).

O ganlyniad, mae'r gwasanaeth yn un a arweinir gan feddygon ymgynghorol a chaiff ei adnabod fel ‘adran achosion brys sy'n hedfan’, gan fynd â thriniaethau o safon ysbyty i'r claf ar safle'r digwyddiad. Mae hyn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad.

Dywedodd Debra Sima, Swyddog Codi Arian Cymunedol i Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae Rhiannon wedi gweld ei hun y gwaith anhygoel mae'r Elusen yn ei wneud. Rydym i gyd yn gobeithio na fyddwn fyth angen gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru, ond yn anffodus, roedd ei angen ar deulu Rhiannon yr Elusen ar ddau achlysur gwahanol.

“Rydym yn hynod drist o glywed am farwolaeth babi ei chyfnither yn 4 mis oed ac rydym yn meddwl am ei theulu. Rydym yn meddwl am nai Rhiannon, Ieuan, ac yn gobeithio y bydd yn gwella'n fuan.

“Dylai Rhiannon fod yn falch iawn ohoni ei hun am gwblhau Marathon Llundain. Diolch o galon iddi am godi swm anhygoel.”