Ar 21 Mehefin y llynedd, newidiodd bywyd Lynne Press am byth pan fu farw Ethan, ei hŵyr, mewn damwain car ddifrifol.

Roedd Ethan, 22 oed, yn gyrru ger Pen y Fan pan darodd gart lludw, a chafodd anafiadau a beryglodd ei fywyd.

Daeth dau barafeddyg, a oedd yn digwydd bod yn teithio i'r cyfeiriad arall, i gynnig cymorth brys cyn i Ambiwlans Awyr Cymru gyrraedd y safle i ddarparu gofal critigol. Cafodd Ethan anafiadau a beryglodd ei fywyd a threuliodd bythefnos yn yr uned gofal dwys.

Dywedodd Lynne, 65 oed, sy'n byw drws nesaf i'w hŵyr yn Townhill, Abertawe, fod y gofal a'r cymorth a gafodd Ethan yn ardderchog a diolchodd i bawb a chwaraeodd eu rhan i'w helpu ar ei daith i wella.

Dywedodd: “Gwelsom yr heddlu yn stopio y tu allan i'r tŷ cyn mynd i mewn ac rwy'n cofio clywed fy merch yn sgrechian. Aethom i mewn i weld beth oedd yn bod a dywedodd swyddog yr heddlu wrthym am y ddamwain.

“Aethom i'r ysbyty yng Nghaerdydd ar unwaith a dywedwyd wrthym y dylem ofni'r gwaethaf. Roedd fel breuddwyd, yr aros a meddwl beth oedd yn digwydd. Diolch byth, yn erbyn yr holl ddisgwyliadau, daeth Ethan drwyddi ac mae bellach yn ôl yn gweithio.

“Mae'n frawychus meddwl am yr hyn a allai fod wedi digwydd ac mae pob un ohonom yn ddiolchgar iawn i Ambiwlans Awyr Cymru a staff yr ysbyty am helpu i achub ei fywyd. Allwn ni fyth eu had-dalu ddigon am yr hyn a wnaethant.”

Roedd y fam-gu i bump mor ddiolchgar i'r Elusen, penderfynodd ystyried gwirfoddoli.

Ar ôl iddi ymddeol yn gynnar, roedd Lynne am roi rhywbeth yn ôl i'r Elusen a achubodd fywyd ei hŵyr.

Aeth Lynne, a fu'n glanhau yng Nghanolfan Siopa Quadrant am 23 o flynyddoedd, i'w siop elusen leol yng nghanol dinas Abertawe a gofynnodd a fyddai'n bosibl iddi wirfoddoli am ychydig o oriau'r wythnos.

Dywedodd: “Pan ddaeth Ethan allan o'r ysbyty, roeddwn yn teimlo bod angen i mi wneud rhywbeth i ddweud diolch. Roeddwn am helpu'r Elusen a helpodd i achub bywyd fy ŵyr. Dydych chi ddim yn meddwl y bydd angen Ambiwlans Awyr Cymru arnoch; rydych yn ei gymryd yn ganiataol pan fyddwch yn ei weld. Dydw i ddim yn credu y byddai Ethan yma heddiw oni bai amdanyn nhw.

“Rwy'n gwirfoddoli bob dydd Gwener am bedair awr y dydd ac yn mwynhau yn fawr. Doeddwn i ddim wedi ystyried gwirfoddoli o'r blaen, ac rwyf wedi gwneud cymaint o ffrindiau ers dechrau cyn y Nadolig.

“Mae'n le hyfryd, ac mae pawb yn gyfeillgar iawn. Helpu yn y stordy rwy'n ei wneud yn bennaf, ond o bryd i'w gilydd byddaf yn helpu yn y siop hefyd. Yr unig beth gwael am wirfoddoli yn y siop yw fy mod yn gwario gormod yno! Mae eitemau anhygoel yn cael eu rhoi i ni.

“Mae gwirfoddoli yn fy ngalluogi i gael amser i mi fy hun yn ogystal â gwneud rhywbeth gwerth chweil. Mae gwybod y gallwn helpu pobl eraill fel Ethan yn deimlad arbennig.”

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar ei gwirfoddolwyr mewn sawl ffordd ac mae eu cefnogaeth yn helpu i sicrhau y gall y gwasanaeth weithredu 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, er mwyn darparu gofal critigol i rai o'r bobl sydd wedi cael yr anafiadau a'r salwch mwyaf difrifol ledled Cymru.

Dywedodd Lynne: “Byddwn yn annog pobl i wirfoddoli hyd yn oed os mai dim ond am ychydig oriau y byddwch yn gwneud hynny. Mae'n ffordd wych o gyfarfod â phobl, dysgu sgiliau newydd a gwneud rhywbeth a fydd yn helpu eraill. Hefyd, mae'n beth da i bobl ifanc ei nodi ar eu CV.

“Oni bai am Ambiwlans Awyr Cymru, efallai na fyddai fy ŵyr yma heddiw. Dydych chi ddim yn disgwyl ffarwelio â'ch anwyliaid yn y bore a chlywed eu bod wedi bod mewn damwain. Rydym yn ffodus iawn bod Ethan yma gyda ni heddiw i'n helpu i barhau i greu mwy o atgofion teuluol. Gallai'r sefyllfa fod wedi bod yn hollol wahanol.”