Mae'r rhan fwyaf o bobl yn treulio Dydd Nadolig yng nghwmni teulu a ffrindiau, yn agor anrhegion mewn siwmperi disglair ac yn llenwi eu boliau â bwydydd Nadoligaidd.

Fodd bynnag, gall 25 Rhagfyr fod yn wahanol iawn i dîm Ambiwlans Awyr Cymru sy'n gweithio dros y gwyliau ac yn aros wrth law er mwyn helpu'r rhai sydd mewn angen.

Mae'r Nadolig yn “ddiwrnod arferol” yn y gwaith i Ambiwlans Awyr Cymru, ond gydag ychydig o hud yr ŵyl a chwmnïaeth.

Dywedodd Rebecca Cann, Dyrannwr Gofal Critigol, ei bod yn teimlo bod treulio'r diwrnod gyda'i chydweithwyr fel bod gydag ail deulu.

Dywedodd: “Rydyn ni'n treulio'r diwrnod gyda theulu, ond nid ein teulu gartref. Mae ein teulu gwaith yn debyg i deulu go iawn, ac rydyn ni yno i sicrhau bod pawb yn cael y diwrnod gorau posibl a helpu pobl lle y gallwn wneud hynny.

“Mae gweithio ar Ddydd Nadolig yn union fel unrhyw ddiwrnod arall. Mae'n rhaid i ni fod yn gwbl barod bob dydd o'r flwyddyn a gobeithio, drwy fod yno, y gallwn droi beth a allai fod yn ddiwrnod gwaethaf bywyd rhywun yn ganlyniad gwell."

Mae angen i'r Elusen ar gyfer Cymru gyfan godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffyrdd ledled Cymru, 24/7 – hyd yn oed ar Ddydd Nadolig. 

Dyna pam ei bod yn gofyn i bobl gefnogi Ymgyrch Nadolig y Big Give rhwng hanner dydd ddydd Mawrth, 29 Tachwedd a hanner dydd ddydd Mawrth, 6 Rhagfyr 2022. Yn ystod yr wythnos hon, caiff yr holl roddion a wneir eu cyfateb, sy'n golygu y bydd rhodd o £10 yn cael ei dyblu i £20. Bydd hyn yn helpu'r Elusen i barhau i wasanaethu Cymru ac achub bywydau. Un rhodd, dwbl yr effaith.

Rhaid i'r rhoddion gael eu gwneud trwy dudalen we bwrpasol yr Her Nadolig (https://bit.ly/BigGiveWAAC). Ni fydd unrhyw roddion a wneir trwy wefan Ambiwlans Awyr Cymru yn cael arian cyfatebol.

Thema Ambiwlans Awyr Cymru ar gyfer yr Her Nadolig yw ‘Ein Harwyr Nadolig’. Bydd yr Elusen yn amlygu meddygon, peilotiaid a dyranwyr, a fydd i gyd wrth law, yn barod i ddarparu ymyriadau gofal critigol i'r sawl sydd mewn angen dros dymor y Nadolig.

Nid Siôn Corn fydd yr unig un fydd yn gweithio dros y Nadolig. Tra bydd llawer o bobl gyda'u teuluoedd a'u hanwyliaid y Nadolig hwn, bydd Ambiwlans Awyr Cymru yn parhau i wasanaethu pobl Cymru. Dyma arwyr y Nadolig Ambiwlans Awyr Cymru, Rebecca Cann, Dyrannwr Gofal Critigol, Edward Terry, Cydbeilot a Mike Palmer, Ymarferydd Gofal Critigol, yn siarad am weithio ar Ddydd Nadolig a'r hyn y maen nhw'n ei fwynhau am gyfnod y Nadolig.

Allwch chi ddweud wrthyf am eich diwrnod arferol ac a fydd dydd Nadolig yn wahanol i hyn?

Mike Palmer: "Byddai diwrnod arferol yr un peth ag arfer. Byddwn yn cyrraedd y gwaith, yn gwisgo ein hiwnifform ac yn trefnu ein hoffer. Yna byddwn yn paratoi'r hofrennydd a'r cerbyd ymateb cyflym er mwyn bod yn barod ar gyfer yr alwad nesaf.”

Edward Terry: “Bydd Dydd Nadolig yr un fath â'r rhan fwyaf o sifftiau. Byddwn yn dechrau'r diwrnod gyda chyfarfod briffio ac yna'n paratoi'r hofrennydd. Unwaith y byddwn yn barod mae angen i ni fod ar gael i ymateb i unrhyw alwadau. Felly, digon tebyg i bob diwrnod arall. Efallai y byddwn yn dathlu ychydig yn ystod y dydd, ond bydd yr un fath ag arfer, fwy neu lai.”

Sut beth yw tymor y Nadolig i Ambiwlans Awyr Cymru?

Rebecca Cann: "Gall cyfnod y Nadolig fod yn amser prysur i ni. Mae yna lawer o ddathliadau yn mynd yn eu blaen, llawer o bobl yn mynd ar feiciau nad ydynt wedi bod arnynt o'r blaen ac yn disgyn oddi arnynt, felly pan fyddwch chi'n dathlu cofiwch fod yn ddiogel."

Edward Terry: "Gall y tywydd gael effaith mawr ar lle rydym yn hedfan felly mae'n rhaid i ni fod yn wyliadwrus o ran cymylau a gwelededd isel. Mae'n rhaid i ni feddwl am amodau rhewllyd, felly gall y gaeaf fod yn eithaf oer."  

Pryd y byddwch yn dathlu eich Nadolig?

Rebecca Cann: “Byddwn yn dathlu'r Nadolig ar 19 Rhagfyr eleni, pan na fyddaf yn gweithio, er mawr lawenydd i fy mhlant, a fydd yn cael agor eu hanrhegion wythnos yn gynnar. Mae'n rhywbeth rydyn ni wedi ei wneud dros yr 11 mlynedd diwethaf, ers i ni gael plant. Maen nhw wedi arfer bellach, ond maen nhw'n falch am eu bod yn gwybod bod pobl angen help bob dydd o'r flwyddyn.”

Mike Palmer: "Pan rwyf wedi gweithio ar Ddydd Nadolig yn y gorffennol a phan fyddaf yn gweithio ar Ddydd Nadolig yn y dyfodol, byddaf fel arfer yn dathlu'r Nadolig ychydig ddiwrnodau ynghynt gyda theulu, ffrindiau ac anwyliaid felly rydym yn cael diwrnod arferol, gydag anrhegion a bwyd, ac yn dathlu gyda'n gilydd."

 

Beth yw eich hoff beth am y Nadolig?

Rebecca Cann: "Fy hoff beth am y Nadolig yw'r cyfnod sy'n arwain at y Nadolig.  Rwy'n hoff o'r teimlad o amgylch y tymor. Mae popeth ychydig yn fwy sgleiniog ac mae ffrindiau a theulu yn dod ynghyd, boed hynny ar Ddydd Nadolig neu unrhyw ddiwrnod arall, os ydych yn gweithio fel rydyn ni'n ei wneud yn y gwasanaethau brys." 

Edward Terry: "Fy hoff beth am y Nadolig yw ei dreulio gyda'r teulu. Yn amlwg, pan fyddwch chi ar sifft byddwch yn ei dreulio gyda'ch teulu gwaith, fel y byddwn yn ei alw. Treulio amser gyda'n gilydd yw'r peth gorau am y Nadolig."

 

Beth yw eich atgof mwyaf balch?

Edward Terry: “Rwyf wedi bod yn beilot ers deng mlynedd ac yn beilot masnachol ers pum mlynedd. Fy atgof mwyaf balch yw dechrau gweithio i Ambiwlans Awyr Cymru. Rydw i bob amser wedi eisiau gweithio fel peilot i Ambiwlans Awyr Cymru ac mae gwireddu hynny yn gyflawniad ac yn freuddwyd gydol oes. Felly, fy atgof mwyaf balch yw dod yn gydbeilot yma yng Nghaerdydd, yn enwedig gyda'r gwasanaeth 24 awr. Mae hi'n swydd dda iawn.” 

Mike Palmer: "Clywed straeon am gleifion yn gwella, yn mynd yn ôl at eu hanwyliaid ac yn treulio'r Nadolig gyda'i gilydd unwaith eto."

 

Ydych chi erioed wedi gweld Siôn Corn wrth i chi hedfan at gleifion ledled Cymru?

Edward Terry: "Pan fyddwn ni'n gweithio yn ystod y nos, mae'n rhaid i ni fod yn wyliadwrus am Siôn Corn ar ei sled.  Mae bod yn wyliadwrus yn un o ddyletswyddau'r criw felly mae pawb ar yr hofrennydd yn cadw llygad am Siôn Corn er mwyn gwneud yn siŵr bod y goleuadau ymlaen ar ei sled fel na fyddwn ni'n taro i mewn iddo wrth lanio. Mae edrych allan amdano yn flaenoriaeth."

 

Dyblwch eich rhoddion i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru drwy Her Nadolig y Big Give 2022 drwy ymweld â https://bit.ly/BigGiveWAAC rhwng hanner dydd ddydd Mawrth, 29 Tachwedd a hanner dydd ddydd Mawrth, 6 Rhagfyr 2022.