12 mis yn ôl, fe brynodd Meinir Howells, sy’n cyflwyno FFERMIO, gyda’i gŵr Gary, heffer ar ran y rhaglen boblogaidd amaethyddol hon. Y syniad oedd bridio gyda hi ac wedyn gwerthu hi fel buwch a llo wrth droed, gydag unrhyw elw yn mynd tuag at elusen.

Enwyd yr heffer yn Presila Preseli gan wylwyr y rhaglen, sydd wedi cadw llygaid barcud ar ei hanes ar fferm Meinir a Gary, ym Mhentrecwrt ger Llandysul. O brofi rhag TB i’w sgan gyntaf ac wedyn y geni, ‘Siocled” y llo bach benyw (a enwyd gan Sioned merch Meinir a Gary), mae’r gwylwyr wedi bod yn ffyddlon gan ddangos diddordeb mawr yn yr hanes.

Nawr mae’r amser wedi dod i Presila a’i llo gael eu gwerthu, a byddan nhw’n mynd o dan y morthwyl ar ddydd Gwener y 14eg o Fai. Byddan nhw’n cael eu gwerthu yn sêl ‘stoc magu’ ym mart Llanymddyfri sy’n dechrau am 12pm.

Yn siarad cyn yr arwerthiant, dywedodd Meinir: “Mae wedi bod yn anrhydedd cymryd at y cyfrifoldeb o ofalu am Presila gan ddod at y pwynt lle mae wedi cael llo benyw iach.  Fel mae pawb sy’n ymwneud â ffermio’n gwybod, mae’n sialens a hanner. Y diwrnod y cafodd Presila ei sganio er mwyn cael gweld a oedd llo ynddi, o’n i’n fwy nerfus nag erioed bron!”

Aeth ymlaen: “Ni wedi cyrraedd y pwynt lle mae Presila a Siocled yn barod i gael eu gwerthu a thra bydd Gary a finne yn drist o weld nhw’n mynd, ni’n gobeithio y bydd ein gwaith caled a’n gofal yn talu ar ei ganfed a bydd y ddwy yn codi tipyn o arian i elusen Ambiwlans Awyr Cymru.”

Mae FFERMIO wedi dewis rhoi’r arian o’r sialens anarferol hon i Ambiwlans Awyr Cymru oherwydd ei bwysigrwydd wrth achub bywydau o fewn ein cymunedau gwledig. Yn ôl Gwawr Lewis, cynhyrchydd y gyfres: “Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu’n llwyr ar roddion elusennol ac yn gorfod codi tua £8miliwn bob blwyddyn. Ni’n falch o allu helpu mewn ffordd fach gan obeithio y bydd ffermwyr yn mynd yn ddwfn i’w pocedi i brynu Presila a’i llo. Byddai’n grêt gallu trosglwyddo siec go fawr i’r elusen ar ôl yr arwerthiant yn Llanymddyfri.”

Bydd y tîm yn Ambiwlans Awyr Cymru yn cadw llygad ar y cylch gwerthu yn Llanymddyfri. Dywedodd Elin Wyn Murphy, cydlynydd codi arian yr elusen: “Ni’n hynod o ddiolchgar i FFERMIO am ddewis cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Ein nod yw cadw gwasanaeth achub bywyd 24/7 i Gymru gyfan, gan gynnwys ardaloedd diarffordd ein cymunedau amaethyddol. Dim ond drwy weithgareddau codi arian fel hyn mae’n bosib i ni gadw i neud hyn.”

Mae FFERMIO yn un o gyfresi hiraf S4C sydd wedi bod yn darlledu ers 1997. Mae pwyslais unigryw y rhaglen ar ffermio a materion gwledig yn denu ffigurau gwylio uchel iawn yn gyson. Gwyliwch FFERMIO am 9.00pm ar S4C ar nos Lun yr 17eg o Fai i weld faint o arian gododd Presila a’i llo ar gyfer elusen.

Mae ‘Ffermio’ yn gynhyrchiad gan Telesgop i S4C.