Ymwelodd Maeres Rhondda Cynon Taf, Wendy Treeby, â Gorsaf Awyr Ambiwlans Awyr Cymru yng Nghaerdydd yn ddiweddar ar ôl iddi ddewis Ambiwlans Awyr Cymru fel un o'i helusennau ar gyfer y flwyddyn.

Yn ogystal â'r elusen achub bywydau, mae Wendy hefyd wedi dewis dwy elusen arall – y Gymdeithas Strôc a Marchogaeth i'r Anabl Green Meadow – ar gyfer ei hymdrechion codi arian.

Yn ystod ei hymweliad â'r orsaf awyr, cyfarfu'r faeres â meddygon Ambiwlans Awyr Cymru. Ychwanegodd Wendy: “Roedd yr ymweliad yn ardderchog. Roeddwn wrth fy modd. Cefais groeso hyfryd gan y meddygon a'r staff ar y ddaear ac roeddent yn fwy na pharod i ateb yr holl gwestiynau a oedd gennyf. O ganlyniad, mae gennyf well dealltwriaeth o lawer o'r ffordd y mae Ambiwlans Awyr Cymru yn gweithredu, yr hofrennydd, pwysigrwydd staff da ar y ddaear a'r ffaith bod cyllid mor hanfodol.”

Mae gwasanaeth brys Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.   

Mae'r Faeres wedi cynllunio sawl digwyddiad codi arian ar gyfer ei chyfnod yn y swydd gan gynnwys cwis i dimau, bowlio deg a sawl diwrnod hwyl, lle mae Wendy yn gobeithio cynnal stondin a all godi ymwybyddiaeth ac arian.

Gan ystyried pam y dewisodd yr elusen ar gyfer ei digwyddiadau codi arian, ychwanegodd Wendy: “Rwyf wedi cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru ers sawl blwyddyn. Dechreuais gasglu arian i Ambiwlans Awyr Cymru yng nghylchffordd rasio moduron Pembre a llwyddais i godi miloedd o bunnoedd yno.

“Rwyf wedi gweld Ambiwlans Awyr Cymru ar waith yn bersonol ac mae'r gwasanaeth y mae'n ei gynnig wedi datblygu dros y blynyddoedd. Mae'n rhan hanfodol o bob cymuned.”

Mae gan Wendy hefyd reswm personol dros gefnogi'r elusen gan fod ei nai, Tim Manfield, yn un o'r meddygon ymgynghorol sy'n rhan o dîm Ambiwlans Awyr Cymru.

“Rwy'n ymwybodol o ba mor galed y mae'n gweithio a'r cymwysterau ychwanegol y mae wedi'u hennill er mwyn dod yn rhan o Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'n bleser mawr gennyf gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru”,  ychwanegodd Wendy.

Dywedodd Laura Coyne, un o Swyddogion Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael ein dewis fel un o elusennau penodol y faeres yn ystod ei chyfnod fel maeres Rhondda Cynon Taf. Drwy ei chyswllt teuluol â'r elusen, mae Wendy yn gwybod pa mor galed y mae tîm Ambiwlans Awyr Cymru yn gweithio i ddarparu'r gwasanaeth achub bywydau i bobl Cymru. Mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £8 miliwn y flwyddyn i barhau â'i wasanaeth 24/7. Bydd cefnogaeth, fel y gefnogaeth hon, yn ein helpu i achub mwy o fywydau. Dymunwn bob llwyddiant i Wendy yn ei hymdrechion yn y dyfodol i godi arian i dri achos pwysig.”