Cyhoeddwyd: 11 Mawrth 2024

Dathlodd mam ei phenblwydd yn 50 oed drwy godi arian i ddwy elusen sy'n agos at ei chalon - Ambiwlans Awyr Cymru a Children's Liver Disease Foundation.

Penderfynodd Jane Matthews, sy'n disgrifio ei hun fel unigolyn sydd ‘ddim yn rhedwraig naturiol’, ddathlu ei phenblwydd mawr drwy redeg am fis wedi gwisgo fel ‘Wonder Woman’. Cwblhaodd Jane bellter anhygoel o 50km!

Cafodd merch Jane, Emily, drawsblaniad iau yn 2014, ar ôl cael ei geni â dau fath o glefyd yr afu. Ar ôl ‘ychydig flynyddoedd anodd’, mae Emily, sy'n 14 oed, yn ‘gwneud yn dda, yn hapus ac yn byw bywyd fel merch normal yn ei harddegau’.

Dywedodd Jane, gan egluro pam roedd am godi arian ar gyfer yr elusennau: “Roeddwn am godi arian ar gyfer Elusen Ambiwlans Awyr Cymru er cof am ferch ifanc, Millie. Aeth meddygon yr elusen at Millie ychydig dros ddwy flynedd yn ôl, ac roeddem yn hollol ddigalon o'i cholli, ond yn hynod ddiolchgar am y cymorth a roddodd Ambiwlans Awyr Cymru.

“Mae'n wych gwybod bod gan Gymru wasanaeth sy'n trosglwyddo plant sâl i'r ysbyty a hefyd yn eu dychwelyd adref. Rwy'n meddwl ei fod yn wasanaeth gwerth chweil ar gyfer pobl Cymru, ac mae gwybod bod help wrth law yn rhoi tawelwch meddwl i ni.”

Parhaodd Jane, wrth fyfyrio ar brofiad y teulu pan oedd Emily yn sâl: “Roedd yn gyfnod anodd dros ben, ond cawsom gymaint o gariad a chefnogaeth yr holl amser. Roeddwn am wneud yr un fath ar gyfer bywydau teuluoedd eraill a oedd wedi cael eu troi ben i waered. Dyna pam y dewisais Children’s Liver Disease Foundation, sydd wedi ein cefnogi ni, a llawer o deuluoedd eraill, o ddiwrnod cyntaf y diagnosis. Roeddwn wir am roi rhywbeth yn ôl a helpu teuluoedd eraill sydd efallai yn ei chael hi'n anodd.”

Fel rhan o'i digwyddiad codi arian, roedd clogyn ‘Wonder Woman’ Jane yn cynnwys enwau mwy na 100 o blant sydd â chlefyd yr afu, gan gynnwys rhai sy'n anffodus wedi marw ac eraill sy'n aros am drawsblaniad.

“Roedd yn fraint cael rhedeg gyda'u henwau ar y clogyn ac roedd hefyd yn ffordd ardderchog o ddechrau sgwrs, lle gallwn siarad am y ddwy elusen." ychwanegodd Jane.

Gwnaeth hefyd grosio dros 100 o ‘flagur gobaith bach’ er mwyn codi ymwybyddiaeth o Roi Organau.

Mae Jane o Ogledd Caerdydd a ‘Mamau Afu/Iau’ – mamau'r plant sydd â chlefyd yr afu/iau, wedi codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru yn y gorffennol. Y llynedd, er cof am Millie Carter, gwnaethant roi blanced i'w theulu yr oedd Jane wedi'i chrosio, a rhoddodd y mamau arian i'r elusen sy'n achub bywydau. Gwnaethant godi swm rhyfeddol o £300 er cof am Millie.

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol.

Darperir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus gan y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.  

Curodd Jane ei tharged codi arian penblwydd o £400 gyda'r rhoddion, gan wneud cyfanswm o £900, sydd wedi cael ei rannu'n gyfartal rhwng y ddau achos.

Dywedodd Jane, yn llawn balchder: “Rwy'n falch iawn o'r swm o arian sydd wedi'i godi. Roeddwn yn anelu at £400 ond mae hwn wedi mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau pawb pan gyrhaeddais £900. Rwy'n ddiolchgar iawn unwaith eto i bawb a roddodd arian. Dangosodd cynifer o bobl leol gefnogaeth, yn canu cyrn ac yn tynnu hunluniau wrth i mi redeg heibio, ac yna rhoi arian. Mae wir wedi bod yn anrhydedd ac yn gryn dipyn o hwyl, efallai gormod o hwyl – rwy'n gweld eisiau fy nghlogyn nawr! Rwy'n ystyried ei wneud yn ddigwyddiad codi arian blynyddol.

Dywedodd Laura Coyne, Rheolwr Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Roedd hon yn ffordd hyfryd o ddathlu penblwydd mawr! Diolch yn fawr i Jane am ymgymryd â'i her rhedeg, wedi gwisgo fel ‘Wonder Woman’ ar gyfer dwy elusen hynod bwysig.

“Mae'n hyfryd clywed bod Jane am godi arian ar gyfer yr Elusen yn dilyn cefnogaeth Ambiwlans Awyr Cymru i Millie. Mae'n ffordd arbennig o gofio Millie, a oedd yn amlwg yn golygu llawer i Jane ac Emily. Diolch i bawb a gefnogodd Jane yn ei digwyddiad codi arian. Bydd yr arian a godwyd yn ein helpu i barhau i fod yno ar gyfer pobl Cymru pan fydd arnynt ein hangen fwyaf."