Cyhoeddwyd: 22 Ionawr 2024

Mae angen eich help ar Ambiwlans Awyr Cymru i godi arian gyda digwyddiad newydd sbon.

Mae'r Elusen yn falch o lansio ei digwyddiad codi arian 'Coffi a Chacen' cyntaf erioed, a gynhelir ym mis Mawrth i helpu i godi'r £11.2 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Gofynnir i'r cefnogwyr ymgynnull a chynnal eu Parti Coffi a Chacen eu hunain ar ran y gwasanaeth sy'n achub bywydau.

Cynhelir y digwyddiad newydd sbon drwy gydol mis Mawrth i nodi 23 mlynedd ers sefydlu'r Elusen Cymru gyfan, a bydd yn galluogi cyfranogwyr i ddewis amser a lle sy'n addas ar eu cyfer nhw.

Boed yn ddigwyddiad gyda'ch teulu a'ch ffrindiau, yn barti yn eich ysgol neu swyddfa, mae'r digwyddiad hwn yn agored i bawb - ar-lein ac wyneb yn wyneb.

Beth am ymuno yn y dathliadau a chodi arian i helpu'r Elusen i ddarparu gofal critigol sy'n achub bywydau ledled Cymru, lle bynnag a phryd bynnag y bydd ei angen. 

Dywedodd Tracey Breese, un o Swyddogion Codi Arian Digwyddiadau a Phartneriaeth Ambiwlans Awyr Cymru: "Rydym yn galw ar ein cefnogwyr arbennig i'n helpu ni, unwaith eto, i wneud y digwyddiad newydd hwn yn llwyddiant enfawr. Mae Coffi a Chacen yn ddigwyddiad codi arian newydd i'r Elusen, ac mae wedi'i anelu at bawb.

"Beth am fanteisio ar y cyfle hwn i gael teulu at ei gilydd neu gwrdd â hen ffrindiau a chodi arian hanfodol i Ambiwlans Awyr Cymru ar yr un pryd. Mae pawb yn mwynhau dal i fyny â phobl gyda darn o gacen, a pha ffordd well o gynnal digwyddiad codi arian - p'un a ydych yn rhan o grŵp cymunedol, ysgol, busnes neu'n unigolyn. Os ydych yn dathlu digwyddiad arbennig ym mis Mawrth ac am wneud rhywbeth da er budd elusen, gallwch hyd yn oed gynnal y digwyddiad Coffi a Chacen yr adeg honno i nodi'r garreg filltir arbennig."

Bydd y rhai sy'n cofrestru i gynnal eu digwyddiad codi arian Coffi a Chacen eu hunain er mwyn gwneud gwahaniaeth, yn cael llu o ddeunyddiau codi arian arbennig, sy'n cynnwys pecyn codi arian, adnoddau digidol, gwahoddiadau, posteri a labeli cacennau.

Does dim ots a ydych yn bobydd o fri neu fod yn well gennych brynu eich cacennau o siop, bydd yr arian a wnewch drwy werthu eich bwydydd blasus yn cefnogi'r Elusen sy'n achub bywydau, ac mae'n gyfle perffaith i ddod â theulu, ffrindiau neu gydweithwyr at ei gilydd.

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol.

Caiff ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.  

Gallwch gofrestru ar www.walesairambulance.com/sign-up. Os byddwch yn cofrestru yn ystod mis Mawrth ni fyddwch yn cael pecyn codi arian, fodd bynnag bydd adnoddau digidol yr Elusen ar gael i'r unigolyn sy'n trefnu'r digwyddiad.

Wrth gofrestru, byddwch hefyd yn cael mynediad at grŵp Facebook Coffi a Chacen, lle gallwch rannu'r wybodaeth ddiweddaraf a dod yn rhan o gymuned Coffi a Chacen. I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch [email protected].