Wedi iddi gael diagnosis o Syndrom Lynch, cyflwr etifeddol geneteg, sy'n cynyddu'r risg o ddatblygu canser, penderfynodd y fam ysbrydoledig i bump, dderbyn y llawdriniaeth i leihau'r risg a chael gwared â'i chroth, serfics, tiwbiau ffalopaidd ac ofarïau.

Pan oedd gartref yn gwella, gosododd Melinda, o Glydach, Abertawe, ddau nod iddi ei hun. Y cyntaf oedd ennill ei Thrydydd Gwregys Du Dan mewn Carate a'r ail oedd cymryd rhan mewn digwyddiad rhedeg enfawr - rhywbeth a oedd yn brofiad hollol newydd iddi.

Cyn gynted ag yr oedd yn ddigon iach, aeth Melinda yn ôl i gadw'n ffit ac aeth ati i geisio cyflawni ei thargedau personol. Fis Mai, enillodd ei gwregys du mewn carate ac ym mis Hydref, llwyddodd i gwblhau Hanner Marathon Caerdydd.

Dywedodd Melinda, sy'n gweithio i'r DVLA (Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau), y daeth y cyfle i gymryd rhan yn y digwyddiad 13.1 o filltiroedd drwy ei gwaith. Eleni, mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi cael ei dewis fel Elusen y DVLA a bydd unrhyw ddigwyddiadau codi arian neu arian a godir yn mynd tuag at godi arian hanfodol i'r Elusen sy'n achub bywydau.

Dywedodd Melinda: “Pan welais yr hysbyseb am y llefydd gwag a oedd ar gael ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd ar ein gwefan fewnol, penderfynais roi fy enw i lawr. Anfonais e-bost yn holi am le, gan obeithio'n gyfrinachol y byddai'n cael ei wrthod, felly pan gefais ateb yn dweud i mi fod yn llwyddiannus, cefais sioc!

“Cyn i mi gael llawdriniaeth, dechreuais fwyta'n fwy iach a mynd yn fwy ffit i baratoi ar gyfer y llawdriniaeth. Dechreuais fynd allan i gerdded, yna trodd y cerdded yn redeg a llwyddais i redeg hyd at 5k. Dechreuais ei fwynhau, a dyna pam gosodais nod i redeg ras fawr. Ni feddyliais i erioed y byddwn yn cymryd rhan mewn hanner marathon.

“Rwy'n gosod nodau i fy hun yn aml a gydag ychydig o anogaeth gan fy mhartner, Wayne, penderfynais drio fy ngorau. Lawrlwythais ap rhedeg hanner marathon, a dilynais hwnnw'n fanwl a cynyddu'r milltiroedd. Llwyddais i gyrraedd 10 milltir a chofrestrais, hyd yn oed, i 10k Bae Abertawe.”

Ond yn anffodus, ychydig ddiwrnodau cyn y 10k, cafodd Melinda brawf positif i Covid-19 a bu'n rhaid iddi dynnu nôl.

Dywedodd: “Roeddwn wir yn edrych ymlaen at y ras am fy mod yn credu y byddai'n ffordd dda o baratoi ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd. Roeddwn yn siomedig, yn enwedig ar ôl i mi dreulio cymaint o amser yn hyfforddi. Ni redais am bythefnos ac yna'r pythefnos cyn yr hanner marathon meddyliais y dylwn geisio rhedeg. Prin y llwyddais i redeg unrhyw bellter ac roeddwn i'n teimlo mor wael roedd rhaid i mi eistedd ar fainc i gael fy ngwynt ataf.

“Doeddwn i ddim yn gwybod beth i'w wneud am fod cymaint o bobl wedi fy noddi ac roeddwn wedi derbyn lle elusennol gan Ambiwlans Awyr. Teimlais fy mod yn mynd i siomi pawb.

“Yn ffodus iawn, wrth i'r wythnosau fynd heibio, dechreuais deimlo'n well. Er i mi fod yn bryderus, roeddwn yn ddiolchgar fy mod yn gallu mynd, hyd yn oed os y byddwn yn gorfod cerdded y daith.”

Ddydd Sul Hydref 2, llwyddodd Melinda i gwblhau Hanner Marathon Caerdydd mewn 2 awr a 44 munud a chododd £360 i Ambiwlans Awyr Cymru.

Mae angen i'r Elusen godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Wrth feddwl am y ras, dywedodd: “Wrth i mi feddwl amdani, alla i ddim credu fy mod wedi rhedeg hanner marathon. Os na fyddwn wedi cael yr holl nawdd, mae'n debyg y byddwn wedi rhoi'r gorau iddi am fy mod yn teimlo mor sâl. Ond rywsut, llwyddais i'w chwblhau, ac mae'n dal i fy synnu i feddwl beth rwyf wedi ei gyflawni.

“Roedd yr awyrgylch yn anhygoel ar y diwrnod. Roedd yr egni gan bobl o'ch cwmpas ar hyd y strydoedd yn codi'r galon, ac roedd pawb yn rhan o ysbryd y digwyddiad. Cyn Covid roeddwn i fwy na thebyg rhyw 30 munud yn gyflymach, felly roeddwn i'n hapus gyda fy amser. Rwy'n falch o fod wedi ei gorffen!

“Mae fy nheulu wedi bod yn gefnogol iawn ac er eu bod wedi poeni sut byddwn yn mynd ati, rwy'n meddwl eu bod yn fy adnabod yn ddigon da i wybod pan fyddaf yn ymrwymo i rywbeth, byddaf yn trio fy ngorau. Rwy'n meddwl eu bod yn falch iawn ohonof ac yn poeni bod eu mam yn fwy ffit na nhw mae'n siwr!

“Rwy'n hynod ddiolchgar i bawb a roddodd nawdd i mi. Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn wasanaeth hynod bwysig ac roedd gwybod fy mod yn codi arian i'r Elusen yn rhoi'r cymhelliant i mi gymryd rhan yn y ras pan nad oeddwn i'n teimlo'n dda. Hoffwn gofrestru i fwy o ddigwyddiadau sy'n mynd rhagddynt ond dydw i ddim yn meddwl y bydd unrhyw beth yn well na hyn.”

Mae gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch ledled Cymru. Caiff ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y trydydd sector a'r sector cyhoeddus, rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, a'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru).

O ganlyniad, mae'r gwasanaeth yn un a arweinir gan feddygon ymgynghorol a chaiff ei adnabod fel ‘adran achosion brys sy'n hedfan’, gan fynd â thriniaethau o safon ysbyty i'r claf ar safle'r digwyddiad. Mae hyn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad.

Dywedodd Hannah Bartlett, un o Swyddogion Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Dylai Melinda fod yn falch iawn ohoni ei hun, ac mae ei stori yn hynod ysbrydoledig. Gwthiodd ei hun i'r eithaf ac roedd yn benderfynol o beidio â rhoi'r gorau iddi.  

“Drwy ei hymrwymiad llwyddodd i gyflawni ei nod personol yn ogystal â chodi £360, a fydd yn helpu i achub bywydau.”