Dathlodd mam-gu hael ei phen-blwydd yn 100 oed drwy ofyn i'w ffrindiau a'i theulu godi arian ar gyfer elusen hofrenyddion Cymru sy'n achub bywydau.

Mae Lora Pugh, o Llanidloes, wedi codi £1,050 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl cael rhoddion hael oddi wrth ffrindiau a theulu.

Nid dyma'r tro cyntaf i'r fenyw garedig ofyn am roddion ar gyfer yr elusen yn hytrach na chael anrhegion. Rhoddodd Mrs Pugh arian i'r elusen pan ddathlodd ei phen-blwydd yn 90 oed hefyd.

Mae'r teulu cyfan wedi bod yn gefnogwyr brwd o Ambiwlans Awyr Cymru ac wedi bod yn dangos eu haelioni tuag at yr Elusen ers blynyddoedd lawer.

Dywedodd Mark Stevens, Rheolwr Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru: “Pen-blwydd Hapus yn 100 oed i Mrs Pugh. Mae'n hyfryd clywed straeon fel hyn, yn enwedig yn ystod y cyfnod anodd hwn. Diolch yn fawr iawn i bawb a roddodd arian i ddathlu carreg milltir ei phen-blwydd yn 100 oed. Bydd yr arian a godwyd yn helpu i barhau i redeg ein gwasanaeth 24/7 sy’n achub bywydau.”

Bydd Ambiwlans Awyr Cymru yn dathlu ei phen-blwydd yn 20 oed ar 1 Mawrth. Ym mis Rhagfyr, llwyddodd yr Elusen i wireddu ei gweledigaeth i ddod yn wasanaeth 24/7. Ni fyddai Ambiwlans Awyr Cymru yn y sefyllfa hon heddiw heb bobl Cymru a'u haelioni anhygoel. Er mwyn cadw'r hofrenyddion yn yr awyr 24/7, mae angen i'r Elusen godi £8 miliwn y flwyddyn.

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru, fel Mrs Pugh. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.