Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn falch iawn o fod wedi cael ei dewis fel Dewis Elusen Her Llwybr Gro Cambria.

Bydd yr her feicio deuddydd yn digwydd y penwythnos hwn (29 Gorffennaf a 30 Gorffennaf) a bydd dros 150 o feicwyr yn beicio ar ac oddi-ar y ffordd.

Yn dilyn llwyddiant y prawf ddigwyddiad yn ystod haf llynedd, bydd y ras yn dechrau o Drefydo ar ffin Lloegr i Gwm Elan yn y canolbarth ac yna ar draws Mynyddoedd Cambria ar hyd Clawdd Offa cyn dod yn ôl y diwrnod canlynol.

Gan deithio 90km pob diwrnod, mae'r digwyddiad yn agored i feicwyr gro a mynydd sy'n chwilio am rai o lwybrau gorau'r DU gyda golygfeydd godidog a chefnogaeth anhygoel gan drefnwyr digwyddiad Beicio Bagman. 

Dywedodd Owen Watkins, o Beicio Bagman: "Rydym yn edrych ymlaen at gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru eleni. Nid digwyddiad elusennol yn unig yw hwn ond rydyn ni wastad yn hoff o roi yn ôl i'r gymuned leol.

"Gwnaethom gynnal pleidlais gyflym o gwmpas y swyddfa ac Ambiwlans Awyr Cymru daeth yn fuddugol. Roeddwn i wedi gwirioni.

"Fel beicwyr antur ein hunain, rydym yn hollol ymwybodol o'r holl beryglon posibl a all ddigwydd pan fydden ni'n bell o gymorth ac mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gwasanaeth amhrisiadwy i ni a'r rheini sy'n caru bod allan yn yr awyr agored.

Mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £8 miliwn y flwyddyn i weithredu ei gwasanaeth achub bywydau ac mae'n dibynnu ar roddion hael gan ei chefnogwyr ffyddlon. 

Ers sefydlu'r Elusen ar 1 Mawrth, 2001, mae wedi ymateb i fwy na 45,500 o alwadau ac yn darparu gwasanaeth brys 24 awr y dydd i'r rheini sy'n wynebu salwch neu anafiadau sy'n peryglu bywyd.

Dywedodd Helen Pruett, un o Swyddogion Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: "Hoffem ddiolch i Feicio Bagman am ddewis ein Helusen sy'n achub bywydau fel eu Dewis Elusen eleni ar gyfer Her Llwybr Gro Cambria.

“Bydd eich rhodd anhygoel yn ein helpu i barhau i wasanaethu pobl Cymru pan fydd ein hangen arnynt fwyaf, boed hynny yn yr awyr neu ar y ffordd. Caiff eich cefnogaeth ei werthfawrogi'n fawr a phob lwc i bawb fydd yn cymryd rhan yn y digwyddiad deuddydd y penwythnos hwn.

Mae rhagor o fanylion am Sialens Graean Cambria i'w gael yn https://www.bagman.website/cambrian-challenge/