Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn galw ar ei chefnogwyr i leisio eu barn a phleidleisio dros enw ar gyfer yr hofrennydd diweddaraf i ymuno â'r fflyd. 

Ym mis Chwefror eleni, cyhoeddodd Ambiwlans Awyr Cymru fod Gama Aviation wedi gwneud cais llwyddiannus am y contract saith mlynedd i ddarparu gwasanaethau hedfanaeth i'r ambiwlans awyr yng Nghymru, yn dechrau ar 1 Ionawr 2024.

Mae contact Gama, sy'n werth £65 miliwn, yn cynnwys gweithredu a chynnal a chadw fflyd sylfaenol o bedwar hofrennydd Airbus H145. Ar hyn o bryd, mae'r fflyd yn cynnwys tri hofrennydd H145 ac un hofrennydd H135 llai. Pan fydd y contract newydd yn dechrau, bydd H145 yn cyrraedd yn lle'r H135, a fydd yn sicrhau fflyd barhaus o hofrenyddion datblygedig.

Mae'n rhaid i gofrestriad gael ei ddyrannu i bob hofrennydd yn unol â deddfwriaeth Awdurdod Hedfan Sifil. Mae hyn yn golygu bod angen cofrestru hofrennydd newydd yr Elusen a gofynnir i'r cyhoedd ddewis yr enw unigryw hwnnw.

Dywedodd Dr Sue Barnes, Prif Weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae cofrestriad hofrennydd, yn debyg i rif cerbydau, yn ddull adnabod hofrennydd sifil. Yn y Deyrnas Unedig, mae hofrenyddion sifil yn dechrau gyda'r rhagddodiad ‘G-‘ ac yna cyfres o lythrennau i ddilyn.

“Geiriau Cymraeg yw pob cofrestriad presennol ein hofrenyddion H145 sy'n cynrychioli'r gwasanaeth a ddarperir gan ein Helusen sy'n achub bywydau. Mae'r enwau yn cynnwys G-WOBR, i gynrychioli gwobr, G-WROL, i gynrychioli dewrder a G-WENU, i gynrychioli gwên.

“Mae pob un o'n hofrenyddion yn cael eu hariannu gan bobl Cymru, felly rydym yn gofyn i'n cefnogwyr ein helpu i ddewis y cofrestriad ar gyfer ein hofrennydd H145 newydd.” 

Gall cefnogwyr gymryd rhan yn y bleidlais ar-lein drwy ddewis yr enw sydd orau ganddynt o'r rhestr o opsiynau, fel a ganlyn:

·        G-IARD - i gynrychioli gwarchod/amddiffyn.

·        G-LOYW - i gynrychioli llachar/disglair

·        G-WYDN - i gynrychioli rhywbeth cadarn.

·        G-YRRU - i gynrychioli gyrru/anfon

·        G-NHDL - talfyriad am Cenedl 

Mae'r bleidlais ar agor rhwng dydd Mawrth 29 Awst a 9pm ddydd Llun 4 Medi.

Ychwanegodd Dr Sue Barnes: “Gyda miloedd o gofrestriadau eisoes wedi'u dyrannu, mae nodi rhestr o opsiynau posibl wedi bod yn her i ni. Fel Elusen Gymreig falch, mae'n bwysig i ni ein bod yn cynnal yr iaith Gymraeg ar gyfer enwau ein hofrenyddion. 

“Rydym yn gobeithio y bydd ein cefnogwyr yn cymryd amser i bleidleisio ac rydym yn gyffrous i weld beth fydd enw'r hofrennydd newydd.”

Er mwyn dweud eich dweud am yr enw newydd, ewch i https://bit.ly/NameYourAircraft

Bydd Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cyhoeddi'r enw a ddewiswyd ar ei sianeli cyfryngau cymdeithasol unwaith y bydd y bleidlais wedi cau.